Penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau safonau15

1

Rhaid i awdurdod perthnasol sefydlu panel a fydd yn cynnwys nid mwy na phum aelod panel.

2

Rhaid i un aelod panel fod yn aelod panel lleyg.

3

Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) gan awdurdod lleol gynnwys un aelod panel sy'n aelod o gyngor cymuned sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.