xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 3(2), 3(3), 4, 5, 6, 7, 8 a 9

ATODLEN 1YR AMODAU CYFFREDINOL Y MAE'N RHAID CADW ANIFEILIAID A FFERMIR ODANYNT

Staffio

1.  Rhaid i anifeiliaid dderbyn gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.

Archwilio

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i bob anifail a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle bydd eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i weld eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau heblaw systemau hwsmonaeth y mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddef.

(3Er gwaethaf is-baragraffau (1) a (2), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —

(a)yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;

(b)yn achos lloi, paragraffau 3 a 4 o Atodlen 4; ac

(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6.

3.  Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid cael digon o oleuadau (naill ai'n sefydlog neu'n symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.

4.  Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

5.  Os yw'n ymddangos bod unrhyw anifail yn sâl neu wedi'i anafu —

(a)rhaid gofalu amdano'n briodol heb oedi; a

(b)os nad yw'n ymateb i'r gofal hwnnw, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted â phosibl.

6.—(1Os oes angen, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych, lle bo hynny'n briodol.

(2Er gwaethaf is-baragraff (1), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —

(a)yn achos lloi, paragraff 5 o Atodlen 4; a

(b)yn achos moch, paragraff 3 o Atodlen 6.

Cadw cofnodion

7.  Rhaid cadw cofnod —

(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roir i anifeiliaid; a

(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a wneir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —

(i)yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;

(ii)yn achos lloi, paragraff 3 neu 4 o Atodlen 4;

(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6; neu

(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2 o'r Atodlen hon.

8.  Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, yn ôl fel y digwydd, a rhaid trefnu ei fod ar gael i berson awdurdodedig tra bydd wrthi'n archwilio neu pan fydd person o'r fath yn gofyn amdano fel arall.

Rhyddid i symud

9.  Rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud, o roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol, mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

10.  Os bydd anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid iddynt gael y lle priodol ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.

Adeiladau a llety

11.  Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir i adeiladu'r llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad â hwy, beidio â bod yn niweidiol iddynt a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.

12.  Rhaid i'r adeiladau a'r ffitiadau ar gyfer sicrhau anifeiliaid gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel nad oes ymylon nac allwthiadau llym yn debygol o beri anaf iddynt.

13.  Rhaid i gylchrediad aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder aer cymharol a chrynodiadau nwy gael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifeiliaid.

14.  Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

15.  Os nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo yna rhaid darparu golau artiffisial priodol.

16.  Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys heb olau artiffisial.

Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau

17.  Rhaid i anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau, pan fo angen a phan fo'n bosibl, gael eu hamddiffyn rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd a chael y cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.

Offer awtomatig neu fecanyddol

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

20.  Pan fydd iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)rhaid darparu ar gyfer system wrth-gefn briodol i warantu digon o adnewyddu aer i gadw iechyd a llesiant yr anifeiliaid os digwydd i'r system fethu; a

(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

21.  Rhaid i'r system wrth-gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg yn y system, ac, os canfyddir unrhyw ddiffyg (adeg archwilio neu brofi'r system yn unol â'r paragraff hwn neu ar unrhyw adeg arall), rhaid ei gywiro ar unwaith.

Bwyd, dŵ r a sylweddau eraill

22.  Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachus sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i fodloni eu hanghenion maethiadol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.

23.  Rhaid peidio â rhoi bwyd neu ddiod i unrhyw anifail mewn modd, a rhaid i'r bwyd neu'r ddiod honno beidio â chynnwys unrhyw sylwedd, a all beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

24.  Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fydd milfeddyg yn gweithredu wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

25.  Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad o ddŵ r addas a chael cyflenwad digonol o ddŵ r yfed ffres bob dydd neu allu bodloni eu hangen i gael diod drwy ddulliau eraill.

26.  Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.

27.  Rhaid peidio â rhoi unrhyw sylwedd arall, ac eithrio y rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffilactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol i anifeiliaid oni ddangoswyd gan astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu gan brofiad cynefin nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.

Gweithdrefnau bridio

28.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.

(2Ni fydd is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint neu'r anaf lleiaf posibl neu am ennyd neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn peri anaf parhaol.

29.  Rhaid peidio â chadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.

Llonyddu â thrydan

30.  Ni chaiff neb roi cerrynt trydan i unrhyw anifeiliaid er mwyn eu llonyddu.