- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon yn erbyn hysbysiad adfer fod ar ffurf cŵ yn ar gyfer gorchymyn ac, yn ddarostyngedig i adran 78L(2) a (3) a rheoliadau 7(3), 12 a 13, bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achos.
(2) Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y mae'n gwneud cŵ yn,—
(a)adneuo hysbysiad (“hysbysiad apêl”) a chyflwyno copi ohono—
(i)i'r awdurdod gorfodi;
(ii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;
(iii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol;
(iv)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;
(b)adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac
(c)adneuo datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) o is-baragraff (a) uchod.
(3) Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.
(4) Ar apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon—
(a)caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadau ar gyfer cynnal yr achos, gan gynnwys—
(i)yr amserlen ar gyfer yr achos;
(ii)cyflwyno dogfennau;
(iii)cyflwyno tystiolaeth; a
(iv)trefn yr areithiau;
(b)rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y gŵ yn ac unrhyw wrandawiad ar gyfer cyfarwyddiadau, a chyfle i gael ei wrando yn y gwrandawiadau hynny, yn ychwanegol at yr apelydd a'r awdurdod gorfodi; ac
(c)caiff y llys wrthod caniatáu cais gan yr apelydd i roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer, pan fydd y cais yn cael ei wneud ar ôl i'r llys hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
(5) Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 1991(2) (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “adneuo” yw adneuo gyda chlerc yr ynadon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: