Search Legislation

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2283 (Cy.172)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 53(11) a (12), 56(5) a 105(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “aelod” (“member”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw —

    (a)

    yn achos awdurdod lleol, aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw, a

    (b)

    yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol neu awdurdod tân aelod a benodir i'r awdurdod hwnnw naill ai —

    (i)

    o dan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, neu

    (ii)

    o dan unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;

  • ystyr “aelod annibynnol” (“independent member”) yw aelod o bwyllgor safonau nad yw —

    (a)

    yn aelod,

    (b)

    yn swyddog, neu

    (c)

    yn briod ag aelod neu swyddog

    o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod pethnasol arall, na chyngor cymuned;

  • ystyr “aelod panel” (“panel member”) yw aelod o banel a sefydlwyd o dan reoliad 15;

  • ystyr “aelod panel lleyg” (“lay panel member”) yw aelod o banel a sefydlir o dan reoliad 15 —

    (a)

    nad yw, ac nad yw wedi bod, yn aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog, neu

    (b)

    nad yw'n briod i aelod neu swyddog

    o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod perthnasol arall na chyngor cymuned;

  • ystyr “aelod pwyllgor cymunedol” (“community committee member) yw aelod o bwyllgor safonau sy'n aelod hefyd o gyngor cymuned yn ardal yr awdurdod perthnasol o dan sylw;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2);

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —

    (a)

    cyngor sir,

    (b)

    cyngor bwrdeistref sirol,

    (c)

    awdurdod Parc Cenedlaethol, ac

    (ch)

    awdurdod tân;

  • ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw awdurdod tân a gyfansoddwyd trwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(3);

  • mae i “bwrdd” (“board”) yr ystyr a roddir iddo gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(4);

  • mae “cadeirydd” (“chairperson”), at ddibenion rheoliad 8(3), yn cynnwys —

    (a)

    cadeirydd a etholir o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(5)), a

    (b)

    cadeirydd a etholir o dan baragraff 17 o Ran III o'r Atodlen i unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(6);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • mae “dirprwy gadeirydd” (“deputy chairperson”) yn cynnwys —

    (a)

    dirprwy gadeirydd a etholir o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, a

    (b)

    is-gadeirydd a etholir o dan baragraff 17 o Ran III o'r Atodlen i unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;

  • ystyr “y Gorchmynion Gwasanaethau Tân” (“the Fire Service Orders”) yw —

    (a)

    Gorchymyn Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(7),

    (b)

    Gorchymyn Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(8), ac

    (c)

    Gorchymyn Gwasanaethau Tân De Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(9);

  • ystyr “gweithrediaeth arweinydd a chabinet” (“leader and cabinet executive”) yw'r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”) yw'r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir naill ai —

    (a)

    yn adran 11(2), neu

    (b)

    yn adran 11(4)o Ddeddf 2000;

  • ystyr “is-bwyllgor i bwyllgor safonau” (“sub- committee of a standards committee”) yw is- bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ac mae'n cynnwys is-bwyllgor i bwyllgor safonau;

  • mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” gan adran 270(3) o Ddeddf 1972;

  • ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw'r trefniadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 32(1) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “trefniadau gweithrediaeth” (“executive arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol —

    (a)

    ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod ac mewn cysylltiad â hynny, a

    (b)

    y mae swyddogaethau penodol i'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth o danynt.

Maint pwyllgorau safonau

3.  Rhaid i bwyllgor safonau gynnwys nid llai na phump ac nid mwy na naw o aelodau.

Aelodaeth pwyllgorau safonau

4.  Rhaid i aelodaeth pwyllgor safonau beidio â chynnwys personau heblaw —

(a)personau sy'n aelodau o'r awdurdod perthnasol o dan sylw,

(b)aelodau annibynnol, neu

(c)aelodau pwyllgor cymunedol.

5.—(1Os yw cyfanswm aelodau pwyllgor safonau yn eilrif, rhaid i o leiaf hanner y rhif hwnnw fod yn aelodau annibynnol.

(2Os yw cyfanswm aelodau pwyllgor safonau yn odrif, rhaid i'r mwyafrif o'r rhif hwnnw fod yn aelodau annibynnol.

6.—(1Rhaid i berson sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw yn aelod ohono.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), caiff person sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, ar ôl y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o unrhyw awdurdod perthnasol, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i awdurdod perthnasol nad yw'r person hwnnw wedi bod yn aelod ohono.

7.—(1Rhaid i berson sydd wedi bod yn swyddog o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw yn swyddog ohono.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), caiff person sydd wedi bod yn swyddog o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, ar ôl y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn swyddog o unrhyw awdurdod perthnasol, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i awdurdod perthnasol nad yw'r person hwnnw wedi bod yn swyddog ohono.

8.—(1Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, rhaid i'r canlynol, sef —

(a)maer etholedig awdurdod o'r fath sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, a

(b)arweinydd gweithrediaeth awdurdod o'r fath sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet,

beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod perthnasol hwnnw.

(2Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen, rhaid i gadeirydd bwrdd yr awdurdod hwnnw beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.

(3Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu'n awdurdod tân, rhaid i'r canlynol, sef —

(a)cadeirydd, a

(b)dirprwy gadeirydd (os oes un)

awdurdod o'r fath beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.

9.—(1Ni chaiff aelodaeth pwyllgor safonau awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gynnwys mwy nag un aelod sy'n aelod hefyd o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw.

(2Ni chaiff aelodaeth pwyllgor safonau awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen gynnwys mwy nag un aelod sy'n aelod hefyd o fwrdd yr awdurdod hwnnw.

10.  Rhaid i aelodaeth pwyllgor safonau sydd i gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol, sef —

(a)cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod perthnasol hwnnw, a

(b)aelodau'r cynghorau cymuned hynny,

gynnwys o leiaf un aelod pwyllgor cymunedol.

11.  Rhaid i aelod o awdurdod lleol sydd hefyd yn aelod o gyngor cymuned sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw beidio â bod yn aelod pwyllgor cymunedol i bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.

Dyrannu seddau i grwpiau Gwleidyddol

12.  Nid yw pwyllgor safonau i gael ei ystyried yn gorff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(10) yn gymwys iddo.

Penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau safonau

13.—(1Pan fydd lle gwag yn codi ar gyfer swydd fel aelod annibynnol o bwyllgor safonau, rhaid i'r awdurdod perthnasol o dan sylw gyhoeddi hysbyseb mewn nid llai na dau bapur newydd (nad ydynt yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol hwnnw) sy'n cylchredeg yn ei ardal.

(2Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod hysbysu'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod perthnasol fod yr awdurdod perthnasol yn ceisio penodi aelod annibynnol i'w bwyllgor safonau.

(3Caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbyseb mewn cysylltiad ag unrhyw le gwag ar gyfer swydd fel aelod annibynnol ar bwyllgor safonau'r awdurdod perthnasol hwnnw mewn unrhyw bapur newydd y mae'n ei gyhoeddi.

14.  Rhaid i awdurdod perthnasol —

(a)sefydlu meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'w bwyllgor safonau, a

(b)cyhoeddi'r meini prawf hynny yn yr hysbyseb y cyfeirir ati yn rheoliad 13(1) uchod.

15.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol sefydlu panel a fydd yn cynnwys nid mwy na phum aelod panel.

(2Rhaid i un aelod panel fod yn aelod panel lleyg.

(3Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) gan awdurdod lleol gynnwys un aelod panel sy'n aelod o gyngor cymuned sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

16.—(1Rhaid i banel a sefydlir o dan reoliad 15 uchod —

(a)ystyried pob cais a ddaw i law'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â lle gwag ar gyfer aelod annibynnol o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw;

(b)cymhwyso'r meini prawf a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan sylw o dan reoliad 14 uchod pan fydd yn ystyried ceisiadau am swydd fel aelod annibynnol o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw; ac

(c)gwneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw geisiadau o'r fath i'r awdurdod perthnasol.

(2Rhaid i benodiadau aelodau annibynnol o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol gael eu gwneud gan yr awdurdod perthnasol y mae'n rhaid iddo roi sylw i argymhellion y panel.

17.  Os yw'r awdurdod perthnasol o dan sylw yn barnu ei bod yn briodol, caiff hysbyseb a gyhoeddir o dan reoliad 13(1)—

(a)hysbysu'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod perthnasol hwnnw fod cadeirydd ac is-gadeirydd ei bwyllgor safonau yn cael eu hethol o blith aelodau annibynnol y pwyllgor hwnnw; a

(b)hysbysu'r etholwyr hynny ynghylch y nodweddion a'r profiad y gallai fod yn ofynnol i aelodau annibynnol sy'n dal swyddi o'r fath feddu arnynt.

Cyfnod swydd aelodau pwyllgorau safonau

18.—(1Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau i awdurdod sy'n aelod o'r awdurdod hwnnw beidio â bod yn fwy —

(a)na phedair blynedd, neu

(b)na'r cyfnod tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin i'r awdurdod lleol hwnnw sy'n dod nesaf ar ôl penodi'r person hwnnw yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw,

p'un bynnag yw'r byrraf.

(2Rhaid i aelod o'r fath roi'r gorau i fod yn aelod o'r pwyllgor safonau hwnnw os yw'r aelod hwnnw'n rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r awdurdod lleol o dan sylw.

19.—(1Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu'n awdurdod tân, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw sy'n aelod o awdurdod o'r fath beidio â bod yn fwy —

(a)na phedair blynedd, neu

(b)na'r cyfnod tan y bydd penodiad yr aelod hwnnw yn aelod o'r awdurdod hwnnw yn dod i ben,

p'un bynnag yw'r byrraf.

(2Rhaid i aelod o'r fath roi'r gorau i fod yn aelod o'r pwyllgor safonau hwnnw os yw'r aelod hwnnw'n rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r awdurdod perthnasol o dan sylw.

20.  Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau sy'n aelod annibynnol o'r pwyllgor hwnnw beidio â bod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd.

Ailbenodi aelodau o bwyllgorau safonau

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18 a pharagraff (2) o reoliad 19 uchod, gall aelod o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol sy'n aelod o'r awdurdod hwnnw gael ei ailbenodi am un tymor olynol pellach.

(2Rhaid i aelod annibynnol o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol beidio â gwasanaethu am fwy nag un cyfnod fel aelod o'r fath.

Cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau safonau

22.—(1Rhaid i aelodau pwyllgor safonau ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith aelodau annibynnol y pwyllgor hwnnw.

(2Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yw'r busnes cyntaf y mae'n rhaid ei drafod yng nghyfarfod cyntaf pwyllgor safonau.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2) uchod, y cadeirydd fydd yn llywyddu mewn cyfarfodydd pwyllgor safonau.

(4Os yw'r cadeirydd yn absennol o gyfarfod pwyllgor safonau, yna is-gadeirydd y pwyllgor, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(5Os bydd cadeirydd ac is-gadeirydd pwyllgor safonau yn absennol o un o gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw, rhaid i'r aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau hwnnw y bydd aelodau'r pwyllgor hwnnw yn ei ddewis lywyddu.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —

(a)cyfnod heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd, neu

(b)tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau yn dod i ben.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i is-gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —

(a)cyfnod heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd, neu

(b)tan fydd cyfnod swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau yn dod i ben.

(8Gall person a etholir yn gadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog priodol yr awdurdod perthnasol o dan sylw.

(9Pan fydd lle gwag yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cael ei lenwi, rhaid i'r person a benodir felly ddal ei swydd am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —

(a)tan y dyddiad y byddai cyfnod swydd y person y mae'r person hwnnw wedi'i ethol yn ei le wedi dod i ben, neu

(b)tan y bydd cyfnod swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau hwnnw yn dod i ben.

Pleidleisio

23.—(1Mae gan aelod o bwyllgor safonau nad yw'n aelod o'r awdurdod perthnasol o dan sylw hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwnnw.

(2Rhaid i gwestiwn y mae pwyllgor safonau i benderfynu arno gael ei benderfynu drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod ac yn pleidleisio arno.

(3Os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan y person sy'n cadeirio cyfarfod y pwyllgor safonau ail bleidlais, sef pleidlais fwrw.

Cworwm

24.  Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod pwyllgor safonau oni bai —

(a)bod o leiaf dri aelod o'r pwyllgor hwnnw yn bresennol, gan gynnwys y cadeirydd, a

(b)bod o leiaf hanner yr aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys y cadeirydd) yn aelodau annibynnol.

Cyfarfodydd pwyllgorau safonau

25.—(1Rhaid i bob pwyllgor safonau gynnal o leiaf un cyfarfod yn ystod pob cyfnod o 12 mis ar ôl 31 Rhagfyr 2001.

(2Rhaid i bob pwyllgor safonau gynnal o leiaf un cyfarfod ar 31 Rhagfyr 2001 neu cyn hynny.

(3Rhaid i swyddog monitro awdurdod perthnasol neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod perthnasol fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.

Darpariaethau cymwysadwy Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

26.—(1Yn ddarostyngedig i'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (2) i (9) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1972, sef —

(a)adran 100A,

(b)adran 100B,

(c)adran 100C,

(ch)adran 100D

(d)adran 100F,

(dd)adran 100H,

(e)adran 100I,

(f)adran 100K, ac

(ff)Atodlen 12A

yn gymwys fel petai pwyllgor safonau yn brif gyngor at ddibenion y darpariaethau hynny.

(2Yn is-adran (3)(a) o adran 100A ac is-adran (1) o adran 100B, yn lle “council” rhowch “relevant authority”.

(3Yn is-adran (4)(b) o adran 100B, yn lle “chairman” rhowch “chairperson”.

(4Yn —

(a)is-adran (6)(a) o adran 100A,

(b)is-adran (1) o adran 100C, ac

(c)is-adran (1)(b) o adran 100D,

yn lle “offices of the council”, rhowch “offices of the relevant authority”.

(5Yn —

(a)is-adran (1) o adran 100F, a

(b)is-adran (6) o adran 100H,

hepgorwch “committee or”.

(6Yn is-adran (3) o adran 100H, yn lle “principal council” rhowch “relevant authority”.

(7Yn is-adran (1) o adran 100K, hepgorwch —

(a)“committee or sub-committee of a principal council” shall be construed in accordance with section 100E(3) above;,

(b)“constituent principal council” shall be construed in accordance with section 100E(4) above;, ac

(c)“principal council” shall be construed in accordance with section 100J above.

(8Hepgorwch is-adran (2) o adran 100K.

(9Addasir paragraff (2) o Ran III o Atodlen 12A fel a ganlyn —

(a)yn lle “principal council” rhowch “relevant authority”,

(b)yn lle “committee or sub-committee” rhowch “standards committee or sub-committee of that committee”,

(c)hepgorwch “and includes a reference”, ac

(ch)hepgorwch is-baragraffau (a), (b) ac (c).

27.—(1Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, osod unrhyw hysbysiad ynghylch un o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae'n ofynnol ei osod yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100A o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

(2Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod unrhyw agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae, neu y gall fod, yn ofynnol iddynt fod yn agored i aelodau'r cyhoedd eu harchwilio yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100B o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn agored i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

(3Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod unrhyw gofnodion o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau ac unrhyw ddogfennau eraill y mae, neu y gall fod, yn ofynnol iddynt fod yn agored i aelodau'r cyhoedd eu harchwilio yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100C o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn agored i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i adran 100A o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, caiff awdurdod perthnasol fabwysiadu unrhyw ddulliau eraill i roi hysbysiad cyhoeddus ynghylch cyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae'n credu eu bod yn briodol.

Cofnod trafodion pwyllgorau safonau

28.—(1Rhaid llunio cofnodion trafodion pwyllgor safonau a'u rhoi mewn llyfr a ddarperir at y diben hwnnw gan swyddog priodol yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid iddynt gael eu llofnodi gan gadeirydd y pwyllgor ar ddiwedd y cyfarfod hwnnw neu yn y cyfarfod o'r pwyllgor sy'n dilyn nesaf.

(2Rhaid i gofnodion trafodion pwyllgor safonau gynnwys —

(a)cofnod o unrhyw benderfyniad a wnaed gan y pwyllgor;

(b)y rheswm dros y penderfyniad hwnnw; ac

(c)cofnod o unrhyw ddatganiad o fuddiant sydd gan aelod o'r pwyllgor sy'n berthnasol i unrhyw fater y penderfynwyd arno gan y pwyllgor hwnnw yn ystod y trafodion penodol hynny.

Cylch gwaith pwyllgorau safonau

29.—(1Rhaid i bob awdurdod perthnasol baratoi yn ddi-oed datganiad sy'n nodi cylch gwaith ei bwyllgor safonau.

(2Rhaid i bob awdurdod perthnasol anfon y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru.

Trefniadau trosiannol

30.—(1Os yw awdurdod perthnasol —

(a)wedi sefydlu pwyllgor safonau cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, a

(b)bod aelodaeth y pwyllgor hwnnw ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn cynnwys un neu ragor o aelodau annibynnol

bydd y paragraffau canlynol yn gymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, caiff awdurdod perthnasol o'r fath ganiatáu i aelod annibynnol o'r fath barhau i fod yn aelod am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —

(a)pum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, neu

(b)tan y daw cyfnod swydd yr aelod annibynnol hwnnw i ben.

(3Ni fydd paragraff (2) uchod yn gymwys —

(a)os nad yw'r awdurdod perthnasol yn barnu bod y broses benodi ar gyfer unrhyw aelod annibynnol o'r fath yn ddigon i warantu annibyniaeth yr aelod hwnnw, neu

(b)os na fyddai unrhyw aelod annibynnol o'r fath yn bodloni gofynion diffiniad aelod annibynnol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.

Mae adran 53(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod perthnasol, sydd, yng Nghymru, yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau heddlu ond nid cynghorau cymuned, sefydlu pwyllgor safonau sydd i gael y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan honno o'r Ddeddf.

O dan adran 53(11) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch (ymhlith pethau eraill) maint, aelodaeth a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru, heblaw awdurdodau heddlu, a maint, aelodaeth a thrafodion unrhyw is-bwyllgorau a sefydlir o dan adran 56 o'r Ddeddf.

Mae rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â maint ac aelodaeth pwyllgor ac is-bwyllgorau safonau ac mae rheoliad 12 yn darparu nad oes unrhyw ofyniad ynghylch cydbwysedd gwleidyddol i fod yn gymwys iddynt.

Mae rheoliadau 13, 14, 15, 16 a 17 yn darparu ar gyfer penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliadau 18, 19, 20 ac 21 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfnod swydd aelodau pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau a'u hailbenodi.

Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swydd cadeirydd ac is-gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor safonau ac mewn perthynas â phleidleisio mewn cyfarfodydd.

Mae rheoliadau 24 a 25 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chworwm yng nghyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau, mynychder y cyfarfodydd a phresenoldeb swyddog monitro'r awdurdod neu gynrychiolydd i'r swyddog monitro.

Mae rheoliad 26 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliadau 28 a 29 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chadw cofnod o'r trafodion ac mewn perthynas â chylch gwaith pwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Mae rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau trosiannol ynghylch penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau ac is-bwyllgorau safonau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources