Cymhwyso darpariaethau Deddf 20002
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—
a
at swyddog safonau moesegol yn gyfeiriad at Gomisiynydd Lleol yng Nghymru;
b
at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru;
c
at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
ch
at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
d
at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.