2001 Rhif 2197 (Cy.157)
Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78C(8) i (10), 78E(6), 78G(5) a (6), 78L(4) a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19901 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Cynulliad yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
3
Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig2
1
Rhagnodir tir halogedig o'r disgrifiadau canlynol at ddibenion adran 78C(8) yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig—
a
tir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo;
b
tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu odano;
c
tir y cynhaliwyd unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg—
i
puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu
ii
gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;
ch
tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad os nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
d
tir o fewn safle niwclear;
dd
tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran—
i
yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn;
ii
y Cyngor Amddiffyn;
iii
pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn; neu
iv
awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad;
sef tir sy'n cael ei defnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
e
tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu—
i
arfau cemegol;
ii
unrhyw gyfrwng neu docsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974 (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol)2; neu
iii
unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),
ar unrhyw adeg;
f
tir sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991 (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear)3; ac
i
tir—
i
sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (f) uchod; a
ii
sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.
2
At ddibenion paragraff (1)(b) uchod, mae “tarau asid gwastraff” yn darau—
a
sy'n cynnwys asid sylffwrig;
b
a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac
c
sydd neu a oedd yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.
3
Ym mharagraff (1)(ch) uchod, mae i “awdurdodiad” a “proses ragnodedig” yr un ystyr ag “authorisation” a “prescribed process” yn Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol)4 ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli yn ganolog neu yn lleol).
4
Ym mharagraff (1)(d) uchod, ystyr “safle niwclear” yw—
a
unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu
b
unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben, ar ôl diddymu neu ildio trwydded safle niwclear ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono;
ac mae i “trwydded safle niwclear” , “trwyddedai” a “cyfnod cyfrifoldeb” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence”, “licensee” a “period of responsibility” gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 19655.
5
At ddibenion paragraff (1)(dd) uchod, dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae'n rhaid i dir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl neu gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu gael ei drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.
6
Ym mharagraff (1)(dd) uchod—
ystyr “pencadlys rhyngwladol” a “corff amddiffyn” yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 19646;
mae i “awdurdod lluoedd arfog” a “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “service authority” a “visiting force” yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 19527.
7
Ym mharagraff (1)(e) uchod, mae i “arf cemegol” yr un ystyr â “chemical weapon” yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 19968) gan anwybyddu is-adran (2) o'r adran honno.
Llygru dyfroedd a reolir3
At ddibenion rheoliad 2(1)(a), mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dir—
a
pan fydd y tir9 yn effeithio ar ddyfroedd a reolir sy'n cael eu defnyddio, neu y bwriedir eu defnyddio, i gyflenwi dŵ r i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan III o Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991 (y cyflenwad dŵ r)10);
b
pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 (dosbarthu ansawdd dyfroedd)11; neu
c
pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac—
i
pan fydd unrhyw un o'r sylweddau y mae llygru'r dyfroedd yn cael ei achosi ganddynt neu'n debygol o gael ei achosi ganddynt yn dod o fewn unrhyw un o'r teuluoedd neu'r grwpiau o sylweddau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a
ii
pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiadau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys hysbysiadau adfer4
1
Rhaid i hysbysiad adfer ddweud (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—
a
enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;
b
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
c
dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig;
ch
a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol trwy—
i
fod wedi achosi neu'n fwriadol wedi caniatáu i'r sylweddau, neu unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno, neu odano;
ii
fod yn berchennog y tir halogedig o dan sylw; neu
iii
fod yn feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;
d
manylion y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;
dd
y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;
e
rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;
f
pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig o dan sylw—
i
mai felly y mae hi;
ii
enw a chyfeiriad pob un person o'r fath; a
iii
y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;
ff
pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w gwneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6) wedi'u cynhwyso;
g
pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddweud pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;
ng
pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad—
i
perchennog y tir halogedig o dan sylw; a
ii
unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;
h
pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;
i
pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd y sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
j
y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o drosedd12 am fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion yr hysbysiad;
l
y cosbau y gellir eu cymhwyso ar ôl collfarn am drosedd o'r fath13;
ll
enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac
m
dyddiad yr hysbysiad.
2
Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—
a
bod gan berson y'i cyflwynir iddo hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 78L;
b
sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail, y gellir apelio; ac
c
bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i fod i gael ei gyflwyno iddo—
a
unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78G(3) cyn cyflwyno'r hysbysiad;
b
unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad;
c
os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
ch
os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.
2
Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu odano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol i neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) uchod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
Iawndal am hawliau mynediad etc.6
Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith—
a
ar gyfer rhagnodi'r cyfnod pryd y caiff person sy'n rhoi, neu'n ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2) wneud cais am iawndal am roi'r hawliau hynny;
b
ar gyfer rhagnodi dull gwneud cais o'r fath, a'r person y gellir gwneud y cais iddo: ac
c
ar gyfer rhagnodi drwy ba ddull y mae'n rhaid penderfynu swm yr iawndal hwnnw ac ar gyfer gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r iawndal hwnnw.
Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer7
1
Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1)—
a
bod yr awdurdod lleol, wrth benderfynu a yw'n ymddangos bod unrhyw dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig—
i
wedi methu â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78A(2), (5) neu (6); neu
ii
p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth enwi'r holl dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig neu unrhyw ran ohono;
b
bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad—
i
wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5); neu
ii
p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;
c
bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth benderfynu mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
ch
yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth fethu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
d
bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6);
dd
pan fydd dau neu ragor o bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi—
i
wedi methu â phenderfynu pa gyfran o'r gost y datganwyd yn yr hysbysiad fod yr apelydd yn atebol i'w thalu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7); neu
ii
p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;
e
bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau is-adran (1) neu (3) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
f
pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) heb gydymffurfio ag adran 78H(1) neu (3), na fuasai'n rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd sylweddau yn y tir, arno, neu odano, bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol, neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
ff
bod yr awdurdod gorfodi wedi methu'n afresymol â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer heb gyflwyno hysbysiad;
g
bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);
ng
bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);
h
bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
i
bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
j
bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—
i
wedi methu â rhoi sylw i unrhyw galedi y gallai'r adennill ei achosi i'r person y gellid adennill y gost oddi wrtho neu i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion adran 78P(2); neu
ii
p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;
l
bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
ll
nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad fel cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth yn rhesymol ddigonol at y diben;
m
bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swydd berthnasol14 fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);
n
bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB (cydadwaith Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 â deddfiadau eraill), ac—
i
mewn achos lle dibynnir ar is-adran (1) o'r adran honno, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 27 gael eu harfer;
ii
mewn achos lle dibynnir ar is-adran (3) o adran 78YB, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59 gael eu harfer; neu
o
y cafwyd rhyw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
2
Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos—
a
pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu ei fod yn berson priodol yn rhinwedd is-adran (2) o adran 78F a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno;
b
pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu
c
pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro, a'i fod yn honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.
3
Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r awdurdod apeliadol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg na'r camgymeriad yn un o sylwedd.
Apelau i lys ynadon8
1
Rhaid i apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon yn erbyn hysbysiad adfer fod ar ffurf cŵ yn ar gyfer gorchymyn ac, yn ddarostyngedig i adran 78L(2) a (3) a rheoliadau 7(3), 12 a 13, bydd Deddf Llysoedd Ynadon 198015 yn gymwys i'r achos.
2
Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y mae'n gwneud cŵ yn,—
a
adneuo hysbysiad (“hysbysiad apêl”) a chyflwyno copi ohono—
i
i'r awdurdod gorfodi;
ii
i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;
iii
i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol;
iv
i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;
b
adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac
c
adneuo datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) o is-baragraff (a) uchod.
3
Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.
4
Ar apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon—
a
caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadau ar gyfer cynnal yr achos, gan gynnwys—
i
yr amserlen ar gyfer yr achos;
ii
cyflwyno dogfennau;
iii
cyflwyno tystiolaeth; a
iv
trefn yr areithiau;
b
rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y gŵ yn ac unrhyw wrandawiad ar gyfer cyfarwyddiadau, a chyfle i gael ei wrando yn y gwrandawiadau hynny, yn ychwanegol at yr apelydd a'r awdurdod gorfodi; ac
c
caiff y llys wrthod caniatáu cais gan yr apelydd i roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer, pan fydd y cais yn cael ei wneud ar ôl i'r llys hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
5
Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 199116 (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.
6
Yn y rheoliad hwn, ystyr “adneuo” yw adneuo gyda chlerc yr ynadon.
Apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru9
1
Rhaid i apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud drwy hysbysiad iddo (“hysbysiad apêl”), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddweud—
a
enw a chyfeiriad yr apelydd;
b
ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac
c
a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
2
Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,—
a
cyflwyno copi ohono i'r canlynol—
i
Asiantaeth yr Amgylchedd;
ii
unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;
iii
unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol; a
iv
unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
a chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) uchod; a
b
cyflwyno copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig ac ymdrinnir â'r apêl fel un y rhoddwyd y gorau iddi ar y dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr hysbysiad hwnnw.
4
Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) uchod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw adeg ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
5
Pan roir y gorau i apêl, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol10
1
Cyn penderfynu apêl, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os yw'n credu ei bod yn briodol,—
a
peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i unrhyw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn penderfynu felly), neu
b
peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal,
a rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd am gael eu gwrando mewn perthynas â'r apêl.
2
Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael eu gwrando mewn gwrandawiad—
a
yr apelydd;
b
Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
c
unrhyw berson (heblaw'r Asiantaeth) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
3
Ni fydd dim ym mharagraff (2) uchod yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
4
Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cynnwys ei gasgliadau a'i argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.
Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl11
1
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 10(4).
2
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod i Asiantaeth yr Amgylchedd ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Addasu hysbysiad adfer12
1
Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) mewn unrhyw ffordd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r awdurdod apeliadol—
a
hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddynt o'r addasiad arfaethedig;
b
caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; ac
c
caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael ei wrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.
2
Pan fydd yr apelydd neu unrhyw berson arall yn cael ei wrando, yn unol â pharagraff (1) uchod, bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael ei wrando hefyd.
Apelau i'r Uchel Lys13
Gall apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad gan lys ynadon yn unol ag apêl o dan adran 78L(1) gael ei chyflwyno gerbron yr Uchel Lys ar gais unrhyw barti i'r achos y rhoddwyd y penderfyniad ynddo (gan gynnwys unrhyw berson a arferodd ei hawl o dan reoliad 8(4)(b) i gael ei wrando yn ngwrandawiad y gŵyn).
Atal hysbysiad adfer14
1
Pan wneir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.
2
Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1)17 ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(2) a (3) (yn achos apêl i lys ynadon) neu reoliad 9(1) a (2) (yn achos apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru).
Cofrestrau15
1
Bydd Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith ar gyfer rhagnodi—
a
manylion y materion, neu'r manylion mewn perthynas â'r materion, sydd i'w cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran honno, at ddibenion is-adran (1) o adran 78R; a
b
materion eraill y bydd y gofrestr honno yn cynnwys manylion a ragnodir mewn perthynas â hwy yn unol ag adran 78R(1)(l).
2
Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) fel gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—
a
lleoliad a hyd a lled y tir yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo;
b
enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer;
c
disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac
ch
y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.
3
Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion is-adran (8) o adran 78R fel lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—
a
os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, ei brif swyddfa; a
b
os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199818.
ATODLEN 1SAFLEOEDD ARBENNIG
1
Rhestrir y teuluoedd a'r grwpiau canlynol o sylweddau at ddibenion rheoliad 3(c)(i)—
Cyfansoddion organohalogen a sylweddau a all ffurfio cyfansoddion o'r fath yn yr amgylchedd dyfrol;
Cyfansoddion organoffosfforws;
Cyfansoddion organotun;
Sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo;
mercwri a'i gyfansoddion;
cadmiwm a'i gyfansoddion;
olew mwynol a hydrocarbonau eraill;syanidau.
2
Rhestrir y ffurfiadau creigiau canlynol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii)—
Crag Norwich Pleistosenaidd;
Sialc Cretasaidd Uchaf;
Tywodfeini Cretasaidd Isaf;
Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf;
Calchfeini Jurasig Canol;
Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf:
Grŵp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;
Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf;
Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf;
Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf;
Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf;
Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.
ATODLEN 2IAWNDAL AM HAWLIAU MYNEDIAD ETC.
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y rhoddwyd hawliau allan ohono yn unol ag adran 78G(2);
ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 196119;
ystyr “grantwr” (“grantor”) yw person sydd wedi rhoi, neu wedi ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2).
Y cyfnod ar gyfer gwneud cais2
Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
a
deuddeng mis ar ôl dyddiad rhoi'r hawliau hynny;
b
pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 14, deuddeng mis ar ôl dyddiad penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau iddi; neu
c
chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.
Dull gwneud cais3
1
Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno neu ei anfon drwy bost rhag-daledig i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.
2
Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais—
a
copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal ar ei gyfer, ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;
b
disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; ac
c
datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4 isod, a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.
Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer4
Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a 5(b) isod, mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—
a
dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o'r grant hawliau;
b
dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau;
c
colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac—
i
y gellir ei briodoli i'r grant hawliau neu i arfer yr hawliau hynny;
ii
nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a
iii
sy'n golled neu'n ddifrod y buasai ganddo hawl i gael iawndal amdanynt ar ffurf iawndal am aflonyddwch, pe buasai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 198120 yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynid ar y dyddiad y rhoddwyd yr hawliau;
ch
difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol, ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
d
colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.
Y sail ar gyfer asesu'r iawndal5
1
Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G.
2
Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
3
Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.
4
Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d) uchod, cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.
5
Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—
a
rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; a
b
ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).
6
Rhaid i iawndal o dan adran 78G gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
Talu iawndal a phenderfynu dadleuon6
1
Telir iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, caiff ei gymhwyso ganddo fel petai'n enillion ar werthiant.
2
Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy—
a
pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad unigol i'w wneud ar ddyddiad penodedig, ar y dyddiad hwnnw;
b
pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac
c
ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.
3
Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) uchod neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
4
Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf 1961 (y weithdrefn ynglyn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—
a
fel petai'r cyfeiriad yn adran 2(1) o'r Ddeddf honno at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn; a
b
fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.
ATODLEN 3COFRESTRAU
Rhaid i gofrestr a gedwir gan awdurdod gorfodi o dan adran 78R gynnwys manylion llawn y materion canlynol—
Hysbysiadau adfer1
Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod—
a
enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;
b
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
c
y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd;
ch
y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;
d
defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw;
dd
yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; ac
e
dyddiad yr hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
2
Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod.
3
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Datganiadau adfer
4
Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).
5
Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath—
a
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a
b
y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
Datganiadau adfer
6
Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan y person cyfrifol o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).
7
Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath—
a
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a
b
y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
8
Yn achos awdurdod gorfodi, unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
9
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Dynodi safleoedd arbennig10
Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal,—
a
unrhyw hysbysiad a roddwyd gan awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b) neu (5)(a) o adran 78C, neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78D(4)(b), sy'n cael effaith o ran dynodi unrhyw dir yn safle arbennig, yn rhinwedd adran 78C(7) neu adran 78D(6);
b
y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd;
c
unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac
ch
unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.
Hysbysu adferiad honedig11
Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod at ddibenion adran 78R(1)(h) neu(j).
Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M12
Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.
Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)13
Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan is-adran (1) o adran 78V ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.
Rheolaethau amgylcheddol eraill
14
Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) rhag cyflwyno hysbysiad adfer—
a
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
b
y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac
c
unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27, tuag at adfer unrhyw niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.
15
Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw—
a
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
b
y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac
c
unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59, mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, gan gynnwys mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.
16
Pan fydd yr awdurdod, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod II o Ran III o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 (troseddau llygru)21, yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—
a
y cydsyniad;
b
lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac
c
y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)