Search Legislation

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan VTir a eithriwyd rhag cael ei drosglwyddo a chyfyngiadau ar waredu tir tra bydd cynigion ar waith

19.—(1Ni fydd dim yn Rhan II o'r Atodlen hon yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff, na breinio ynddo,—

(a)unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithriwyd o dan is-baragraff (2) neu (3),

(b)unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,

(c)unrhyw rwymedigaeth awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn perthynas â phrifswm unrhyw fenthyciad, neu log arno, neu

(ch)unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.

(2Os bydd—

(a)y trosglwyddai a'r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno'n ysgrifenedig y dylai unrhyw dir gael ei eithrio rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r cytundeb yn ysgrifenedig,

a hynny cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori, bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.

(3Yn niffyg cytundeb o dan is-baragraff (2)—

(a)os yw'r trosglwyddai neu'r trosglwyddwr arfaethedig wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn wedi cyfarwyddo ei eithrio,

bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.

(4Gall cytundeb o dan is-baragraff (2) ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol (fel ysgol mewn categori newydd) ar y telerau a bennir neu a benderfynir yn unol â'r cytundeb; a gall cyfarwyddiadau o dan is-baragraff (3)—

(a)rhoi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau a allai fod wedi'u rhoi neu wedi'u gosod gan gytundeb o'r fath, a

(b)byddant yn effeithiol fel petai wedi'u cynnwys mewn cytundeb o'r fath.

(5Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “categori newydd” yw un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “y trosglwyddai arfaethedig”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw'r corff y byddai'r tir yn cael ei drosglwyddo iddo, heblaw am is- baragraff (2) neu (3), o dan Ran II o'r Atodlen hon; a

  • dehonglir “y trosglwyddwr arfaethedig” yn unol â hynny.

20.—(1At ddibenion Rhan V o'r Atodlen hon mae'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol pan fydd y weithdrefn honno wedi'i chychwyn gan y corff llywodraethu mewn perthynas â'r ysgol ar unrhyw achlysur a bod y weithdrefn honno heb ei therfynu (fel y'i chychwynnwyd ar yr achlysur hwnnw).

(2At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno wedi'i chychwyn mewn perthynas ag ysgol ar unrhyw achlysur pan fydd yr awdurdod addysg lleol wedi cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y bwriedir ystyried cynigiad ynddo ar gyfer penderfyniad i ymgynghori ynglŷn â chynigion i newid categori.

(3At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno, fel y'i chychwynnwyd ar unrhyw achlysur, wedi'i therfynu—

(a)os na chaiff y cyfarfod ei gynnal;

(b)os caiff y cyfarfod ei gynnal ond na chaiff y cynigiad ei wneud neu, er bod y cynigiad yn cael ei wneud, nad yw'r penderfyniad yn cael ei basio;

(c)os nad yw'r ymgynghori yn cael ei gychwyn yn unol ag adran 28(5) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau hyn;

(ch)os nad yw'r cynigion y cychwynnwyd yr ymgynghori mewn perthynas â hwy yn cael eu cyhoeddi;

(d)os caiff y cynigion a enwyd eu gwrthod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu os cânt eu tynnu'n ôl; neu

(dd)ar ddyddiad gweithredu'r cynigion hynny.

21.—(1Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio—

(a)â gwaredu unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion yr ysgol, na

(b)â gwneud cytundeb i waredu tir o'r fath,

ac eithrio gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad sy'n cael ei wneud yn unol â chontract a wnaed, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'i chychwyn mewn perthynas â'r ysgol.

(3Pan fydd cynigion ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'u cymeradwyo, ni ddylid ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall fel un sydd wedi'i therfynu at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw dir, pan fydd yn ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (adnabod eiddo, etc.) ar unrhyw fater ynglŷn â'r tir hwnnw, tan y dyddiad y bydd y mater hwnnw yn cael ei benderfynu'n derfynol.

(4Ni fydd gwarediad na chontract yn annilys nac yn ddi-rym dim ond am ei fod wedi'i wneud yn groes i'r paragraff hwn ac ni fydd person sy'n caffael tir, neu'n gwneud contract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol yn ymboeni i holi a oes unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn wedi'i roi.

(5Mae'r paragraff hwn yn effeithiol er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (pŵ er cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; a bydd y cydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) o'r adran honno neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.

(6Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, a

(b)mae cyfeiriadau at wneud contract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o'r fath.

22.—(1Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau, mewn perthynas ag unrhyw dir sydd gan yr awdurdod ac sy'n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol, heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, y bydd y tir yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly i unrhyw raddau o'u plegid.

(2Yn achos unrhyw ysgol, os bydd—

(a)cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo, a

(b)bod awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd unrhyw gamau yn groes i is-baragraff (1),

bydd y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo yn effeithiol fel petai'r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas â'r newid categori, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion yr oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal ar eu cyfer pan gychwynnwyd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall.

(3Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo” yw'r Atodlen hon ac adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ac Atodlen 10 iddi, a

(b)mae'r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys meddiannu eiddo at unrhyw ddiben.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources