- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(1), mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog ymchwilio ddod ger ei fron pan fydd yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad (neu os na chyflwynir unrhyw sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol), er mwyn cyflwyno ei adroddiad neu esbonio unrhyw un o'r materion sydd wedi'i gynnwys ynddo (ond nid fel arall).
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “swyddog ymchwilio” yw:
(a)yn achos ymchwiliad a wnaed gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru neu ar ei ran ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, y person a gynhaliodd yr ymchwiliad; neu
(b)yn achos ymchwiliad a gyfeiriwyd ato o dan adran 70 (4) o Ddeddf 2000, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol.
(4) Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â Rheoliad 7(b) uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:
(a)oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu
(b)rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.
(5) Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol, neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.
(6) Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:
(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,
(b)ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) isod ddod i law, neu
(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) isod,
p'un bynnag sy'n digwydd olaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: