xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 9(1)
1. Rhaid cynnal cyfarfod cyntaf y Cyngor ar unrhyw ddiwrnod ac mewn unrhyw leoliad y gall y Cadeirydd eu penodi, a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.
2.—(1) Gall y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor ar unrhyw adeg.
(2) Os oes cais i gael cyfarfod, wedi'i lofnodi gan o leiaf bum aelod, yn cael ei gyflwyno i'r cadeirydd, a bod y cadeirydd naill ai—
(a)yn gwrthod galw cyfarfod; neu
(b)heb wrthod felly, yn peidio â galw cyfarfod o fewn 21 diwrnod ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno iddo, caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod yn ddiymdroi.
(3) (a) Cyn pob cyfarfod o'r Cyngor, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod sy'n pennu'r prif fusnes y bwriedir ei drafod ynddo gael ei gyflwyno i bob aelod, neu ei anfon ato drwy'r post yn ei gyfeiriad hysbys diwethaf, o leiaf saith diwrnod clir cyn diwrnod y cyfarfod.
(b)Yn achos cyfarfod a elwir gan y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan y cadeirydd neu gan berson a awdurdodwyd i lofnodi ar ei ran.
(c)Yn achos cyfarfod a elwir o dan is-baragraff (2) uchod gan aelodau, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod yn y cyfarfod heblaw hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn annilys os bydd unrhyw aelod yn methu â chael yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno neu ei anfon o dan y paragraff hwn.
3.—(1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Cyngor y cadeirydd, neu yn absenoldeb y cadeirydd y dirprwy gadeirydd (os oes un ac os yw'n bresennol) fydd yn llywyddu.
(2) Os bydd y cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd yn absennol, unrhyw aelod arall sy'n bresennol ac y bydd yr aelodau presennol eraill yn ei ddewis at y diben fydd yn llywyddu.
4. Penderfynir ar bob cwestiwn mewn cyfarfod gan fwyafrif o bleidleisiau gan yr aelodau sydd yn bresennol ac yn gymwys i bleidleisio ar y cwestiwn, ac yn achos pleidlais gyfartal, bydd gan y cadeirydd neu, yn absenoldeb y cadeirydd, y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod, ail bleidlais sy'n bleidlais fwrw.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod mewn unrhyw gyfarfod oni fydd o leiaf bum aelod yn bresennol.
(2) Os oes gan y Cyngor lai na phum aelod yna rhaid i bob aelod fod yn bresennol.
6.—(1) Rhaid i gofnodion trafodion y cyfarfod gael eu llunio a chael eu llofnodi yn y cyfarfod nesaf sy'n dilyn gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.
(2) Rhaid cofnodi enwau'r aelodau sy'n bresennol mewn cyfarfod yn y cofnodion.