Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen3
1
Er mwyn llunio cynigion rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, a rhaid iddo gydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) wrth gynnal yr ymgynghori hwnnw.
2
Wrth gynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol, os oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf:
a
disgrifio a mynegi mewn ffordd deg a chytbwys bob un o'r mathau o drefniadau amgen sy'n cael eu caniatáu am y tro gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf;
b
sicrhau bod gan etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i fynegi eu dewis yn glir o blaid unrhyw un o'r mathau hynny o drefniadau amgen; a
c
defnyddio cyfuniad o ddulliau ymgynghori ansoddol a meintiol.
3
Wrth gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol (p'un a oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf neu beidio):
a
sicrhau bod pob etholwr lleol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghori hwnnw; a
b
peidio â chynnwys yn yr ymgynghori hwnnw unrhyw ymgynghori y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei gynnal er mwyn cyflwyno sylwadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefnu bod math penodol o drefniadau amgen ar gael mewn rheoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf.
4
Wrth lunio ei gynigion, rhaid i awdurdod lleol—
a
penderfynu pa fath o drefniadau amgen sydd i'w gynnwys yn y cynigion; a
b
cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
5
Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynigion—
a
datganiad (drwy gyfeirio at reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 32 o'r Ddeddf) ynghylch y math penodol o drefniadau amgen y mae'r cynigion yn ymwneud â hwy;
b
disgrifiad o rolau'r awdurdod ei hun o dan y trefniadau arfaethedig;
c
datganiad ynghylch y nifer o bwyllgorau ac is-bwyllgorau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu sefydlu ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau y mae'r awdurdod yn bwriadu iddynt gael eu cyflawni gan y pwyllgorau a'r is-bwyllgorau hynny o dan y trefniadau amgen arfaethedig;
ch
disgrifiad o'r trefniadau arfaethedig sydd i'w cynnwys yn y trefniadau amgen arfaethedig ar gyfer gweithredu pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu i graffu arnynt mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod;
d
amserlen mewn perthynas â gweithredu'r cynigion;
dd
manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn gweithredu'r cynigion;
e
disgrifiad o unrhyw nodweddion eraill ar y trefniadau amgen arfaethedig y bydd yr awdurdod yn penderfynu eu cynnwys yn y cynigion; ac
f
unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani mewn cyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Rhaid i awdurdod lleol anfon y canlynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
a
copi o'i gynigion; a
b
datganiad sy'n disgrifio—
i
y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, yn unol ag adran 31(5) o'r Ddeddf a pharagraff (1) uchod;
ii
canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y cynigion;
iii
y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y bydd ei gynigion yn fwy addas ar gyfer yr amgylchiadau yn yr awdurdod hwnnw a'i ardal nag unrhyw fath o weithrediaeth a bennir yn adran 11 o'r Ddeddf neu odani; a
iv
y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, o'u gweithredu, yn debyg o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, tryloyw ac atebol.
7
Rhaid i awdurdod lleol weithredu ei gynigion yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion hynny.