Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Os oes person (“y ceisydd”) wedi gwneud cais yn briodol cyn 31 Awst 2001 o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 mewn perthynas â safle yng Nghymru sy'n dod o fewn y disgrifiad yn adran 21(3B) o Ddeddf 1984 (ystyr cartref nyrsio) bydd paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys.

(2Ni fydd adran 23(1) o Ddeddf 1984 (tramgwydd rhedeg cartref nyrsio heb ei gofrestru) yn gymwys i'r ceisydd—

(a)nes yr amser y caniateir y cais, neu

(b)os caiff y cais ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod 28 diwrnod wedi dod i ben ar ôl i benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyflwyno(1)); neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.

(1)

Mae swyddogaethau cofrestru'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 1984 wedi'u dirprwyo i awdurdodau iechyd yng Nghymru. Rhoddwyd y swyddogaethau hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf 1984 ond cawsant eu gwneud yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirprwyodd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S.1996/708)) swyddogaethau cofrestru'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran II o Ddeddf 1984 i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru. Mae O.S. 1996/708 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel pe bai'r swyddogaethau hynny o dan Ddeddf 1984 a wnaed yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol gan OS 1999/672 ac a oedd wedi'u dirprwyo o'r blaen i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan O.S. 1996/70 wedi cael eu dirprwyo i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol: gweler adrannau 23(3) a 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).