- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid i apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud drwy hysbysiad iddo (“hysbysiad apêl”), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddweud—
(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;
(b)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac
(c)a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,—
(a)cyflwyno copi ohono i'r canlynol—
(i)Asiantaeth yr Amgylchedd;
(ii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;
(iii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol; a
(iv)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
a chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) uchod; a
(b)cyflwyno copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig ac ymdrinnir â'r apêl fel un y rhoddwyd y gorau iddi ar y dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr hysbysiad hwnnw.
(4) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) uchod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw adeg ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
(5) Pan roir y gorau i apêl, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: