xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Apelau i lys ynadon

8.—(1Rhaid i apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon yn erbyn hysbysiad adfer fod ar ffurf cŵ yn ar gyfer gorchymyn ac, yn ddarostyngedig i adran 78L(2) a (3) a rheoliadau 7(3), 12 a 13, bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achos.

(2Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y mae'n gwneud cŵ yn,—

(a)adneuo hysbysiad (“hysbysiad apêl”) a chyflwyno copi ohono—

(i)i'r awdurdod gorfodi;

(ii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;

(iii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol;

(iv)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;

(b)adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac

(c)adneuo datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) o is-baragraff (a) uchod.

(3Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.

(4Ar apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon—

(a)caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadau ar gyfer cynnal yr achos, gan gynnwys—

(i)yr amserlen ar gyfer yr achos;

(ii)cyflwyno dogfennau;

(iii)cyflwyno tystiolaeth; a

(iv)trefn yr areithiau;

(b)rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y gŵ yn ac unrhyw wrandawiad ar gyfer cyfarwyddiadau, a chyfle i gael ei wrando yn y gwrandawiadau hynny, yn ychwanegol at yr apelydd a'r awdurdod gorfodi; ac

(c)caiff y llys wrthod caniatáu cais gan yr apelydd i roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer, pan fydd y cais yn cael ei wneud ar ôl i'r llys hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

(5Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 1991(2) (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “adneuo” yw adneuo gyda chlerc yr ynadon.