- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Gorffennaf 2001 yn ddiwrnod pan yw adran 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) i ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae adran 98 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf Amddiffyn Plant 1999 (“Deddf 1999”). Dyma yw effaith y diwygiadau:
(a)caiff awdurdod lleol yng Nghymru gyfeirio unigolyn sy'n cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi i ddarparu gofal i blentyn at yr Ysgrifennydd Gwladol, at ddibenion ei swyddogaethau o dan adran 1 o Ddeddf 1999, pan yw'r awdurdod yn cyllido'r gofal hwnnw o dan adran 17A o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”)(1), os ydynt o'r farn bod yr unigolyn yn euog o gamymddwyn a niweidiodd blentyn, neu a roddodd blentyn mewn risg o niwed(2);
(b)os yw person sy'n cyflogi neu'n bwriadu cyflogi unigolyn i ddarparu gofal i blentyn o dan adran 17A o Ddeddf 1989 yn gofyn i'r awdurdod lleol cyllido ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 (neu mewn rhestrau penodol eraill a grybwyllir yn adran 7 o Ddeddf 1999) rhaid i'r awdurdod lleol ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau hynny;
(c)os gofynnir i awdurdod lleol ddarganfod a yw unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau a grybwyllir yn (b) uchod mae'n ddigonol i'r awdurdod ei fodloni'i hun fod y corff a gyflenwodd yr unigolyn wedi darganfod, ar ddyddiad o fewn y deuddeg mis diwethaf, a oedd yr unigolyn wedi'i gynnwys felly os bydd yr awdurdod hefyd yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'r ffeithiau a ddarganfuwyd gan y corff.
Mae adran 17A o Ddeddf 1989 yn caniatáu i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol mewn amgylchiadau penodol wneud taliadau uniongyrchol i berson sydd â gofal rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed mewn perthynas â sicrhau darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y plentyn anabl o dan adran 17 o Ddeddf 1989 er mwyn diogelu a hybu eu lles. Mewnosodir adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a fydd yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2001 ymlaen mewn perthynas â Chymru.
O dan adran 1 o Ddeddf 1999 mae'r Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o bersonau y credir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: