Adolygu penderfyniadau – Cam 28
1
Caiff person y mae penderfyniad a adolygwyd yn unol â rheoliad 7 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad a adolygwyd, am adolygiad pellach o'r penderfyniad hwnnw.
2
Rhaid i gais am adolygiad pellach fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu —
a
enw a chyfeiriad y ceisydd, ac ar ba sail y ceisir yr adolygiad;
b
y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati;
c
y penderfyniad gan y Swyddfa Ranbarthol sydd i'w adolygu a'i ddyddiad;
ch
manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad pellach arnynt; a
d
y newid yn y penderfyniad a geisir .
3
Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ wedi'i farcio “ar gyfer yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol ”.