xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2292 (Cy.180)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 34, 35, 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Ac eithrio yn y diffiniad o “swyddog priodol” yn rheoliad 3, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran a ddilynir gan rif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Ddeddf.

RHAN IIDEISEBAU A REFFERENDA

Dehongli Rhan II

3.  Yn y Rhan hon—

Y rhif dilysu

4.—(1Heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod lleol gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod fel y'i dangosir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol a gyhoeddwyd ac sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod am y cyfnod sy'n dechrau ar 16 Chwefror 2001(3).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r rhif a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod cyn 1 Ebrill 2002.

(3Os yw'r rhif a gyhoeddir yn 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddir yn 2001, y rhif lleiaf yw'r rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y rhif lleiaf hwnnw ac sy'n diweddu yn union cyn 1 Ebrill 2002.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ym mhob blwyddyn sy'n dechrau gyda'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2002, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 15 Chwefror, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod a ddangosir yn y fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr honno, neu, yn ôl fel y digwydd, yn y cofrestrau sy'n effeithiol ar gyfer yr ardal honno ar yr 15 Chwefror hwnnw(4).

(5Os yw'r cyfan o'r cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn y mae paragraff (4) yn gymwys iddi yn syrthio o fewn cyfnod moratoriwm, ni fydd y paragraff hwnnw yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd y mae rhan o'r cyfnod hwnnw o 12 mis yn syrthio.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r rhif a gyhoeddir bob blwyddyn yn unol â pharagraff (4) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill yn y flwyddyn honno.

(7Os yw'r rhif a gyhoeddir mewn unrhyw flwyddyn ar ôl 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddwyd yn y flwyddyn flaenorol, y rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cyhoeddi'r rhif lleiaf ac yn diweddu yn union cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn honno fydd y rhif lleiaf hwnnw.

(8Mewn cysylltiad â chyflawni'r dyletswyddau a osodir gan baragraffau (1) a (4), caiff y swyddog priodol wneud cais ysgrifenedig i swyddog cofrestru etholiadol roi gwybodaeth i'r swyddog priodol sy'n berthnasol i'r rhif sydd i'w gyhoeddi yn unol â'r naill neu'r llall o'r paragraffau hynny; a rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy'n cael cais o'r fath gydymffurfio ag ef o fewn y cyfnod o saith diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r cais i law.

Cyhoeddusrwydd i'r rhif dilysu

5.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i rif gael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(1) neu (4), rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—

(a)bod swyddog priodol yr awdurdod wedi cyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol a ddangosir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod—

(i)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) o reoliad 4, am y cyfnod sy'n diweddu ar 16 Chwefror 2001;

(ii)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) o reoliad 4, ar 15 Chwefror yn y flwyddyn honno;

(b)o'r rhif a gyhoeddwyd fel hyn;

(c)y bydd i'r rhif a gyhoeddwyd fel hyn effaith—

(i)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) o reoliad 4, at ddibenion dyfarnu ar ddilysrwydd deisebau a gyflwynir cyn 1 Ebrill 2002, oni bai bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys;

(ii)os yw wedi'i gyhoeddi yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) o reoliad 4, at ddibenion dyfarnu ar ddilysrwydd deisebau a gyflwynir i'r awdurdod ar ôl 31 Mawrth yn y flwyddyn gyhoeddi a chyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol, oni bai bod i rif gwahanol effaith yn rhinwedd paragraff (7) o reoliad 4; ac

(ch)o effaith paragraffau (3) a (7) o reoliad 4; a

(d)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.

Deisebau ar gyfer refferendwm

6.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 7, 8(8) a 19, rhaid i awdurdod gynnal refferendwm yn rhinwedd y Rhan hon os yw'n cael deiseb ddilys (ond ni fydd yn ofynnol iddo gynnal refferendwm o'r fath os yw'n cael deiseb nad yw'n ddeiseb ddilys).

(2Gall deiseb gael ei chyflwyno i awdurdod lleol—

(a)drwy ei chyfeirio'n gywir, talu amdani ymlaen llaw a'i phostio i brif swyddfa'r awdurdod; neu

(b)drwy fynd â hi i brif swyddfa'r awdurdod.

Deisebau ôl-gyhoeddiad a deisebau ôl-gyfarwyddyd

7.—(1Mewn perthynas â deiseb sy'n dod i law ar ôl i awdurdod roi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm a'r dyddiad y cynhelir y refferendwm hwnnw (boed yn unol â'r Rhan hon, â chyfarwyddyd o dan reoliad 18, neu ag adran 27 (refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig)) ynghylch cynigion sy'n cynnwys maer sydd wedi'i ethol yn uniongyrchol, ni fydd dim yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm nac i gymryd unrhyw gamau heblaw'r rhai a bennir ym mharagraff (2) a rheoliad 12.

(2Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw sicrhau bod y swyddog priodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ddeiseb ddod i law—

(a)yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—

(i)bod y ddeiseb wedi dod i law;

(ii)mai deiseb ôl-gyhoeddiad yw'r ddeiseb; a

(iii)nad yw'r awdurdod yn bwriadu cymryd dim camau pellach mewn perthynas â hi;

a

(b)yn hysbysu trefnydd y ddeiseb y caiff trefnydd y ddeiseb, o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan Ran III o'r Rheoliadau.

(3Os—

(a)daw deiseb i law awdurdod—

(i)ar ôl iddo gael cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1); a

(ii)cyn iddo roi hysbysiad o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm yn unol â'r cyfarwyddyd; a

(b)bod y newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb yr un fath â'r newid cyfansoddiadol y mae'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol cynnal y refferendwm mewn perthynas ag ef,

rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb a, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddo gydymffurfio â gofynion paragraff (4).

(4Rhaid i'r awdurdod hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—

(a)bod y ddeiseb wedi dod i law; a

(b)nad yw'n bwriadu cymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb am ei bod yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol â'r newid cyfansoddiadol y mae'r refferendwm i'w gynnal mewn perthynas ag ef yn unol â'r cyfarwyddyd.

(5Os—

(a)daw deiseb i law awdurdod—

(i)ar ôl iddo gael cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1); a

(ii)cyn iddo roi hysbysiad o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm yn unol â'r cyfarwyddyd; a

(b)nad yw'r newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb yr un fath â'r newid cyfansoddiadol y mae'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol cynnal y refferendwm mewn perthynas ag ef,

rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y swyddog priodol yn dyfarnu, yn unol â'r Rhan hon, a yw'r ddeiseb yn ddeiseb ddilys.

(6Os yw'r swyddog priodol yn dyfarnu nad yw deiseb o'r disgrifad ym mharagraff (5) yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol gydymffurfio â rheoliad 14(1) ond, yn ddarostyngedig i hynny—

(a)rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb; a

(b)at ddibenion rheoliad 21, dyddiad dyfarniad y swyddog priodol fydd dyddiad y cyfarwyddyd.

(7At ddibenion paragraffau (3) i (5)—

(a)mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan reoliad 18(1) sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm ar fath o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig, trinnir deiseb sydd wedyn yn dod i law'r awdurdod hwnnw na phennir y math o weithrediaeth ynddi fel pe bai'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol; a

(b)trinnir newidiadau cyfansoddiadol eraill fel yr un newidiadau cyfansoddiadol os ydynt yn cynnig trefniadau gweithrediaeth lle mae'r weithrediaeth o'r un fath.

Cyfuno deisebau

8.—(1Os oes mwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal wedi'i pharatoi, ar unrhyw adeg cyn eu cyflwyno i'r awdurdod gall y deisebau hynny gael eu cyfuno; ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.

(2Os nad yw deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno o dan baragraff (1) yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, rhaid i'r awdurdod beidio ag ystyried y ddeiseb gyfun oni bai bod datganiad yn cyd-fynd â hi, wedi'i lofnodi gan drefnydd y ddeiseb mewn perthynas â'r ddeiseb gyfun, fod y ddeiseb gyfun yn cael ei chyflwyno gyda chytundeb trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4),(5) a (6), os caiff awdurdod fwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal, os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni eu bod yn ddilys ym mhob ystyr heblaw'r un a grybwyllir yn rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r swyddog priodol gyfuno'r deisebau hynny yn unol â pharagraff (7); ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.

(4Rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno deisebau os yw wedi'i fodloni bod y ddeiseb gyntaf sy'n dod i law'r awdurdod (gan gynnwys deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno yn unol â pharagraff (1)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys.

(5Pan fydd deiseb gyfun (sydd wedi'i chyfuno yn unol â pharagraff (3)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno unrhyw ddeiseb arall â'r ddeiseb gyfun honno.

(6Rhaid i'r swyddog priodol

(a)beidio â chyfuno deisebau nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol oni bai bod y swyddog priodol wedi sicrhau cytundeb ysgrifenedig trefnydd deiseb pob deiseb a fyddai, ar ôl eu cyfuno, yn ddeiseb gyfansoddol.

(b)hysbysu pob trefnydd deiseb y mae angen eu cytundeb at ddibenion is-baragraff (a) o ganlyniad y cyfuno a bennir ym mharagraff (10) isod.

(7Rhaid i ddeisebau gael eu cyfuno yn y drefn y deuant i law ac eithrio, os daw mwy nag un ddeiseb i law ar yr un diwrnod—

(a)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion a drinnir fel yr un gyntaf i ddod i law;

(b)y ddeiseb sy'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol â'r newid cyfansoddiadol a gynigir yn y ddeiseb a nodir yn unol ag is-baragraff (a) a drinnir fel yr ail ddeiseb i ddod i law; ac os oes mwy nag un ddeiseb o'r fath, trinnir y deisebau hynny fel pe baent wedi dod i law mewn trefn, gan ddechrau â'r ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion;

(c)trinnir unrhyw ddeisebau eraill fe pe baent wedi dod i law yn y drefn ganlynol—

(i)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf o lofnodion;

(ii)y ddeiseb, os oes un, sy'n cynnig yr un newid cyfansoddiadol a'r ddeiseb a nodir yn unol â pharagraff (i);

(iii)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf nesaf o lofnodion;

(iv)y ddeiseb, os oes un, sy'n cynnwys yr un newid cyfansoddiadol a'r ddeiseb a nodir yn unol â pharagraff (iii);

(v)y ddeiseb sy'n cynnwys y nifer uchaf nesaf o lofnodion; ac felly yn y blaen.

(8Os bydd—

(a)awdurdod yn cael mwy nag un ddeiseb ar yr un diwrnod; a

(b)bod pob un o'r deisebau hynny yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeisebau dilys; ac

(c)nad yw'r deisebau hynny yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol,

rhaid i'r awdurdod hwnnw wneud dyfarniad ynglyn â'r ddeiseb y bydd yn cynnal refferendwm mewn perthynas â hi.

(9Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (8)—

(a)rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth ganlyniad unrhyw ymgynghori ymlaen llaw a wnaed gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag adrannau 25 neu 31 neu reoliadau 17 neu 19; a

(b)os yw'r awdurdod o'r farn ei bod yn angenrheidiol, ymgynghori ymhellach â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.

(10Os oes deiseb gyfun yn deillio o gyfuno deisebau cyfansoddol nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, trinnir y ddeiseb gyfun at ddibenion y Rhan hon fel pe bai'n cynnig y dylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth nad yw'r math o weithrediaeth wedi'i phennu odani.

(11At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir newidiadau cyfansoddiadol fel yr un newidiadau cyfansoddiadol—

(a)os ydynt yn cynnig trefniadau gweithrediaeth y ceir yr un math o weithrediaeth odanynt; neu

(b)os nad yw'r math arfaethedig o weithrediaeth wedi'i bennu.

Dilysrwydd deisebau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd deiseb yn ddeiseb ddilys—

(a)os yw wedi'i llofnodi (naill ai cyn neu ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio neu i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) gan nifer nad yw'n llai na'r rhif dilysu;

(b)os yw'n bodloni gofynion rheoliad 10; ac

(c)os yw wedi'i chyflwyno i'r awdurdod y mae wedi'i chyfeirio ato ar ddiwrnod heblaw un sy'n syrthio o fewn cyfnod moratoriwm.

(2Ni fydd deiseb yn annilys dim ond oherwydd methiant i fodloni unrhyw ofyniad yn rheoliad 10 os gellir darganfod y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef.

(3Os oes person yn llofnodi deiseb ond nad yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 10(3)(a) wedi'i chynnwys, neu os nad yw wedi'i chynnwys ar ffurf ddarllenadwy, caiff llofnod y person hwnnw ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

(4Os oes person yn llofnodi deiseb fwy nag unwaith, caiff ail lofnod y person hwnnw neu ei lofnod wedyn ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

(5Caiff unrhyw lofnod ar ddeiseb sy'n dwyn dyddiad mwy na 12 mis cyn dyddiad y ddeiseb ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

Materion ffurfiol deiseb

10.—(1Rhaid i ddeiseb ddatgan ar bob dalen—

(a)enw'r awdurdod y mae'n cael ei chyfeirio ato; a

(b)y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef.

(2Rhaid i ddeiseb gynnwys, ar bob dalen, ddatganiad yn y termau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn termau i'r un perwyl.

(3Mewn perthynas â phob person sy'n llofnodi deiseb, rhaid i'r wybodaeth ganlynol gael ei rhoi—

(a)enw cyntaf a chyfenw a chyfeiriad y person hwnnw; a

(b)y dyddiad y mae'r person hwnnw'n llofnodi'r ddeiseb.

(4Rhaid i ddeiseb gynnwys, datganiad sy'n cynnwys enw a chyfeiriad llawn y person (y cyfeirir ato fel “trefnydd y ddeiseb” yn y Rhan hon) y mae gohebiaeth sy'n ymwneud â'r ddeiseb i gael ei hanfon ato, neu rhaid i ddatganiad o'r fath gyd-fynd â'r ddeiseb.

(5Os caiff deisebau eu cyfuno cyn eu cyflwyno i'r awdurdod—

(a)rhaid i drefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol benderfynu ar enw'r person (p'un a yw'r person hwnnw'n drefnydd deiseb unrhyw un o'r deisebau cyfansoddol neu beidio) sydd i fod yn drefnydd deiseb at ddibenion y ddeiseb gyfun; a

(b)rhaid i drefnydd deiseb y ddeiseb gyfun hysbysu'r awdurdod o enw a chyfeiriad llawn trefnydd y ddeiseb.

Y weithdrefn ar ôl i ddeiseb ddod i law

11.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, rhaid i'r swyddog priodol—

(a)os yw paragraff (3) o reoliad 8 yn gymwys mewn perthynas â'r ddeiseb, hysbysu trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol, o ddyddiad deiseb y ddeiseb gyfun; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, hysbysu trefnydd y ddeiseb o ddyddiad y ddeiseb.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, a heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol ddyfarnu ynghylch dilysrwydd y ddeiseb.

(3Os ail ddeiseb (neu ddeiseb ddilynol) (“deiseb ddiweddarach”) yw'r ddeiseb, na ellir ei chyfuno'n gyfreithlon â deiseb gynharach am reswm a grybwyllir ym mharagraff (4), (5) neu (6) o reoliad 8, rhaid i'r swyddog priodol gymryd y camau a bennir ym mharagraff (4) isod ac unrhyw gamau eraill a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw bod rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu—

(a)hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb—

(i)bod y ddeiseb wedi dod i law, a dyddiad y ddeiseb;

(ii)bod pob deiseb gynharach wedi dod i law, a'u dyddiad deiseb;

(iii)o'r rheswm na all y ddeiseb ddiweddarach gael ei chyfuno ag unrhyw ddeiseb gynharach; a

(iv)bod y swyddog priodol, oherwydd bod deiseb ddilys gynharach wedi dod i law, yn bwriadu peidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb ddiweddarach; a

(b)hysbysu trefnydd y ddeiseb y caiff trefnydd y ddeiseb, o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan reoliad 18.

Archwilio deisebau gan y cyhoedd

12.  Am y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb, rhaid i'r awdurdod sicrhau bod deiseb ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau'r cyhoedd ei archwilio ar bob adeg resymol a hynny yn ddi-dâl.

Cyhoeddusrwydd i ddeisebau dilys

13.—(1Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni bod deiseb yn ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a naill ai trefnydd y ddeiseb neu os yw'r ddeiseb wedi'i chyfuno yn unol â rheoliad 8(3) trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol—

(a)o gasgliad y swyddog priodol; a

(b)y caiff refferendwm ei gynnal.

(2Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—

(a)bod deiseb ddilys wedi dod i law;

(b)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb neu, yn ôl fel y digwydd, o'r newid cyfansoddiadol yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r ddeiseb yn ei geisio;

(c)o ddyddiad y ddeiseb;

(ch)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl;

(d)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod; ac

(dd)y bydd refferendwm yn cael ei gynnal.

Cyhoeddusrwydd i ddeisebau annilys a'r deisebau hynny na fydd yr awdurdod yn gweithredu mewn perthynas â hwy

14.—(1Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni nad yw deiseb yn ddeiseb ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb (os oes un) o'i dyfarniad ac o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.

(2Os yw'r awdurdod wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 8(8) rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb ynghylch dyfarniad yr awdurdod a'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.

(3Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—

(a)bod deiseb wedi dod i law y dyfarnwyd ei bod yn ddeiseb annilys;

(b)o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw;

(c)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb neu, yn ôl fel y digwydd, o'r newid cyfansoddiadol yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r ddeiseb yn ei geisio;

(ch)o ddyddiad y ddeiseb;

(d)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(dd)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.

(4Os yw deiseb yn annilys dim ond am nad yw'n cydymffurfio â rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) a'r datganiad sydd i'w gyhoeddi gan yr awdurdod o dan baragraff (3) gynnwys datganiad hefyd y gall y ddeiseb annilys gael ei chyfuno ag unrhyw ddeisebau dilynol a gyflwynir i'r awdurdod.

(5Mewn achos y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad—

(a)bod deiseb ddilys wedi dod i law;

(b)na fydd yr awdurdod yn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r ddeiseb honno am ei fod wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 8(8) o'r Rheoliadau hyn;

(c)o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw;

(ch)o'r newid cyfansoddiadol a geisir gan y ddeiseb;

(d)o ddyddiad y ddeiseb;

(dd)bod y ddeiseb ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i aelodau'r cyhoedd ei harchwilio ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(e)o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.

Cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyhoeddusrwydd

15.—(1Rhaid i awdurdod beidio â thynnu unrhyw wariant at ddibenion—

(a)cyhoeddi unrhyw ddeunydd y mae'n ymddangos, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ei fod wedi'i gynllunio i ddylanwadu ar etholwyr llywodraeth leol wrth iddynt benderfynu a ddylid llofnodi deiseb o dan y Rhan hon neu beidio;

(b)helpu unrhyw berson i gyhoeddi unrhyw ddeunydd o'r fath; neu

(c)dylanwadu ar etholwyr llywodraeth leol wrth iddynt benderfynu a ddylid llofnodi deiseb o dan y Rhan hon neu beidio, neu helpu unrhyw berson i ddylanwadu arnynt, drwy unrhyw gyfrwng arall.

(2Rhaid peidio â chymryd dim byd ym mharagraff (1) fel pe bai'n atal awdurdod rhag tynnu gwariant ar gyhoeddi unrhyw wybodaeth ffeithiol neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.

(3Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

Amseru'r refferendwm

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) a rheoliad 21, rhaid i refferendwm o ganlyniad i ddeiseb ddilys gael ei gynnal heb fod yn hwyrach—

(a)na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb; neu

(b)na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y mae rheoliadau o dan adran 45 (mewn perthynas â'r refferendwm) yn dod i rym, p'un bynnag yw'r olaf.

(2Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 17(9).

(3Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.

(4Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal—

(a)ar ddydd Sadwrn na dydd Sul,

(b)ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith nac ar ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5) yng Nghymru, nac

(c)ar unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod diolchgarwch neu alar cyhoeddus.

Y camau cyn y refferendwm

17.—(1Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid i'r awdurdod—

(a)os nad yw'r ddeiseb yn pennu'r math o weithrediaeth a gynigir ar gyfer gweithrediaeth yr awdurdod, neu os ymdrinnir â hi fel pe na bai'n ei bennu—

(i)yn ddarostyngedig i baragraff (2), penderfynu pa fath o weithrediaeth sydd i fod; a

(ii)penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; neu

(b)os yw'r ddeiseb yn pennu'r math o weithrediaeth a gynigir ar gyfer gweithrediaeth yr awdurdod, penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth.

(2Rhaid i'r math o weithrediaeth y penderfynir arno o dan baragraff (1)(a)(i) gynnwys maer etholedig.

(3Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid hefyd i'r awdurdod —

(a)llunio cynigion ar gyfer gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth; a

(b)llunio cynigion wrth-gefn amlinellol.

(4Cyn llunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b), rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.

(5Rhaid i gynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(a) gynnwys—

(a)unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)amserlen mewn perthynas â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn rhoi'r cynnig ar waith.

(6Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a), rhaid i'r awdurdod ystyried i ba raddau y mae'n debyg y bydd y cynigion, o'u rhoi ar waith, yn helpu i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd yr arferir swyddogaethau'r awdurdod, o roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(7O ran cynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(b)—

(a)os nad oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith bryd hynny—

(i)rhaid iddynt gynnwys unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen y maent yn ymwneud â hwy a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(ii)rhaid iddynt gynnwys amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion wrth-gefn manwl sydd wedi'u seilio ar y cynigion wrth-gefn amlinellol ar waith os digwydd bod y cynigion sydd i fod yn destun y refferendwm yn cael eu gwrthod; a

(iii)cânt gynnwys, fel cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod, unrhyw gynigion o dan is-adran (1) o adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol) a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)os oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith bryd hynny, rhaid iddynt gynnwys crynodeb o'r trefniadau hynny.

(8Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b) rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

(9Heb fod yn hwyrach na dau fis cyn y dyddiad y mae'r refferendwm i gael ei gynnal, rhaid i'r awdurdod anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o'r cynigion a lunnir o dan baragraff (3)(a) a (b); a

(b)datganiad sy'n disgrifio—

(i)y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi, a

(ii)canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad wedi'i adlewyrchu yn y cynigion.

(10Rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.

RHAN IIICYFARWYDDIADAU A REFFERENDA

Yr amgylchiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu refferendwm odanynt

18.—(1Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gwneud yn ofynnol, drwy gyfarwyddyd ysgrifenedig i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), i'r awdurdod gynnal refferendwm ynghylch a ddylai weithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys gweithrediaeth o unrhyw fath a ganiateir gan neu o dan adran 11 a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)os yw'n ymddangos iddo fod yr amgylchiadau yn cyd-fynd â'r amgylchiadau a grybwyllir mewn unrhyw baragraff yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

(b)os yw wedi gwrthod cais gan awdurdod o dan adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol);

(c)os yw'n ymddangos iddo fod angen cyfarwyddyd i hybu cydymffurfio â gofynion Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(6) (y gwerth gorau);

(ch)os bydd awdurdod yn gofyn iddo wneud hynny; neu

(d)os bydd trefnydd deiseb yn gofyn iddo wneud hynny.

(2Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1)(a), caiff bennu yn y cyfarwyddyd—

(a)y math o weithrediaeth sydd i'w gynnwys mewn cynigion a lunnir o dan reoliad 19(1)(c);

(b)manylion y canlynol (boed ar ffurf cynigion sydd i fod yn destun y refferendwm neu beidio)—

(i)y trefniadau gweithrediaeth a sut y cânt eu gweithredu; a

(ii)unrhyw drefniadau trosiannol y bydd eu hangen i roi'r cynigion y cynhelir y refferendwm yn eu cylch ar waith.

(c)amserlen mewn perthynas â rhoi'r cynigion ar waith;

(ch)yr egwyddorion neu'r materion y mae'r awdurdod i roi sylw iddynt wrth lunio'r cynigion;

(d)ac eithrio mewn achos lle pennir manylion ar ffurf cynigion yn unol ag is-baragraff (b), mewn perthynas â'r ymgynghori sydd i'w wneud wrth lunio'r cynigion hynny—

(i)y personau y mae'n angenrheidiol ymgynghori â hwy;

(ii)dull yr ymgynghori; a

(iii)y materion y mae'n rhaid ymgynghori â'r personau hynny yn eu cylch;

(dd)y cynigion wrth-gefn amlinellol;

(e)manylion (ar ffurf cynigion neu beidio) y cynigion wrth-gefn manwl sydd i'w rhoi ar waith os caiff y cynigion sydd i fod yn destun y refferendwm eu gwrthod.

(3Os caiff math o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ei bennu mewn deiseb, rhaid i gyfarwyddyd a roddir mewn ymateb i gais y person sy'n drefnydd deiseb mewn perthynas â'r ddeiseb honno beidio â'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys unrhyw fath arall o weithrediaeth.

(4Os caiff math o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ei bennu mewn deiseb y llunnir cynigion o ganlyniad iddi o dan reoliad 17(3), rhaid i gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1)(a) mewn perthynas â'r cynigion hynny beidio â'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ynghylch cynigion sy'n cynnwys unrhyw fath arall o weithrediaeth.

