Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (“cymorth Cymunedol”) tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella gwaith prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (“y CDGC”) a'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 ar gyfer y Gorllewin a'r Cymoedd (“yr DRS”), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) dalu grantiau mewn perthynas ag unrhyw wariant y mae wedi'i gymeradwyo (rheoliadau 3 a 4).

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu dau fath o grant: Grant Prosesu a Marchnata (mewn perthynas â gweithrediadau sy'n costio £40,000 a throsodd), a Grant Bach Prosesu a Marchnata (mewn perthynas â gweithrediadau sy'n costio mwy na £1,500 a llai na £40,000).

30 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd yw uchafswm y grant sydd i fod ar gael, neu 40 y cant o'r gwariant hwnnw os yw'r gweithrediad wedi'i leoli yn ardal Amcan 1 (rheoliad 5). Gall gwariant o'r fath gael ei gymeradwyo os yw'n gymwys i gael cymorth o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol ac yn wariant sy'n dod o fewn y rhannau hynny o'r CDGC neu'r DRS sy'n ymwneud â gwella prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol (rheoliad 6).

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gweithredu ac yn cydategu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau. a thalu grantiau, yn sgil cymeradwyaeth (rheoliadau 7 ac 8) ac ar gyfer darparu gwybodaeth, a chadw cofnodion, gan y rhai sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 9 a 10). Mae rheoliad 11 yn rhoi pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig penodol (gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd).

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau i'w gosod os caiff rhwymedigaeth ei thorri) drwy roi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ddal taliadau'n ôl neu eu hadennill ac i gymryd camau penodol eraill, gan gynnwys terfynu'r ymrwymiad (a therfynu'r hawl i gael taliadau mewn perthynas ag ef), os caiff rhwymedigaeth sy'n codi o dan y rheoliadau ei thorri gan rywun sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 12, 13 a 14).

Mae rheoliad 15 yn darparu pŵer i godi llog ar symiau a gaiff eu hadennill ac mae rheoliad 16 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol yn adenilladwy fel dyledion.

Mae'r rheoliadau hefyd yn creu tramgwyddau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth ffug er mwyn sicrhau cymorth ac mewn perthynas â rhwystro personau awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau (rheoliad 17).

Yn ddarostyngedig i eithriad trosiannol, mae'r Rheoliadau'n diddymu Rheoliadau Grantiau Prosesu a Marchnata Amaethyddol 1995 (O.S. 1995/362).

Mae copïau o Benderfyniadau'r Comisiwn y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 a 4 o'r Atodlen, y CDGC a'r DRS ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd.