Pwerau mynediad12

Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 19683 at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion —

a

Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC4 sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri;

b

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC5 sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn lloi fel y'i diwygiwyd gan y Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC6) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC7;

c

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC8) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn moch; neu

ch

Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC9 ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio;

yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.