Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 8

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD

(1)(2)
Y SwyddogaethY Ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu

1.  Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)(1).

2.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3.  Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2).

4.  Y pŵer i wrthod penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3).

5.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22, 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6.  Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)(4)).

7.  Y pŵer i wneud penderfyniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8.  Y pŵer i wneud cytundeb sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

9.  Y pŵer i roi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5).

10.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

11.  Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(6).

12.  Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(7)

13.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(8).

15.  Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(9)).

16.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol cynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(10).

17.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18.  Y ddyletswydd i benderfynu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd gweithredol Rhan I neu II, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl fel y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20.  Y pŵer i benderfynu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 16(1) a (2), 17, 27(2) a 33(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

21.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno(11)).

22.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Adrannau 13(1) a 14(1) a (4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)1990 a rheoliadau 3 i 6 ac 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol; Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24.  Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi mewn perthynas â dymchwel adeilad sydd heb ei restru mewn ardal gadwraeth.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25.  Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(12).

27.  Y pŵer i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28.  pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29.  pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30.  pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1960 (p.33).

31.  Y pŵer i gyflwyno gorchmynion prynu.

Adrannau 137—144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32.  Pwerau yn gysylltiedig â hysbysiadau malltod.

Adrannau 149—171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

33.  Y pŵer i awdudrdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
B. Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)

1.  Y pŵer i roi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir yn safle carafanau (“trwyddedau safle”).

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62).

2.  Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49).

3.  Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

(a)o ran cerbydau hacni, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 &11 Vict. p.89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 & 39 Vict. p.55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p.67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57);

(b)o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48,57,58,60. a 79 o Ddeddf Llywodraeth (Darpariaethau Amrywiol) 1976

4.  Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

5.  Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6.  Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963 (p.2)(13).

7.  Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963(14).

8.  Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i gilydd.

Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Gamblo a Loteriau 1963 (15).

9.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Gamblo 1968 (p. 65)(16)).

10.  Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hybu loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)(17).

11.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1976 (18)).

12.  Y pŵer i roi trwyddedau sinema a thrwyddedau clybiau sinema.

Adran 1 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13).

13.  Y pŵer i roi trwyddedau theatr.

Adrannau 12 i 14 o Ddeddf Theatrau 1968 (p. 54)(19).

14.  Y pŵer i roi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p. 12), adran 79 o Ddeddf Trwyddedu 1964 (p. 26), adrannau 1 i 5 a 7 o Ddeddf Lleoedd Adloniant Preifat (Trwyddedu) 1967 (p. 19) a Rhannau I a II o'r Atodlen iddi, a Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) ac Atodlenni 1 a 2 iddi.

15.  Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

16.  Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

17.  Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

18.  Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)(20).

19.  Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

20.  Y pŵer i drwyddedu caffis nos a siopau prydau parod.

Adran 2 o Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969 (p. 53)(21).

21.  Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972 (p. 66)(22)).

22.  Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedu Helgig 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adrannau 12(3) a 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1874 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

23.  Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu safleoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

24.  Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p.69).

25.  Y pŵer i roi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)(23).

26.  Y pŵer i roi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer eisteddleoedd rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

27.  Y pŵer i roi trwyddedau tân.

Adran 5 o Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 (p.40)

28.  Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

29.  Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)(24); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)(25); Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 c. 70)(26)); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)(27), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

30.  Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p.38)(28)).

31.  Y pŵer i drwyddedu sŵau.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (p.37)(29).

32.  Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus (p.38).

33.  Y pŵer i drwyddedu iardiau naceriaid.

Adran 4 o Ddeddf Lladd-dai 1974. Gweler hefyd Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646).

34.  Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p.33), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1963 (p.37).

35.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd ar gyfer gweinyddu priodasau.

Rhan 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76) a Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (O.S. 1995/510)(30).

36.  Y pŵer i gofrestru tir comin neu lawntiau trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pŵer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—

(a)cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn effeithio arnynt; neu

(b)gorchymyn o adran adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p.118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tiroedd Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

37.  Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)(31).

38.  Y pŵer i drwyddedu personau i gasglu ar gyfer achosion elusennol ac achosion eraill.

Adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 (p.31) ac adran 2 o Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939 (p. 44)(32).

39.  Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

40.  Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22).

41.  Y pŵer i drwyddedu asiantaethau ar gyfer cyflenwi nyrsys.

Adran 2 o Ddeddf Asiantaethau Nyrsys 1957 (p.16).

42.  Y pŵer i roi trwyddedau ar gyfer symud moch.

Erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11).

43.  Y pŵer i drwyddedu gwerthu moch.

Erthygl 13 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

44.  Y pŵer i drwyddedu canolfannau casglu ar gyfer symud moch.

Erthygl 14 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

45.  Y pŵer i roi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod

46.  Y pŵer i ganiatáu gosod sgip adeiladwr ar briffordd.

Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

47.  Y pŵer i drwyddedu plannu, cadw a chynnal coed etc. ar ran o'r briffordd.

Adran 143 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

48.  Y pŵer i drwyddedu gweithfeydd mewn perthynas ag adeiladau etc. sy'n rhwystro'r briffordd.

Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

49.  Y pŵer i gydsynio i ollyngiadau neu gloddiadau mewn strydoedd.

Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

50.  Y pŵer i hepgor y rhwymedigaeth i godi palis neu ffens.

Adran 172 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

51.  Y pŵer i gyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd.

Adran 178 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

52.  Y pŵer i gydsynio i adeiladu selerydd etc. o dan y stryd.

Adran 179 o Ddeddf Priffyrdd 1980(33).

53.  Y pŵer i gydsynio i wneud agoriadau i selerydd etc. o dan strydoedd, a goleuadau ac awyryddion ar y pafn.

Adran 180 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

54.  Y pŵer i ganiatáu defnyddio rhannau o adeiladau ar gyfer storio selwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilm Selwloid a Sinematograff 1922 (p.35).

55.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig.

Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082)(34).

56.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd i gynhyrchu briwgig neu baratoadau cig.

Rheoliad 4 o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).

57.  Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau llaeth.

Rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid 1995 (O.S. 1995/1086)(35).

58.  Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau cynhyrchion wyau.

Rheoliad 5 o Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520).

59.  Y pŵer i roi trwyddedau i siopau cigyddion manwerthol sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â chig amrwd sydd heb ei lapio ac sy'n gwerthu neu'n cyflenwi cig amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta.

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid) Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341(36)).

60.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion pysgod.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994).

61.  Y pŵer i gymeradwyo canolfannau dosbarthu neu ganolfannau puro.

Rheoliad 11 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

62.  Y pŵer i gofrestru llongau pysgota y mae perdys neu fwlysgiaid yn cael eu coginio arnynt.

Rheoliad 21 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

63.  Y pŵer i gymeradwyo llongau ffatri a sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

64.  Y pŵer i gofrestru marchnadoedd ocsiwn a marchnadoedd cyfanwerthu.

Rheoliad 26 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Bwyd (Hylendid) 1998.

65.  Y ddyletswydd i gadw cofrestr o safleoedd busnesau bwyd.

Rheoliad 5 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 (O.S. 1991/2828).

66.  Y pŵer i gofrestru safleoedd busnesau bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) a Rheoliad 9 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991.
C. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogewlch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni heblaw yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr.Rhan I o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37)(37).
CH. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau

1.  Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)(38).

2.  Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

3.  Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

5.  Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6.  Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7.  Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Paragraff 4(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1978 (p. 10)(39).

8.  Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9.  Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10.  Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

11.  Y pŵer i dalu costau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12.  Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13.  Y ddyletswydd i ddatgan bod yna le gwag mewn swydd mewn rhai achosion.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

14.  Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i benderfynu ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17.  Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18.  Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, OS 1999/450.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, OS 1999/450.
D. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion

1.  Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2.  Y pŵer i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3.  Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn henadur mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
DD. Y pŵer i wneud, diwygio, diddymu neu ail-ddeddfu is-ddeddfauUnrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac Adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)(40).
E. Y pŵer i hybu neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol.Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
F. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.

1.  Swyddogaeth sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 (p. 11)(41).

2.  Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Dynion Tân sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir yn aelodau o frigadau tân a gynhelir yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947.

Adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 (10 ac 11 Geo.6 p. 41)(42).
FF. Swyddogaethau amrywiol

1.  Y pŵer i greu llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adrannau 25 a 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

2.  Y pŵer i gau llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

3.  Y pŵer i wyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

4.  Y ddyletswydd i ddatgan a diogelu hawliau i'r cyhoedd ddefnyddio a mwynhau priffyrdd.

Adran 130 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

5.  Pwerau sy'n ymwneud â symud pethau a ollyngwyd ar briffyrdd mewn modd sy'n eu gwneud yn niwsans.

Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

6.  Y ddyletswydd i barhau i adolygu map a datganiad diffiniol.

Adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

7.  Y ddyletswydd i ailddosbarthu ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus.

Adran 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

8.  Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl fel y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (O.S. 1996/590(43)).

9.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38).

10.  Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Coed 1999 (OS. 1999/1892).

11.  Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd1997 (O.S. 1997/1160).

12.  Y pŵer i wneud gorchymyn calchbalmant.

Adran 34(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

13.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(44) a pharagraff 42 i Atodlen 12 iddi.

14.  Y pŵer i benodi staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau.

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i ystyried adroddiadau anffafriol gan y Comisiynydd Lleol.

Adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974.

Rheoliad 9

ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU A ALL FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD FELLY)

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol heblaw swyddogaeth a bennir neu y cyfeirir ati o'r cyfarwyddiadau yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Penodi byrddau adolygu o dan reoliadau o dan is-adran (4) o adran 34 (dyfarnu ar geisiadau ac adolygiadau) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998(45).

