Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000

2.  At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—

(a)at swyddog safonau moesegol yn gyfeiriad at Gomisiynydd Lleol yng Nghymru;

(b)at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru;

(c)at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;

(ch)at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a

(d)at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.