Y camau yn sgîl cyfarwyddyd

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), pan ddaw cyfarwyddyd i law o dan reoliad 18 y pennir mater y cyfeirir ato yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw ynddo, rhaid i'r awdurdod y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wneud y canlynol ar unwaith—

(a)rhoi'r gorau i unrhyw drefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer cynnal refferendwm (boed o ganlyniad i ddeiseb neu o ganlyniad i gyfarwyddyd cynharach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) i'r graddau nad yw'r trefniadau hynny'n gyson â'r trefniadau y mae eu hangen i gynnal y refferendwm a fynnir gan y cyfarwyddyd;

(b)rhoi'r gorau i bob cam mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb sydd wedi dod i law ar y diwrnod neu cyn y diwrnod y cânt y cyfarwyddyd;

(c)yn unol â pharagraffau (1), (2) a (4) o reoliad 20, llunio cynigion ar gyfer gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth;

(ch)yn unol â pharagraffau (3) a (4) o reoliad 20, llunio cynigion wrth-gefn amlinellol; a

(d)gwneud trefniadau i gynnal refferendwm ar y cynigion a lunnir yn unol ag is-baragraff (c) (i'r graddau y mae angen hynny i gydategu unrhyw drefniadau a all barhau yn rhinwedd is-baragraff (a)).

(2Os yw'r awdurdod, ar y diwrnod y daw'r cyfarwyddyd i law—

(a)yn meddu ar y ddeiseb gyntaf a gyflwynwyd iddo o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn (gan gynnwys y ddeiseb unigol sy'n deillio o gyfuno deisebau yn unol â rheoliad 8(1)), a

(b)heb gydymffurfio â rheoliad 11(2) mewn perthynas â hi,

rhaid i'r awdurdod ei fodloni ei hun bod y ddeiseb yn ddilys yn unol â Rhan II o'r Rheoliadau hyn; ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3)(b), ni fydd unrhyw effaith bellach i'r cyfarwyddyd.

(3Mewn achos y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)os yw'r awdurdod wedi'i fodloni bod y ddeiseb yn ddilys, rhaid iddo gydymffurfio â rheoliad 13; a thrinnir y cyfarwyddyd o dan reoliad 18 fel pe bai wedi'i ddiddymu o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan reoliad 13(1);

(b)os yw'r awdurdod wedi'i fodloni bod y ddeiseb yn annilys, rhaid iddo gydymffurfio â rheoliad 14; a thrinnir y cyfarwyddyd o dan reoliad 18 fel pe bai'n effeithiol o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan reoliad 14(1).

(4Pan ddaw cyfarwyddyd i law o dan reoliad 18 y pennir mater y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) neu (e) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw ynddo, rhaid i'r awdurdod y rhoddir y cyfarwyddyd iddo gymryd y camau sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi ei effaith i'r cyfarwyddyd ar unwaith.

(5Os yw—

(a)yr awdurdod y rhoddwyd cyfarwyddyd o dan reoliad 18 iddo yn cael deiseb a gyflwynir iddo o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn (gan gynnwys y ddeiseb unigol sy'n deillio o gyfuno deisebau yn unol â rheoliad 8(1));

(b)y ddeiseb yn dod i law cyn i'r awdurdod roi hysbysiad o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm yn unol â'r cyfarwyddyd;

(c)y ddeiseb yn cynnig newid cyfansoddiadol sy'n wahanol i'r newid cyfansoddiadol y mae'r cyfarwyddyd yn mynnu cynnal refferendwm mewn perthynas ag ef; ac

(ch)y swyddog priodol yn dyfarnu, yn unol â Rhan II, bod y ddeiseb yn ddeiseb ddilys,

trinnir y cyfarwyddyd fel pe bai wedi'i ddiddymu o ddyddiad dyfarniad y swyddog priodol ymlaen.

(6Mewn achos y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb o ddyddiad dyfarniad y swyddog priodol; a rhaid cynnwys yr hysbysiad hwnnw yn yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan reoliad 13(1).

Gofynion ynghylch cynigion

20.—(1Wrth lunio cynigion o dan reoliad 19(1)(c), rhaid i'r awdurdod—

(a)os yw'r cyfarwyddyd yn pennu manylion, math o weithrediaeth neu amserlen, cynnwys y manylion hynny, y math o weithrediaeth hwnnw, neu'r amserlen honno;

(b)os yw'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol rhoi sylw i egwyddorion neu faterion, rhoi sylw i'r egwyddorion neu'r materion hynny;

(c)os yw'r cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â phersonau penodedig, neu mewn modd penodedig neu ynghylch materion penodedig, ymgynghori â'r personau hynny, yn y modd hwnnw neu ynghylch y materion hynny, yn ôl fel y digwydd;

(ch)ystyried i ba raddau y mae'n debyg y bydd ei gynigion, o'u rhoi ar waith, yn helpu i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd yr arferir ei swyddogaethau, o roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (a) i (ch)—

(i)penderfynu pa fath o weithrediaeth fydd y weithrediaeth;

(ii)penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(iii)cymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.

(2Heb ragfarnu paragraff (1)(a), rhaid i gynigion o dan reoliad 19(1)(c) gynnwys—

(a)unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)amserlen mewn perthynas â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn rhoi'r cynigion ar waith.

(3O ran cynigion yr awdurdod o dan reoliad 19(1)(ch)—

(a)os nad oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth na threfniadau amgen ar waith bryd hynny—

(i)ni allant gael eu llunio cyn i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ei ardal, ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi;

(ii)rhaid iddynt gynnwys unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen y maent yn ymwneud â hwy a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(iii)rhaid iddynt gynnwys amserlen mewn perthynas â rhoi'r cynigion wrth-gefn manwl ar waith os digwydd bod y cynigion sydd i fod yn destun y refferendwm yn cael eu gwrthod; a

(iv)gallant gynnwys, fel cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod, unrhyw gynigion o dan is-adran (1) o adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol) a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)os oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith bryd hynny, rhaid iddynt gynnwys crynodeb o'r trefniadau hynny.

(4Wrth lunio cynigion o dan reoliad 19(1)(c) ac (ch), rhaid i awdurdod—

(a)gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

(5Heb fod yn hwyrach na dau fis cyn y dyddiad y cynhelir y refferendwm, rhaid i'r awdurdod anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o'r cynigion a lunnir o dan reoliad 19(1)(c) ac (ch); a

(b)datganiad sy'n disgrifio—

(i)y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi, a

(ii)canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad wedi'i adlewyrchu yn y cynigion.

Yr amser ar gyfer cynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), rhaid peidio â chynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd o dan reoliad 18 yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y cyfarwyddyd neu, mewn achos y mae paragraff (6) o reoliad 7 yn gymwys iddo, y dyddiad a drinnir, yn unol â'r paragraff hwnnw, fel dyddiad y cyfarwyddyd.