4.  Gwneud trefniadau yn unol ag is-adran (1) o adran 67 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion) ac Atodlen 18 iddi.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu) ac Atodlen 25 iddi.

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996(46) i ganiatáu gofyn cwestiynau ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n dwyn effaith am y tro o dan adran 5 (adolygiadau'r gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(47).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(48)).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(49).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(50)).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(51).

14.  Archwilio ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(52).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol(53)).

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(54) ynghylch buddiannau mewn tir.

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(55).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(56).

19.  Penodi unrhyw unigolyn—

(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b)i unrhyw gorff heblaw—

(i)yr awdurdod;

(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o awdurdodau; neu

(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i roi budd-daliadau eraill men achosion camweinyddu etc.(57)

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

Rheoliad 10(1)

ATODLEN 3SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD YN UNIG

(1)(2)
Cynlluniau a strategaethauCyfeiriad
Cynlluniau Cymorth YmddygiadAdran 527A o Ddeddf Addysg 1996
Cynllun Perfformiad y Gwerth GorauAdran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27)
Cynllun Gwasanaethau PlantParagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (p.41)
Cynllun Gofal CymunedolAdran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19).
Strategaeth GymunedolAdran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac AnhrefnAdrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)
Cynllun Datblygu'r Blynyddoedd CynnarAdran 120 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Strategol AddysgAdran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Gwasanaethau Gorfodi'r Gyfraith BwydAdran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28)
Cynllun Trafnidiaeth LleolAdran 92 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (cyhyd ag y bydd wedi sicrhau'r Cydsyniad Brenhinol)
Cynllun Trefniadaeth YsgolionAdran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun DatblyguAdran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Cynllun Iaith GymraegAdran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Cynllun Cyfiawnder IeuenctidAdran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).

Rheoliad 11

ATODLEN 4AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD ODANYNT

(1)(2)
Y SwyddogaethYr Amgylchiadau

1.  Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol), heblaw cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun neu strategaeth y cyfeirir atynt yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai'r penderfyniad a ddylai'r cynllun neu'r strategaeth gael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gel ei gymryd ganddynt hwy.

2.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r bwrdd; a

(b)sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu eu benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno—

(a)

o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy—

(i)

cyllideb yr awdurdod; neu

(ii)

y cynllun neu'r strategaeth sydd am y tro wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod mewn perthynas â'u benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf; a

(b)

heb ei awdurdodi o dan drefniadau amgen yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r bwrdd; a

(b)y mae cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol ) wedi'u mabwysiadu neu wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno o blaid dyfarfnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl fel y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.
(1)

Adran 70(1)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

(2)

Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.

(3)

Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.

(4)

Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.

(5)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(6)

O.S. 1992/666, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael yr amgylchiadau y gall yr hawl gael ei harfer odanynt, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(8)

Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio Gwlad ac Iawndal 1991.

(9)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(10)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(11)

Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) Atodlen 3, paragraff 7.

(13)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(14)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(15)

Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6).

(16)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(17)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(18)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(19)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(6) a Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6 paragraff 11 ac Atodlen 34, Rhan VI.

(20)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol, (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).

(21)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(9).

(22)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1).

(23)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno ac Atodlen 2 iddi.

(24)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 42 ac Atodlen 8.

(25)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(26)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(27)

Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(28)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.

(29)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Ddiogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988.

(30)

Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).

(31)

A ddiwygiwyd gan O.S. 1968/658.

(32)

A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(33)

A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(34)

A ddiwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/683).

(35)

A ddiwygiwyd gan O.S. 1996/699.

(36)

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Diogelwch Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763).

(37)

I gael y diffiniad o “y darpariaethau statudol perthnasol” gweler adran 53(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974. Gweler hefyd y diffiniadau o “the existing statutory provisions” a “health and safety regulations” yn adran 53(1) ac, o ran “health and safety regulations”, adran 15(1) o'r Ddeddf honno a amnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975 (p.71), Atodlen 15, paragraff 5.

(38)

Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlen 4.

(39)

A ddeddfwyd yn wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.

(40)

Mae adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 yn cael ei chymhwyso at is-ddeddfau a wneir o dan Adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.

(41)

O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).

(42)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(43)

A wnaed o dan adran 23 (rheoliadau ynghylch cyfrifon) o Ddeddf Cyllid Llyodraeth Leol 1982 (p.32) fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p.18).

(44)

Gweler hefyd adrannau 8 ac 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(45)

1998 p.14. Mae adran 34(4) yn disodli adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992. Mae effaith Rheoliadau Budd-daliadau'r Dreth Gyngor 1992 (O.S. 1992/1814) a Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, yn parhau yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30), er bod adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 wedi'i diddymu.

(46)

996 p.16.

(47)

1999 p.27.

(48)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y Rhan honno.

(49)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).

(50)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(51)

Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

(52)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(53)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(54)

1990 p.8.

(55)

1976 p.57.

(56)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22), adran 23.

(57)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources