2001 Rhif 2190 (Cy.152) (C.70)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
GWASANAETHAU LLES CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 1:

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.

Diwrnod penodedig2

Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o'r Tabl a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001, ond lle mae dibenion penodol yn cael eu pennu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl, dim ond at y dibenion hynny y daw'r ddarpariaeth i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

Dafydd Elis ThomasLlywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

YR ATODLEN

Erthygl 2(1)

Y TablDarpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001

Colofn 1 – y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Colofn 2– at ba ddiben y mae'r ddarpariaeth i ddod i rym

Adrannau 1 (Cartrefi plant), 2 (Ysbytai annibynnol etc.), 3 (Cartrefi gofal), 4 (Diffiniadau sylfaenol eraill), 5 (Yr awdurdodau cofrestru), a 7(7) (Dyletswyddau cyffredinol y Comisiwn).

Adran 8 (Swyddogaethau cyffredinol y Cynulliad).

Er mwyn galluogi is ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani.

Adran 9(3)–(5) (Gweithio ar y cyd).

Adrannau 11 (Y gofyniad i gofrestru), 12 (Ceisiadau am gofrestru), 14 (Dileu cofrestriadau), 15 (Ceisiadau gan bersonau cofrestredig).

Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odanynt.

Adrannau 16 (Rheoliadau ynghylch cofrestru), 22 (Rheoli sefydliadau ac asiantaethau), 23 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 25 Torri rheoliadau, 33 (Ffurflenni blynyddol), 34 (Datodwyr etc) a 35 (Marwolaeth person cofrestredig).

Adran 36 (Darparu copïau o gofrestrau).

Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani.

Adrannau 38 (Trosglwyddo staff o dan Ran II), 42 (Y pŵer i estyn cymhwysiad Rhan II), 43 (Rhagarweiniol), 48 (Rheoli gwaith arfer swyddogaethau maethu perthnasol), 49 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 50 (Ffurflenni blynyddol), 51 (Ffi flynyddol), 52 (Torri rheoliadau).

Adran 79(1) (Diwygio Deddf Plant 1989 (p.41)).

Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod ganddi yn Neddf Plant 1989.

Adran 79(1).

Er mwyn mewnosod y darpariaethau canlynol yn Neddf Plant 1989; adran 79B(2) (Diffiniadau eraill etc); ac adran 79B(9) (sy'n cyflwyno Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989), ond dim ond i'r graddau y mae'n angenrheidiol er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989 (sy'n cael ei mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf).

Adran 79(2) (sy'n cyflwyno Atodlen 3 i'r Ddeddf).

Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod yn Neddf Plant 1989 gan Atodlen 3 i'r Ddeddf .

Adrannau 79(3) a (4) “(cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff)”, 107 (Ysgolion preswyl: y safonau cenedlaethol gofynnol), 108 (Ffi flynyddol am arolygiadau ysgolion preswyl), 112 (Y taliadau sy'n cael eu codi am wasanaethau lles awdurdodau lleol), 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) a 115 (Effaith y cynlluniau).

Adran 116 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) (sy'n cyflwyno Atodlen 4 i'r Ddeddf).

Er mwyn dod â'r darpariaethau yn Atodlen 4 a bennir isod i rym.

Adran 117(1) (Darpariaethau trosiannol, eithriadau a diddymiadau) (sy'n cyflwyno Atodlen 5 i'r Ddeddf).

Er mwyn dod â'r darpariaethau yn 5 a bennir isod i rym.

Atodlen 3.

Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth a fewnosodwyd ganddi yn Neddf Plant 1989.

Paragraff 5(6) o Atodlen 4 (sy'n diwygio Deddf Mabwysiadu 1976).

Paragraff 1 o Atodlen 5.

Paragraff 2 o Atodlen 5.

Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odano.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diwrnod i rai o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym.

Mae'n dwyn i rym, ar 1 Gorffennaf , bob pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, ac i baratoi safonau cenedlaethol gofynnol a safonau eraill, sef pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad gan y Rhannau canlynol o'r Ddeddf (a'r Atodlenni sy'n gysylltiedig â'r Rhannau hynny): Rhan I (Rhagarweiniol); Rhan II (Sefydliadau ac Asiantaethau); Rhan III (Gwasanaethau Awdurdodau Lleol); a Rhan VI (Gwarchod Plant a Gofal Dydd).

Yn ychwanegol mae'n dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar y diwrnod hwn. Mae'n dod ag adran 5(b) i rym a'r rhan honno o adran 79 sy'n mewnosod adran 79B(2) newydd yn Neddf Plant 1989 (ac effaith y darpariaethau hyn yw datgan mai'r Cynulliad fydd yr awdurdod cofrestru gofal cymdeithasol dros Gymru). Bydd hyn yn hwyluso gweithgareddau sy'n paratoi ar gyfer dyfodiad i rym y darpariaethau hynny yn y Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gofrestru'r gofal cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru.

Mae'n dod ag adran 112 i rym hefyd (sy'n diwygio Deddf Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 i wneud y pwerau sy'n cael eu rhoi ganddi yn arferadwy mewn perthynas â swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983). Bydd hyn yn caniatáu i'r Cynulliad roi canllawiau a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â'u pŵer i godi taliadau am y gwasanaethau lles y maent yn eu darparu.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru. Daethpwyd â'r darpariaethau hynny ag “(a)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93), a'r rhai â “(b)” ar eu hôl gan O.S. 2001/139 (Cy.5)(C.7).

Y ddarpariaeth

Y dyddiad mewn grym

Adran 40 (yn rhannol) (b)

1 Chwefror 2001

Adran 40 (y gweddill) (b)

28 Chwefror 2001

Adran 41 (b)

28 Chwefror 2001

Adran 54(1), (3)–(7) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 55 ac Atodlen 1 (a)

1 Ebrill 2001

Adran 72 ac Atodlen 2 (a)

13 Tachwedd 2000

Adran 113 (2)–(4) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 114 (yn rhannol) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (y ddwy yn rhannol) (b)

28 Chwefror 2001

Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Adran 80(8)

2 Hydref 2000

Adran 94

2 Hydref 2000

Adran 96 (yn rhannol)

15 Medi 2000

Adran 96 (y gweddill)

2 Hydref 2000

Adran 99

15 Medi 2000

Adran 100

2 Hydref 2000

Adran 101

2 Hydref 2000

Adran 103

2 Hydref 2000

Adran 116 ac Atodlen 4 (y ddwy yn rhannol)

2 Hydref 2000

Adran 117(2) ac Atodlen 6 (y ddwy yn rhannol)

2 Hydref 2000

Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr offerynnau canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26).