(2Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 20(5).

(3Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal—

(a)ar ddydd Sadwrn na dydd Sul,

(b)ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith nac ar ddiwrnod sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru, nac

(c)ar unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod diolchgarwch neu alar cyhoeddus.

(4Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.

(5Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25, yn llunio cynigion wrth-gefn amlinellol neu gynigion ar gyfer gweithreu trefniadau gweithrediaeth; a

(b)yn cyfarwyddo awdurdod i gynnal refferendwm ar y cynigion hynny,

rhaid i'r awdurdod gynnal y refferendwm heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad cyfarwyddyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd

22.—(1Rhaid i'r awdurdod y rhoddir cyfarwyddyd o dan reoliad 18 iddo, heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl dyddiad y cyfarwyddyd, gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad—

(a)sy'n nodi termau'r cyfarwyddyd; a

(b)sy'n cynnwys datganiad—

(i)bod cyfarwyddyd yn y termau a nodir yn yr hysbysiad wedi'i roi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynnu cynnal refferendwm;

(ii)o'r math o weithrediaeth sydd i'w gynnwys yn y cynigion sy'n destun y refferendwm; a

(iii)y bydd refferendwm yn cael ei gynnal.

(2Caiff awdurdod gynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi yn unol â pharagraff (1) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall ynghylch y cyfarwyddyd, neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.

(3Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

RHAN IVCAMAU SYDD I'W CYMRYD AR ÔL REFFERENDA

Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu cymeradwyo

23.  Os cymeradwyo'r cynigion a fu'n destun y refferendwm yw canlyniad refferendwm a gynhaliwyd o dan Ran I neu yn unol â chyfarwyddyd o dan Ran III—

(a)rhaid i'r awdurdod roi'r cynigion hynny a oedd yn destun y refferendwm ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion o dan reoliad 17(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 19(1)(c); a

(b)os oes gan yr awdurdod drefniadau gweithrediaeth ar waith bryd hynny o fath gwahanol i'r rhai a oedd yn destun y refferendwm, bydd adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) yn gymwys er mwyn galluogi'r awdurdod i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth a oedd yn destun y refferendwm fel y mae'n gymwys er mwyn galluogi awdurdod i weithredu trefniadau gweithrediaeth mewn amgylchiadau eraill fel petai cyfeiriadau at y gwahanol drefniadau gweithrediaeth a oedd yn destun y refferendwm wedi'u rhoi yn lle cyfeiriadau at y trefniadau.

Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu gwrthod.

24.—(1Os gwrthod y cynigion a fu'n destun y refferendwm yw canlyniad refferendwm a gynhelir o dan Ran II neu yn unol â chyfarwyddyd o dan Ran III—

(a)ni chaiff yr awdurdod roi'r cynigion hynny ar waith; ac

(b)os nad oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny na threfniadau gweithrediaeth, rhaid iddo lunio cynigion wrth-gefn manwl ar sail ei gynigion wrth-gefn amlinellol; neu

(c)os oes trefniadau gweithrediaeth ar waith gan yr awdurdod bryd hynny, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny tan y bydd wedi'i awdurdodi neu tan y bydd yn ofynnol iddo i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu tan y bydd wedi'i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol; neu

(ch)os oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny, rhaid rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny tan y bydd wedi'i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen gwahanol neu oni bai ei fod wedi'i awdurdodi neu y bydd yn ofynnol iddo i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol;

(2Rhaid i gynigion wrth-gefn manwl gynnwys—

(a)y manylion (os oes rhai) a bennir mewn cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1);

(b)unrhyw fanylion eraill am y trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen y maent yn ymwneud â hwy a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn rhoi'r cynigion wrth-gefn ar waith.

(3Wrth lunio cynigion wrth-gefn manwl, rhaid i'r awdurdod

(a)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

(b)os yw'r cynigion hynny'n cynnwys trefniadau gweithrediaeth, oni bai bod cyfarwyddyd wedi'i roi mewn perthynas â'r mater hwnnw, penderfynu i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth.

(4Ac eithrio i'r graddau y pennir cynigion wrth-gefn manwl sy'n cynnwys trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen mewn cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1)—

(a)cyn llunio cynigion yn unol â pharagraff (1)(b) uchod, rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi; a

(b)wrth lunio'r cynigion hynny, rhaid i'r awdurdod ystyried i ba raddau y mae'n debyg y bydd y cynigion, o'u rhoi ar waith, yn helpu i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd yr arferir swyddogaethau'r awdurdod, o roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(5Os caiff cynigion wrth-gefn manwl eu llunio yn unol â pharagraff (1)(b), rhaid i'r awdurdod anfon copi ohonynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r awdurdod roi'r cynigion wrth-gefn manwl ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn unol â rheoliad 17(7)(a)(ii) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 20(3)(a)(iii).

(7Os caiff cynigion wrth-gefn manwl eu seilio ar gynigion a gymeradwyir o dan is-adran (1) o adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol), estynnir yr amserlen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) i'r graddau y ceir unrhyw oedi wrth wneud y rheoliadau angenrheidiol o dan adran 11(5) neu 32 (yn ôl fel y digwydd).

RHAN VPWERAU DIOFYNCYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Pwerau diofyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25.  Os bydd awdurdod yn methu â chymryd unrhyw gamau y gellir eu cymryd neu y mae'n rhaid eu cymryd gan yr awdurdod o dan unrhyw un o Rannau II i IV, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd y camau hynny ei hun.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Rheoliad 10(2)

ATODLEN 1DATGANIAD DEISEB

Dyma dermau'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 10(2)—

Rheoliad 18(1)(a)

ATODLEN 2YR AMGYLCHIADAU PENODOL Y CAIFF CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU FYNNU CYNNAL REFFERENDWM ODANYNT

RHAN IAMGYLCHIADAU SY'N YMWNEUD Å CHYNIGION

1.  Nid yw'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 19(1)(c), ac nid yw'n debyg o wneud hynny oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo felly.

2.  Mae'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30 a 33—

(a)heb gymryd camau rhesymol i gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol yn ôl adran 25(2) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 31(5), rheoliad 17(4), rheoliad 20(1)(c) neu (d)(iii) neu reoliadau o dan adran 30, 33 neu 31(7); neu

(b)heb roi sylw priodol i'r ymateb i'r ymgynghori hwnnw; neu

(c)heb gynnal yr ymgynghori hwnnw mewn modd sy'n deg ac yn gyson â chanllawiau ynghylch mater yr ymgynghori hwnnw.

