1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd i'r Gorchymyn hwn unrhyw effaith mewn perthynas â chais am grant a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2001.
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
3. At ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (grantiau adnewyddu: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
4. At ddibenion adran 17 o'r Ddeddf (grantiau rhannau cyffredin: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
5. At ddibenion adran 27 o'r Ddeddf (grantiau tai mewn aml-feddiannaeth: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001