Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

(2Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

Ysbeidiau arolygu

2.  Mae arolygiadau i'w cynnal o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, ac yna o fewn pob pum mlynedd i'r arolygiad diweddaraf.

Adroddiadau arolygu

3.  Rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 55 niwrnod gwaith o'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau, neu pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.

Cynlluniau gweithredu

4.—(1Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith o'r dyddiad (yn y naill achos neu'r llall) y cafodd y corff o dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu.

(2Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu drwy drefnu ei fod ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y corff o dan sylw, ac ar unrhyw wefan sydd gan y corff hwnnw ar y rhyngrwyd.

(3Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu at bob un o'r canlynol—

(a)y Prif Arolygydd;

(b)y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

(ch)unrhyw awdurdod addysg lleol neu gorff neu berson arall sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer unrhyw addysg neu hyfforddiant a arolygwyd (oni bai mai'r awdurdod, y person neu'r corff hwnnw sydd wedi paratoi'r cynllun gweithredu).

(4Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl).

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “y corff o dan sylw” (“the body concerned”) yw'r corff y mae'n ofynnol, o dan adran 80(3) neu is-adran (2) neu (3) o adran 84 (yn ôl fel y digwydd), iddo baratoi'r cynllun gweithredu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001