xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL

Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau CymunedolCofnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Y cyfeiriad

1.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1135/70 ynghylch hysbysu plannu ac ailblannu gwinwydd er mwyn rheoli datblygu plannu

OJ Rhif L134, 17.6.70, t.2 (OJ/SE 1970(II)t.379)

2.  Rheoliad y Cyngor (EEC) 357/79 ynghylch yr arwynebeddau ystadegol sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 2329/98 (OJ Rhif L291, 31.10.98, t.2)

OJ Rhif L54, 5.3.79, t.124

3.  Deddf ynghylch amodau derbyn Gweriniaeth Groeg a'r addasiadau i'r Cytuniadau yn diwygio amrywiol Reoliadau ynghylch gwin yn sgil derbyn Groeg, a lofnodwyd ar 28 Mai 1979

OJ Rhif L291, 19.11.79, t.17

4.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3388/81 yn nodi rheolau manwl arbennig mewn perthynas â thrwyddedau mewnforio ac allforio yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1351/97 (OJ Rhif L186, 16.7.97, t.5)

OJ Rhif L341, 28.11.81, t.19

5.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned

OJ Rhif L179, 11.7.85, t.21

6.  Deddf ynghylch amodau ymuno Teyrnas Sbaen a Gweriniaeth Portiwgal a'r addasiadau i'r Cytuniadau, a lofnodwyd ar 12 Mehefin 1985

OJ Rhif L302, 15.11.85, t.23

7.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3590/85 ar y dystysgrif a'r adroddiad ar y dadansoddiad sy'n angenrheidiol ar gyfer mewnforio gwin, sudd grawnwin a mwst grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 960/98 (OJ Rhif L135, 8.5.98, t.4)

OJ Rhif L343, 20.12.85, t.20

8.  Rheoliad y Cyngor (EEC) 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal

OJ Rhif L367, 31.12.85, t.39

9.  Rheoliad y Cyngor (EEC) 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 1631/98 (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.14)(1).

OJ Rhif L208, 31.7.86, t.1

10.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 649/87 yn nodi rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) 1097/89 (OJ Rhif L116, 28.4.89, t.20)

OJ Rhif L62, 5.3.87, t.10

11.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1622/2000 (OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1)

OJ Rhif L272, 3.10.90, t.1

12.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3201/90 yn nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio a chyflwyno gwinoedd a mystau grawnwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2770/98 (OJ Rhif L346, 22.12.98, t.25)

OJ Rhif L309, 8.11.90, t.1

13.  Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 yn nodi rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L277, 30.10.96, t.1)

OJ Rhif L149, 14.6.91, t.1

14.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 3901/91 yn nodi rheolau manwl penodol ar ddisgrifio a chyflwyno gwinoedd arbennig

OJ Rhif L368, 31.12.91, t.15

15.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L203, 21.7.92, t.10

16.  Penderfyniad y Cyngor 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.11

17.  Penderfyniad y Cyngor 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Hwngari ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.83

18.  Penderfyniad y Cyngor 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L337, 31.12.93, t.177

19.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 2238/93 ar y dogfennau sydd i gyd-fynd â chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ar y cofnodion perthnasol sydd i gael eu cadw

OJ Rhif L200, 10.8.93, t.10; cywiriad yn OJ Rhif L301, 8.12.93, t.29

20.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 122/94 yn nodi rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L21, 26.1.94, t.7

21.  Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar gyd- ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L86, 24.1.94, t.1

22.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 554/95 yn nodi rheolau manwl ar gyfer disgrifio gwinoedd pefriol a gwinoedd pefriol awyredig, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1915/96 (OJ Rhif L252, 4.10.96, t.10)

OJ Rhif L56, 14.3.95, t.3

23.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 1294/96 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 822/87 o ran cynaeafu, cynhyrchu a datganiadau stoc ynghylch cynhyrchion sector gwin, fel y'i cywirwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2050/96 (OJ Rhif L274, 26.10.96, t.17, ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 225/97 (OJ Rhif L37, 7.2.97, t.1)

OJ Rhif L166, 5.7.96, t.14

24.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 881/98 yn nodi rheolau manwl ar gyfer diogelu termau ychwanegol a ddefnyddir i ddynodi mathau penodol o win o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodol (gwin o safon psr), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1608/2000 (OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.24) a ddiwigiwyd ei hunan gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 491/2001.

OJ Rhif L124, 25.4.98, t.22

25.  Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd drefniadaeth y farchnad mewn gwin

OJ Rhif L179, 14.7.1999, t.1

26.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 1227/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol ar y potensial ar gyfer cynhyrchu

OJ Rhif L143, 16.6.2000, t.1

27.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 1607/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig

OJ Rhif L185, 25.7.2000, t.17

28.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 1622/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu côd Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol

OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1

29.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 1623/2000 yn nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad fel y diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 545/2001.

OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.45

30.  Rheoliad y Comisiwn (EC) 2729/2000 yn nodi rheolau manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin

OJ Rhif L316, 15.12.2000, t. 16
(1)

Gweler hefyd y Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Protocolau 1 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.37) a 47 (OJ Rhif L1, 3.1.94, t.210)