xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2682 (Cy.223)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

17 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo (1), ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1968, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2001.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli a chymhwyso

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid ac eithrio —

(a)anifeiliaid sy'n byw yn y gwyllt;

(b)anifeiliaid tra byddant mewn cystadlaethau, sioeau, digwyddiadau neu weithgareddau diwylliannol neu chwaraeol ac anifeiliaid a fwriedir yn unig i gael eu defnyddio ynddynt;

(c)anifeiliaid arbrofol neu mewn labordai; neu

(ch)unrhyw anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

(3Bydd Rhan 1 o Atodlen 6 yn effeithiol at ddibenion dehongli Atodlen 6.

(4Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(c)mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn digwydd; ac

(ch)mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn.

Dyletswyddau perchenogion a cheidwaid anifeiliaid

3.—(1Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid gymryd pob cam rhesymol —

(a)i sicrhau lles yr anifeiliaid o dan eu gofal; a

(b)i sicrhau na pherir unrhyw boen, dioddefaint nac anaf diangen i'r anifeiliaid.

(2Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid (ac eithrio pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1.

(3Wrth benderfynu a yw'r amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1, rhaid i berchennog a cheidwad yr anifeiliaid roi sylw i'w rhywogaeth, ac i radd eu datblygiad, eu haddasiad a'u dofiad, ac i'w hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri

4.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 2.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri)

5.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi

6.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 4.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid gwartheg

7.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid gwartheg a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 5.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid moch

8.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid moch sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio —

(a)â'r gofynion a nodir yn Rhan II o Atodlen 6; a

(b)â'r gofynion a nodir yn Rhannau III, IV, V neu VI o Atodlen 6 (yn ôl fel y digwydd) sy'n gymwys i'r categori penodol o fochyn a gedwir.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid cwningod

9.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid cwningod sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 7.

Codau lles statudol

10.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi person neu'n ei gymryd ymlaen i ofalu am anifeiliaid sicrhau bod y person sy'n gofalu am yr anifeiliaid —

(a)yn gydnabyddus â darpariaethau'r holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid y gofelir amdanynt;

(b)yn gallu cael gweld copi o'r codau hynny tra bydd yn gofalu am yr anifeiliaid; ac

(c)wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y codau hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson sy'n cadw anifeiliaid, neu sy'n peri neu'n fwriadol yn caniatáu i anifeiliaid gael eu cadw, ofalu amdanynt oni bydd yn gallu cael gweld yr holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid tra bydd yn gofalu amdanynt, ac yn gydnabyddus â darpariaethau'r codau hynny.

Pwerau personau awdurdodedig

11.  Os yw person awdurdodedig o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cadw mewn ffordd sy'n debygol o achosi poen, dioddefaint neu anaf diangen, neu mewn unrhyw ffordd arall yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gall gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw, o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, gymryd unrhyw gamau sydd ym marn y person awdurdodedig yn rhesymol angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a rhaid i'r person awdurdodedig roi ei resymau dros fynnu'r camau hynny.

Pwerau mynediad

12.  Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(3) at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion —

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC(4) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri;

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC(5) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn lloi fel y'i diwygiwyd gan y Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(6)) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(7);

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC(8)) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn moch; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC(9) ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio;

yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.

Tramgwyddau

13.—(1Mae person sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol —

(a)yn torri neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 11 o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad;

(c)yn cofnodi unrhyw eitem mewn cofnod, neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn ffug mewn unrhyw fanylyn penodol neu sydd, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad yn ddi-hid neu'n rhoi gwybodaeth sy'n ffug mewn unrhyw fanylyn penodol; neu

(ch)yn peri neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod,

yn euog o dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968.

(2Mewn unrhyw achos yn erbyn perchennog neu geidwad anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(1) neu 3(2) (fel y'u darllenir ynghyd â rheoliad 3(3)), gall y perchennog neu'r ceidwad, yn ôl fel y digwydd, ddibynnu ar y ffaith eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw argymhelliad perthnasol a gynhwysir mewn cod lles statudol fel pe bai'n tueddu i sefydlu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheoliad perthnasol.

Diddymiadau

14.  Drwy hyn diddymir Rheoliadau Lles Da Byw 1994(10) a Rheoliadau Lles Da Byw (Diwygio) 1998(11) mewn perthynas â Chymry yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

D. Elis-Thomas

Llywydd

17 Gorffennaf 2001

Rheoliadau 3(2), 3(3), 4, 5, 6, 7, 8 a 9

ATODLEN 1YR AMODAU CYFFREDINOL Y MAE'N RHAID CADW ANIFEILIAID A FFERMIR ODANYNT

Staffio

1.  Rhaid i anifeiliaid dderbyn gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.

Archwilio

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i bob anifail a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle bydd eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i weld eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau heblaw systemau hwsmonaeth y mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddef.

(3Er gwaethaf is-baragraffau (1) a (2), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —

(a)yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;

(b)yn achos lloi, paragraffau 3 a 4 o Atodlen 4; ac

(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6.

3.  Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid cael digon o oleuadau (naill ai'n sefydlog neu'n symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.

4.  Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

5.  Os yw'n ymddangos bod unrhyw anifail yn sâl neu wedi'i anafu —

(a)rhaid gofalu amdano'n briodol heb oedi; a

(b)os nad yw'n ymateb i'r gofal hwnnw, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted â phosibl.

6.—(1Os oes angen, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych, lle bo hynny'n briodol.

(2Er gwaethaf is-baragraff (1), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —

(a)yn achos lloi, paragraff 5 o Atodlen 4; a

(b)yn achos moch, paragraff 3 o Atodlen 6.

Cadw cofnodion

7.  Rhaid cadw cofnod —

(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roir i anifeiliaid; a

(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a wneir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —

(i)yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;

(ii)yn achos lloi, paragraff 3 neu 4 o Atodlen 4;

(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6; neu

(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2 o'r Atodlen hon.

8.  Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, yn ôl fel y digwydd, a rhaid trefnu ei fod ar gael i berson awdurdodedig tra bydd wrthi'n archwilio neu pan fydd person o'r fath yn gofyn amdano fel arall.

Rhyddid i symud

9.  Rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud, o roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol, mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

10.  Os bydd anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid iddynt gael y lle priodol ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.

Adeiladau a llety

11.  Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir i adeiladu'r llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad â hwy, beidio â bod yn niweidiol iddynt a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.

12.  Rhaid i'r adeiladau a'r ffitiadau ar gyfer sicrhau anifeiliaid gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel nad oes ymylon nac allwthiadau llym yn debygol o beri anaf iddynt.

13.  Rhaid i gylchrediad aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder aer cymharol a chrynodiadau nwy gael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifeiliaid.

14.  Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

15.  Os nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo yna rhaid darparu golau artiffisial priodol.

16.  Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys heb olau artiffisial.

Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau

17.  Rhaid i anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau, pan fo angen a phan fo'n bosibl, gael eu hamddiffyn rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd a chael y cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.

Offer awtomatig neu fecanyddol

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

20.  Pan fydd iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)rhaid darparu ar gyfer system wrth-gefn briodol i warantu digon o adnewyddu aer i gadw iechyd a llesiant yr anifeiliaid os digwydd i'r system fethu; a

(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

21.  Rhaid i'r system wrth-gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg yn y system, ac, os canfyddir unrhyw ddiffyg (adeg archwilio neu brofi'r system yn unol â'r paragraff hwn neu ar unrhyw adeg arall), rhaid ei gywiro ar unwaith.

Bwyd, dŵ r a sylweddau eraill

22.  Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachus sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i fodloni eu hanghenion maethiadol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.

23.  Rhaid peidio â rhoi bwyd neu ddiod i unrhyw anifail mewn modd, a rhaid i'r bwyd neu'r ddiod honno beidio â chynnwys unrhyw sylwedd, a all beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

24.  Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fydd milfeddyg yn gweithredu wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

25.  Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad o ddŵ r addas a chael cyflenwad digonol o ddŵ r yfed ffres bob dydd neu allu bodloni eu hangen i gael diod drwy ddulliau eraill.

26.  Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.

27.  Rhaid peidio â rhoi unrhyw sylwedd arall, ac eithrio y rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffilactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol i anifeiliaid oni ddangoswyd gan astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu gan brofiad cynefin nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.

Gweithdrefnau bridio

28.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.

(2Ni fydd is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint neu'r anaf lleiaf posibl neu am ennyd neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn peri anaf parhaol.

29.  Rhaid peidio â chadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.

Llonyddu â thrydan

30.  Ni chaiff neb roi cerrynt trydan i unrhyw anifeiliaid er mwyn eu llonyddu.

Rheoliad 4

ATODLEN 2AMODAU YCHWANEGOL Y MAE'N RHAID CADW IEIR DODWY MEWN CEWYLL BATRI ODANYNT

1.  Rhaid i bob cawell gydymffurfio â'r gofynion canlynol —

(a)rhaid i arwynebedd y cawell, wedi'i fesur ar blan llorweddol, ar gyfer pob iâr ddodwy beidio â bod yn llai —

(i)na 1000cm2 pan gedwir un iâr yn y cawell;

(ii)na 750 cm2 pan gedwir dwy iâr yn y cawell;

(iii)na 550 cm2 pan gedwir tair iâr yn y cawell; a

(iv)na 450 cm2 pan gedwir pedair neu fwy o ieir yn y cawell;

(b)rhaid i isafswm arwynebedd y cawell ar gyfer pob iâr ddodwy allu cael ei ddefnyddio heb gyfyngiad a gall gynnwys y fan lle mae'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff (a elwir fel arall yn gard wyau) wedi'i roi cyhyd â bod modd defnyddio'r fan honno;

(c)rhaid darparu cafn bwyd nad yw ei hyd yn llai na 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad;

(ch)ac eithrio pan ddarperir pigynnau dŵr a chwpanau dŵr, rhaid i'r cawell gael sianel yfed barhaol na fydd yn llai na 10cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell, ac y gellir ei defnyddio heb gyfyngiad;

(d)pan geir pwyntiau yfed wedi'i plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn yfed neu ddau gwpan yfed o fewn cyrraedd y cawell;

(dd)rhaid i uchder y cawell, am 65% o'i arwynebedd, beidio â bod yn llai na 40 cm, ac am weddill yr arwynebedd, rhaid iddo beidio â bod yn llai na 35 cm (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 450cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);

(e)rhaid adeiladu llawr y cawell fel y gall gynnal yn ddigonol bob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed; ac

(f)rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd, pan yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryalog, a 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.

2.  Rhaid i gewyll batri gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal yn y fath fodd ag i atal unrhyw anaf neu ddioddefaint diangen i ieir dodwy i'r graddau sy'n bosibl yn sefyllfa bresennol technoleg.

3.  Rhaid i ddyluniad a maint agoriad y cawell fod yn gyfryw fel y gellir rhoi ieir dodwy i mewn neu eu codi allan heb beri anaf na dioddefaint diangen iddynt.

4.  Rhaid i'r cewyll fod wedi'u cyfarparu a'u cynnal yn addas i rwystro'r ieir dodwy rhag dianc.

5.  Ac eithrio pan fydd triniaeth therapiwtig neu broffilactig yn mynnu fel arall, rhaid i bob iâr ddodwy gael cyfle i fynd at fwyd iachus, maethlon a hylan bob dydd mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da ac i fodloni eu hanghenion maethiadol, ac i dŵr yfed ffres digonol bob amser.

6.  Rhaid i'r ieir dodwy dderbyn gofal gan bersonél sydd â gwybodaeth a phrofiad digonol o'r system gynhyrchu a ddefnyddir.

7.  Rhaid i'r haid neu'r grwp o ieir dodwy gael eu harchwilio'n drwyadl o leiaf unwaith y dydd a rhaid trefnu bod ffynhonnell o olau (sefydlog neu symudol) ar gael sy'n ddigon cryf i weld pob aderyn yn glir.

8.  Rhaid peidio â defnyddio llety sy'n cynnwys mwy na thair haen o gewyll onid oes dyfeisiau neu fesurau addas yn ei gwneud yn bosibl archwilio pob haen yn drwyadl heb anhawster.

9.—(1Pan fydd yn ymddangos nad yw ieir dodwy mewn iechyd da neu eu bod yn dangos newidiadau ymddygiad, rhaid cymryd camau i ddarganfod yr achos a chymryd y camau adfer priodol.

(2Pan fydd angen cymryd camau adfer o dan is-baragraff (1) uchod, rhaid rhoi ystyriaeth i'r mathau canlynol o gamau —

(a)rhoi triniaeth;

(b)ynysu;

(c)cwlio;

(ch)cywiro ffactorau amgylcheddol; a

(d)unrhyw fath arall o gamau adferol y mae ei angen.

(3Os olrheinir achos y mae problemau iechyd neu ymddygiad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod i ffactor amgylcheddol yn yr uned gynhyrchu nad yw'n hanfodol ei adfer ar unwaith, rhaid cymryd camau adfer cyn gynted ag sy'n ymarferol, a beth bynnag pan yw'r llety yn cael ei wagio nesaf a chyn i'r llwyth nesaf o ieir dodwy gael eu rhoi yno.

10.—(1Bob tro y mae'r holl gewyll a gedwir gyda'i gilydd yn cael eu gwagio rhaid eu glanhau'n a'u diheintio'n drylwyr cyn rhoi'r llwyth nesaf o ieir dodwy yno.

(2Pan fydd ieir yn y cewyll, rhaid cadw'r arwynebau a'r holl offer yn foddhaol lân.

Rheoliad 5

ATODLEN 3AMODAU YCHWANEGOL Y MAE'N RHAID CADW DOFEDNOD (HEBLAW IEIR DODWY A GEDWIR MEWN CEWYLL BATRI) ODANYNT

Pan gedwir unrhyw ddofednod (heblaw ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar laesodr, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd at laesodr, sydd wedi'i gynnal yn dda, neu at fan wedi'i draenio'n dda ar gyfer gorffwys.

Rheoliad 6

ATODLEN 4AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW LLOI SY'N CAEL EU CAETHIWO AR GYFER EU MAGU A'U PESGI

Llety

1.—(1Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.

(2Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, wedi'i fesur wrth iddo sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, wedi'i fesur o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.

(3Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol trwy weld a thrwy gyffwrdd.

(4Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, dyma'r lwfans gofod di-rwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo —

(a)o leiaf 1.5 metr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150kg;

(b)o leiaf 2 fetr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac

(c)o leiaf 3 metr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.

(5Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.

(6Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8), rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.

(7Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo sy'n cael ei gadw wedi'i ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddyg.

(8At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol.

Darpariaethau trosiannol ar gyfer llety

2.—(1Hyd at 1 Ionawr 2004, ni fydd is-baragraffau (1), (3) a (4) o baragraff 1 yn gymwys mewn perthynas â llety a oedd yn cael ei ddefnyddio cyn 1 Ionawr 1998.

(2Hyd at 1 Ionawr 2004, yn achos llety y dechreuwyd ei ddefnyddio ar ôl 1 Ionawr 1994 ond cyn 1 Ionawr 1998 —

(a)pan gedwir lloi mewn grwpiau, rhaid i bob llo o 150kg neu fwy o bwysau byw gael o leiaf 1.5 metr sgwâr o ofod llawr dirwystr, a

(b)pan gedwir llo mewn côr neu gorlan unigol, rhaid i'r côr neu'r gorlan gael o leiaf un wal drydyllog sy'n galluogi'r llo i weld anifeiliaid eraill mewn corau a chorlannau cyfagos onid yw wedi'i ynysu am resymau milfeddygol.

Archwilio

3.  Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu geidwad y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

4.  Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu geidwad y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

5.  Pan fydd angen, rhaid ynysu lloi sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.

Tenynnau

6.—(1Rhaid peidio â rhoi tenynnau ar loi, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad gyda'i gilydd y gellir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr pan gânt eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.

(2Pan ddefnyddir tenynnau yn unol â'r is-baragraff blaenorol, rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(3Rhaid dylunio pob tennyn i osgoi risg tagu neu boen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.

Adeiladau â golau artiffisial

7.  Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial yna, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol sydd ar gael fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.

Glanhau a diheintio

8.—(1Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i dail, biswail a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud cyn amled ag y mae angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Lloriau

9.  Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —

(a)yn llyfn heb fod yn llithrig er mwyn rhwystro anaf i'r lloi;

(b)wedi'u dylunio fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r lloi wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r lloi; ac

(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Gwasarn a man gorwedd

10.—(1Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.

(2Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n dda ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.

(3Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu strwythurau dros dro gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.

Cynlaeth buchol

11.  Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwech awr gyntaf o'i fywyd.

Gofynion deietegol ychwanegol

12.—(1Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.

(2Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.

Safnrwymo

13.  Rhaid peidio â safnrwymo lloi.

Bwydo

14.—(1Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.

