Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

Pwerau mynediad

12.  Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(1) at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion —

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC(2) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri;

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC(3) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn lloi fel y'i diwygiwyd gan y Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(4)) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(5);

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC(6)) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn moch; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC(7) ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio;

yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.

(2)

OJ Rhif L74, 19.3.88, t. 83.

(3)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t.28.

(4)

OJ Rhif L.25, 28.1.97, t.24.

(5)

OJ Rhif L76, 24.2.97, t.33.

(6)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t.33.

(7)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23.