3.  Nid yw cynigion yr awdurdod—

(a)yn cydymffurfio â gofynion is-adrannau (3) a (6) o adran 25 neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(1)(a) neu (b) a (5) neu reoliad 20(1)(a) a (b), (d)(i) a (ii) a (2) neu unrhyw ddarpariaeth gymaradwy mewn rheoliadau o dan adrannau 30 a 33;

(b)yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan adran 31(7) o'r Ddeddf; neu

(c)yn foddhaol mewn unrhyw ystyr arall.

4.  Mae'r cyfnod rhwng unrhyw gamau dilynol a gynigir yn yr amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion yr awdurdod ar waith a gynhwyswyd mewn cynigion a luniwyd o dan adran 25, neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(3)(a), rheoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30, 33 neu 31(7)—

(a)yn afresymol o hir; neu

(b)yn torri unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan Ran II o'r Ddeddf.

5.  Mae'r awdurdod wedi methu â rhoi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion hynny.

6.  Mae'r awdurdod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

RHAN IIAMGYLCHIADAU SY'N YMWNEUD Å CHYNIGION WRTH-GEFN

7.  Nid yw'r awdurdod wedi llunio cynigion wrth-gefn amlinellol o dan adran 27(1)(b) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(3)(b) neu reoliad 19(1)(ch), ac nid yw'n debyg o wneud hynny oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo felly.

8.  Mae'r awdurdod wedi llunio cynigion wrth-gefn amlinellol—

(a)heb gymryd camau rhesymol i gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan adran 27(3) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(4) neu reoliad 20(3)(a)(i);

(b)heb gynnal yr ymgynghori hwnnw mewn modd sy'n deg ac yn gyson â chanllawiau ynghylch mater yr ymgynghori hwnnw; neu

(c)heb roi sylw priodol i'r ymateb i'r ymgynghori hwnnw.

9.  Mae'r cyfnod rhwng unrhyw gamau dilynol a gynigir yn yr amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod ar waith os digwydd bod y refferendwm yn gwrthod y cynigion a luniwyd o dan adran 25, neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c), yn afresymol o hir.

10.  Nid yw cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod—

(a)yn cydymffurfio â gofynion is-adrannau (4) a (10) o adran 27 neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(7)(a)(i) neu reoliad 20(3)(a)(ii); neu

(b)yn foddhaol mewn unrhyw ystyr arall.

11.  Mae'r awdurdod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”), caiff pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol (“awdurdod”) yng Nghymru wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan weithrediaethau, sy'n gorfod bod yn un o'r mathau a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu mewn rheoliadau o dan adran 11(5).

Os yw cynigion awdurdod ar gyfer gweithrediaeth o dan adran 25 o'r Ddeddf yn cynnwys maer etholedig, mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gynnal refferendwm cyn cymryd camau i roi'r cynigion ar waith.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod gynnal referendwm heblaw pan fydd yn ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 27 o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynnal refferendwm lle bydd o leiaf 10 y cant o'r etholwyr llywodraeth leol yn ardal awdurdod yn deisebu'r awdurdod i gynnal refferendwm ar y cwestiwn a ddylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig. Maent hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan amgylchiadau penodedig, i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys unrhyw fath o weithrediaeth a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu a ragnodir mewn rheoliadau o dan adran 11(5).

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymwneud â deisebau ar gyfer refferenda. Mae rheoliadau 4 a 5 yn berthnasol i'r rhif sydd i'w ddefnyddio er mwyn dyfarnu a oes gan y ddeiseb gefnogaeth o leiaf 10 y cant o etholwyr yr awdurdod (“y rhif dilysu”).

Deuir o hyd i'r rhif dilysu bob blwyddyn drwy gyfeirio at nifer yr etholwyr y gwelir eu henwau ar y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol. Ceir darpariaethau arbennig mewn perthynas â deisebau a gyflwynir rhwng dyddiad cyhoeddi rhif dilysu a 1 Ebrill yn y flwyddyn y cyhoeddir y rhif dilysu.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog a benodir at y diben gan yr awdurdod gyhoeddi'r rhif dilysu, ac yn galluogi'r person hwnnw i sicrhau gwybodaeth berthnasol oddi wrth swyddogion cofrestru etholiadol. Rhaid i'r rhif dilysu cyntaf gael ei gyhoeddi heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac, yn y blynyddoedd dilynol, o fewn 14 dydd ar ôl 15 Chwefror ym mhob blwyddyn.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi hysbysiad cyhoeddus o'r rhif dilysu ac o'r cyfnod pryd y mae i gael ei ddefnyddio er mwyn dyfarnu a yw deisebau'n ddilys, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau arbennig.

Mae Rheoliad 6(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm yn unol â Rhan II o'r Rheoliadau os yw'r swyddog a benodir ganddynt i ddilysu deisebau wedi'i fodloni bod deiseb sydd wedi dod i law'r awdurdod yn ddilys. Ceir eithriadau i hyn, y darperir ar eu cyfer gan reoliadau 7, 8 a 19. Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm o'r fath os nad yw'r swyddog hwnnw'n fodlon bod deiseb yn ddilys. Mae rheoliad 6(2) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflwyno deisebau.

Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth arbennig os daw deiseb (“deiseb ôl- gyhoeddiad”) i law ar ôl i'r awdurdod roi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys maer etholedig. O dan yr amgylchiadau hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb ôl-gyhoeddiad i gael eu hysbysu bod y ddeiseb ôl-gyhoeddiad wedi dod i law, a'u hysbysu o'r ffaith na fwriedir cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hi. Hefyd rhaid i drefnydd y ddeiseb ôl-gyhoeddiad gael ei hysbysu erbyn pa ddyddiad y caiff person o'r fath ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymyrryd o dan reoliad 18. Gwneir darpariaeth arbennig arall lle daw deiseb i law ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan reoliad 18.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cyfuno deisebau. Gall deisebau gael eu cyfuno gan drefnwyr deisebau cyn eu cyflwyno i'r awdurdod, a chan swyddog priodol yr awdurdod ar ôl i'r deisebau ddod i law'r awdurdod. Ni all deisebau gael eu cyfuno pan fydd y rhif dilysu wedi'i gyrraedd. Ni all deisebau nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol (a ddiffinnir yn rheoliad 8(8)) gael eu cyfuno heb gytundeb trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol. Os caiff deiseb sy'n pennu math o weithrediaeth ei chyfuno â deiseb lle na phennir y math o weithrediaeth, mae'r ddeiseb gyfun i gael ei thrin at ddibenion eraill y Rheoliadau fel pe bai'n cynnig math o weithrediaeth sydd heb ei bennu.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn ymdrin â dilysrwydd a chynnwys deisebau. Rhaid i ddeiseb gael ei llofnodi gan o leiaf yr un nifer o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod â'r rhif dilysu. Mae deiseb i gael ei thrin fel un ddilys, er gwaethaf methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 10, cyn belled ag y gellir darganfod y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef. Dylai natur y newid cyfansoddiadol gael ei bennu yn y termau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu mewn termau tebyg. Mae rheoliad 10 hefyd yn darparu ar gyfer enwi “trefnydd y ddeiseb”. Os caiff deisebau eu cyfuno cyn eu cyflwyno i'r awdurdod, trefnwyr y deisebau cyfansoddol sydd i ddyfarnu pwy yw trefnydd y ddeiseb mewn perthynas â'r ddeiseb gyfun.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer hysbysu trefnydd y ddeiseb o “dyddiad y ddeiseb” (a ddiffinnir yn rheoliad 3). Rhaid hysbysu trefnydd y ddeiseb a Chynulliad Cenedlaethol Cymru os na all ail ddeiseb (neu ddeiseb ddilynol) gael ei chyfuno â deiseb gynharach am reswm heblaw'r rheswm bod y ddeiseb gynharach yn annilys. Gall trefnydd deiseb y mae swyddog yr awdurdod wedi gwrthod ei chyfuno ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymyrryd o dan reoliad 18.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod drefnu bod deisebau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.

Yn rheoliad 13 pennir y camau y mae'n rhaid eu cymryd pan fydd swyddog yr awdurdod wedi penderfynu bod deiseb yn ddilys.

Yn rheoliad 14 pennir, yn benodol, y camau y mae'n rhaid eu cymryd pan fydd swyddog yr awdurdod wedi penderfynu nad yw deiseb yn ddilys.

Yn rheoliad 15 gosodir cyfyngiadau ar y camau a all gael eu cymryd, a'r gwariant a all gael ei dynnu, gan awdurdod mewn cysylltiad â deisebau.

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol bod refferendwm yn cael ei gynnal, yn sgîldeiseb ddilys, o fewn chwe mis ar ôl dyddiad y ddeiseb neu o fewn dau fis ar ôl i reoliadau o dan adran 45 o'r Ddeddf (ynghylch cynnal refferenda), ddod i rym, p'un bynnag sydd olaf.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ac ymgynghori yn eu cylch cyn cynnal refferendwm. Hefyd rhaid i'r awdurdod lunio amlinelliad o'r cynigion wrth-gefn y mae'r awdurdod yn bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion yn y refferendwm ac ymgynghori yn eu cylch. Wrth lunio cynigion, mae'n ofynnol i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi o dan adran 38 o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 18, yn Rhan III, y mae Atodlen 2 yn berthnasol iddo, yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo awdurdod i gynnal refferendwm ac yn pennu'r materion a all gael eu cynnwys yng nghyfarwyddyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn rheoliad 19 pennir y camau y gall awdurdod eu cymryd pan gaiff gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae paragraff (2) o'r rheoliad hwnnw yn atal effaith y cyfarwyddyd os yw'r awdurdod wedi cael eu deiseb gyntaf o dan Ran II o'r Rheoliadau ond heb eu bodloni eu hunain ei bod yn ddilys. Os yw'r ddeiseb yn ddilys, mae paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ar y math o weithrediaeth a gynigir gan y ddeiseb, ac nid oes unrhyw effaith i'r cyfarwyddyd. Os yw'r ddeiseb yn annilys, mae'r cyfarwyddyd yn effeithiol ac mae'n ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm yn unol â thelerau'r cyfarwyddyd. Gwneir darpariaeth arbennig lle daw deiseb i law ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan reoliad 18.

Mae rheoliad 20 yn cynnwys darpariaethau ynghylch cynnwys y cynigion y mae'r awdurdod i'w llunio. Ymdrinnir ag ymgynghori hefyd.

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae rheoliad 21 yn pennu bod rhaid i refferendwm sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan reoliad 18 gael ei gynnal o fewn chwe mis ar ôl ddyddiad y cyfarwyddyd.

Yn rheoliad 22 pennir trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i refferenda a gynhelir ar gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol a cheir cyfyngiadau ar gyhoeddi gwybodaeth arall gan yr awdurdod ynghylch y cyfarwyddyd a'i ganlyniadau.

Mae Rhan IV yn ymdrin â'r camau sydd i'w cymryd ar ôl cynnal refferendwm o dan Ran II neu o ganlyniad i gyfarwyddyd o dan Ran III.

Os cymeradwyo cynigion y refferendwm yw canlyniad y refferendwm, mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion o dan reoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c), yn ôl fel y digwydd.

Os gwrthod cynigion y refferendwm yw canlyniad y refferendwm, mae rheoliad 24 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lunio cynigion wrth-gefn manwl, oni bai eu bod eisoes yn gweithredu trefniadau amgen neu drefniadau gweithrediaeth. Mae cynigion wrth-gefn manwl i gael eu hanfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Maent i gael eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gyflwynwyd o'r blaen, neu, os ydynt wedi'u seilio ar gynigion wrth-gefn amlinellol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 28, yn ôl amserlen sy'n adlewyrchu'r angen i wneud rheoliadau o dan adran 11(5) neu 32 (yn ôl fel y digwydd).

Os yw'r awdurdod eisoes yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, mae rheoliad 24 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trefniadau hynny barhau tan y bydd yr awdurdod wedi'i awdurdodi i neu tan y bydd yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gwahanol.

Mae rheoliad 25 yn Rhan V yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd unrhyw gamau y caniateir i awdurdod eu cymryd neu y mae'n ofynnol i awdurdod eu cymryd o dan unrhyw un o Rannau II i IV os yw'r awdurdod yn methu â chymryd y camau hynny.

(3)

Adran 13 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2) y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2), Atodlen 2, paragraff 6 yn ei lle ar 16 Chwefror 2001.

(4)

Gweler adran 13(5) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, Atodlen 1, paragraff 6 yn ei lle, ynghylch y cyfnod y mae cofrestrau yn effeithiol ar ei gyfer.