(2Pan gedwir grŵ p o loi mewn adeilad heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan nad oes system fwydo awtomatig yn eu bwydo, rhaid i bob llo gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grŵ p bwydo.

Dŵ r yfed

15.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid darparu swmp digonol o ddŵ r yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.

(2Rhaid darparu dŵ r ffres ar gyfer lloi bob amser —

(a)mewn tywydd poeth; neu

(b)pan fyddant yn sâl.

Rheoliad 7

ATODLEN 5AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW GWARTHEG

1.  Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu unrhyw wartheg sydd ar ddod â llo mewn llety o dan do rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac â gwasarn.

2.  Pan gedwir unrhyw wartheg sydd ar ddod â llo mewn adeilad, rhaid iddynt gael —

(a)mewn corlan neu fuarth sydd o'r fath faint ag sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwartheg, a

(b)ar wahân i dda byw eraill heblaw gwartheg sydd ar ddod â llo.

Rheoliadau 2(3) ac 8

ATODLEN 6AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW MOCH

RHAN IDEHONGLI

1.  Yn yr Atodlen hon —

RHAN IIAMODAU YCHWANEGOL CYFFREDINOL

Archwilio

2.  Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan berchennog neu geidwad y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau ei fod mewn cyflwr o lesiant.

3.  Pan fydd angen, rhaid ynysu moch sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.

Tenynnau

4.  Ni chaiff neb roi tennyn na pheri rhoi tennyn ar unrhyw fochyn ac eithrio pan fydd yn mynd o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

5.—(1Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 4, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2Rhaid i bob tennyn fod o ddigon o hyd i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 6(2) isod a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Llety

6.—(1Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —

(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;

(b)cael lle glân y gall orffwyso ynddo; ac

(c)gweld moch eraill, onid yw'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol.

7.—(1Rhaid i faintioli unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi'i sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mae hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bydd yn sefyll gyda'i gefn yn syth.

(2Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn benyw am y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y dydd disgwyliedig iddi ddod â moch bach a'r dydd y bydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.

(3Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn drwy gadw mochyn mewn côr neu gorlan —

(a)tra bydd o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;

(b)at ddibenion serfio, cyfebru artiffisial neu gasglu semen;

(c)tra caiff ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;

(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;

(d)tra bydd ei lety'n cael ei lanhau, neu

(dd)tra bydd yn disgwyl cael ei lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod pan gedwir y mochyn yn hwy nag y mae ei angen i'r diben hwnnw.

(4Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn am gadw mochyn mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i'r côr neu'r gorlan o gôr neu gorlan y mae'r mochyn yn cael ei gadw ynddynt heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.

Adeiladau â golau artiffisial

8.  Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial yna, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol sydd ar gael fel arfer rhwng 9.00 a.m. a 5.00 p.m.

Atal ymladd

9.—(1Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad arferol.

(2Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu hynysu neu eu cadw ar wahân i'r grŵ p.

Glanhau a diheintio

10.—(1Rhaid i adeiladau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ddom neu tail, biswail a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud cyn amled ag y mae angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Man gorwedd

11.—(1Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n lân, yn gysurus ac nad yw'n effeithio yn andwyol arnynt ac y mae ganddo naill ai wasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

(2Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.

Lloriau

12.  Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —

(a)yn llyfn heb fod yn llithrig er mwyn rhwystro anaf i'r moch;

(b)wedi'u dylunio fel na fyddant yn peri anaf na ddioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac

(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Bwydo

13.—(1Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.

(2Pan gedwir grŵ p o foch mewn adeilad heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan nad oes system fwydo awtomatig yn eu bwydo, rhaid i bob mochyn gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grŵp bwydo.

Dŵ r yfed

14.  Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddŵ r yfed ffres ar gyfer pob mochyn bob dydd.

Cyfoethogi'r amgylchedd

15.  Yn ychwanegol at y mesurau a gymerir fel arfer i rwystro brathu cynffonau a gwendidau eraill ac er mwyn eu galluogi i fodloni eu hanghenion ymddygiad, rhaid i bob mochyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchedd a'r dwysedd stocio, gael y cyfle i fynd at wellt neu ddefnydd neu wrthrych arall sy'n addas i fodloni'r anghenion hynny.

Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysu

16.  Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd sy'n golygu cynnal tymheredd uchel a lleithder uchel (a elwir y “system blwch-chwysu”).

RHAN IIIBAEDDOD

17.  Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod i ganiatáu i'r baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.

18.  Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.

19.  Y maint lleiaf i gorlan baedd llawndwf yw chwe metr sgwâr, ac eithrio bod rhaid darparu arwynebedd mwy pan ddefnyddir corlannau ar gyfer serfio.

RHAN IVHYCHOD A BANWES I

20.  Rhaid rhoi triniaeth i fanwesi a hychod rhwng cyfnod diddyfnu eu perchyll a'r cyfnod amesgorol, pan fydd angen hynny, rhag parasitiaid allanol a mewnol.

21.  Os ydynt yn cael eu rhoi mewn cratiau i ddod â moch bach, rhaid i hychod a banwesi torrog fod yn hollol lân.

22.  Rhaid darparu man gorwedd glân a chysurus wedi'i draenio'n addas ar gyfer banwesi a hychod rhwng cyfnod diddyfnu eu perchyll a'r cyfnod amesgorol, ac os oes ei angen, rhaid rhoi defnydd nythu addas iddynt.

23.  Yn ystod amser dod â moch bach, rhaid bod lle dirwystr ar gael y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso dod â'r moch bach yn naturiol neu drwy gymorth.

24.  Rhaid i gorlannau dod â moch bach lle cedwir hychod yn rhydd gael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau ar gyfer moch bach.

RHAN VPERCHYLL

25.  Os oes angen, rhaid darparu perchyll â ffynhonnell o wres a man gorwedd cadarn, sych a chysurus oddi wrth yr hwch lle y gallant i gyd orffwys ar yr un adeg.

26.  Pan ddefnyddir crât dod â moch bach, rhaid i'r perchyll gael digon o ofod i'w galluogi i sugno heb drafferth.

27.  Rhaid peidio â thorri cynffonnau na chlipio dannedd yn rheolaidd onid oes tystiolaeth ar y fferm, bod anafiadau wedi digwydd i dethau hychod neu i gynffonnau neu glustiau moch eraill yn sgil peidio â gweithredu'r gweithdrefnau hyn.

28.  Pan ymddengys ei bod yn angenrheidiol clipio dannedd, rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod o'r enedigaeth yn unig.

29.  Rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch yn llai na thair wythnos oed oni fyddai lles neu iechyd y fam neu'r perchyll yn cael eu heffeithio'n andwyol.

RHAN VIPERCHYLL DIDDWYN A MOCH MAGU

30.  Rhaid rhoi moch mewn grwpiau cyn gynted â phosibl ar ôl eu diddyfnu. Rhaid eu cadw mewn grwpiau sefydlog gyda chyn lleied â phosibl o gymysgu

31.  Bydd arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a fegir mewn grŵ p o leiaf —

(a)yn 0.15 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn 10 kg neu lai;

(b)yn 0.20 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 10 kg ond yn llai na 20 kg neu'n gyfartal â hynny;

(c)yn 0.30 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 20 kg ond yn llai na 30 kg neu'n gyfartal â hynny;

(ch)yn 0.40 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 30 kg ond yn llai na 50 kg neu'n gyfartal â hynny;

(d)yn 0.55 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 50 kg ond yn llai na 85 kg neu'n gyfartal â hynny;

(dd)yn 0.65 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 85 kg ond yn llai na 110kg neu'n gyfartal â hynny; ac

(e)yn 1.00 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y grŵ p yn fwy na 110 kg.

Rheoliad 9

ATODLEN 7AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW CWNINGOD

1.  Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt —

(a)fod o faint digonol i ganiatáu'r cwningod i symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed heb anhawster a galluogi'r cwningod a gedwir ynddynt i orwedd ar eu hochrau ar yr un adeg, a

(b)fod o uchder digonol i ganiatáu'r cwningod i eistedd yn gefnsyth ar bedair troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.

2.  Pan gedwir unrhyw wningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod y cwningod yn gallu mynd i gysgodi rhag y tywydd (gan gynnwys golau haul uniongyrchol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig yn gweithredu'r ddeddfwriaeth Gymunedol a ganlyn —

Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC sy'n nodi'r safonau isaf ar gyfer diogelu ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri (OJ Rhif L74, 19.3.88, t.83);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer diogelu lloi (OJ Rhif L340, 11.12.91, t.28), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC (OJ Rhif L25, 28.1.97, t.24) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC (OJ Rhif L76, 24.2.97. t.30);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch (OJ Rhif L340, 11.12.91, t.33); a

Chyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ynghylch diogelu anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio (OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23).

Mae'r Rheoliadau (a'r ddeddfwriaeth Gymunedol y maent yn ei gweithredu) yn adlewyrchu'r rhwymedigaethau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 10 Mawrth 1976 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 87), o'i ddarllen ynghyd â'r Protocol Diwygio i'r Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 6 Chwefror 1992 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 145).

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i bob anifail a gedwir at ddibenion ffermio (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol) (rheoliad 2(2)).

Mae rheoliad 3(1) yn nodi'r egwyddor gyffredinol bod yn rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio gymryd camau rhesymol i sicrhau lles yr anifeiliaid yn eu gofal a'u harbed rhag unrhyw boen, dioddefaint neu anaf diangen. Mae'r egwyddor hon yn gymwys i bob anifail (gan gynnwys pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gofynion cyffredinol o ran yr amodau y caiff yr holl anifeiliaid a ffermir (heblaw pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) eu bridio a'u cadw ynddynt (rheoliad 3(2) ac Atodlen 1) ac ar gyfer gofynion penodol ychwanegol ynghylch yr amodau y caiff y canlynol eu bridio a'u cadw ynddynt sef ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri (rheoliad 4 ac Atodlen 2), dofednod (heblaw ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri) (rheoliad 5 ac Atodlen 3), lloi (rheoliad 6 ac Atodlen 4), gwartheg (rheoliad 7 ac Atodlen 5), moch (rheoliad 8 ac Atodlen 6) a chwningod (rheoliad 9 ac Atodlen 7).

Mae rheoliad 10 yn cynnwys darpariaeth i sicrhau bod y rhai sydd â gofal anifeiliaid yn gallu gweld copïau o'r codau lles a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 sy'n gymwys i'r anifeiliaid sy'n cael eu bridio neu eu cadw a'u bod yn gydnabyddus â'r codau hynny. Gellir cael gwybodaeth ynghylch y codau lles a gyhoeddwyd o dan Ddeddf 1968 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol gweithredu ar unrhyw doriad o'r Rheoliadau ac mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer pŵer mynediad i bersonau a awdurdodir gan y Comisiwn Ewropeaidd at ddibenion gorfodi deddfwriaeth Gymunedol.

O dan reoliad 13(1), mae unrhyw doriad o'r Rheoliadau yn dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968. O dan adran 7 o'r Ddeddf honno, y gosb uchaf am dramgwydd o'r fath yw 3 mis o garchar a/neu ddirwy ar lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd).

Mae'r rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli (gyda diwygiadau):

Rheoliadau Lles Da Byw 1994 (O.S. 1994/2126, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1709); a

Rheoliadau Lles Da Byw (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/1709).

Mae Atodlen 1, sy'n darparu ar gyfer gofynion cyffredinol o ran yr amodau y caiff yr holl anifeiliaid a ffermir (heblaw pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) eu bridio neu eu cadw ynddynt, yn cynnwys nifer o newidiadau o'r darpariaethau cyfatebol yn Atodlen 4 o Reoliadau Lles Da Byw 1994 (fel y'u diwygiwyd).

Yn benodol, mae nifer o ofynion a oedd yn gymwys o dan Reoliadau 1994, naill ai i anifeiliaid a gedwid mewn systemau dwys neu i anifeiliaid a gedwid mewn adeiladau yn unig, ond y mae eu cwmpas wedi'i estyn bellach i gynnwys yr holl anifeiliaid a ffermir (heblaw pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid). Mae yna hefyd nifer o ofynion newydd.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1968 p.34. Gweler adran 50 ar gyfer diffiniad o “the Ministers”. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau “the Ministers” i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) .

(2)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.

(4)

OJ Rhif L74, 19.3.88, t. 83.

(5)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t.28.

(6)

OJ Rhif L.25, 28.1.97, t.24.

(7)

OJ Rhif L76, 24.2.97, t.33.

(8)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t.33.

(9)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23.

(10)

O.S. 1994/2126, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1709.

(12)

1998 p.38.