xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2277 (Cy. 167 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Gweithrediaeth) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 25(8), 105(1) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Gweithrediaeth) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

Erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol gydymffurfio ag adran 25 o'r Ddeddf

3.  Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag adran 25 o'r Ddeddf erbyn 31 Ionawr 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y CynulliadCenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yn ddarostynedig i'r eithriad isod, mae adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdod lleol”) lunio cynigion ar gyfer rhoi trefniadau gweithrediaeth, fel y'u diffinnir gan adran 10(1) o'r Ddeddf, ar waith.

Yr eithriad yw pan fo adran 31 o'r Ddeddf yn gymwys i'r awdurdod lleol a'i bod yn penderfynu llunio cynigion ar gyfer rhoi trefniadau eraill ar waith o dan adran 31(4)(a) o'r Ddeddf.

Wrth lunio cynigion o dan adran 25 o'r Ddeddf, rhaid i awdurdod lleol benderfynu pa ffurf y bydd eu gweithrediaeth yn ei chymryd. Rhaid i'r cynigion gynnwys unrhyw fanylion am y trefniadau gweithrediaeth y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cyfarwyddo, amserlen mewn perthynas â rhoi eu cynigion ar waith a manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

Rhaid i gopi o'r cynigion gael ei anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad yn disgrifio'r camau y mae'r awdurdod lleol wedi'u cymryd i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol eu hardal a phersonau eraill sydd â buddiant ynddi. Hefyd, rhaid i'r datganiad ddisgrifio canlyniad yr ymgynghori ac i ba raddau yr adlewyrchir y canlyniad hwnnw yn y cynigion.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â gofynion adran 25 o'r Ddeddf. Y dyddiad hwnnw yw'r 31 Ionawr 2002.