- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (pŵ er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol )—
(a)swyddogaethau darparu, neu gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaethau—
(i)o dan adrannau 2 a 3(1) o'r Ddeddf, gan gynnwys yn benodol wasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a
(ii)o dan adran 5(1), (1A) ac (1B) o'r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi(1); a
(b)unrhyw swyddogaeth o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2).
(2) Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod—
(a)darparu llawfeddygaeth, radiotherapi, erthylu, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4(3) a thriniaethau trychiadol eraill;
(b)gwasanaethau ambiwlans argyfwng;
(c)darparu cyffuriau a sylweddau eraill sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(4)) neu sydd wedi'u rhestru yng ngholofn 1 o Atodlen 11 i'r Rheoliadau hynny, fel y mae'r Atodlenni hynny'n gymwys yng Nghymru ac, o ran Atodlen 11, o dan amgylchiadau lle nad yw'r amodau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno wedi'u bodloni; ac
(ch)darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r datganiad a elwir “the Drug Tariff” a gyhoeddir ac a ddiwygir o dro i dro o dan reoliad 18(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(5) fel y mae'r datganiad yn gymwys yng Nghymru.
Diwygiwyd adran 5(1), a mewnosodwyd adrannau 5(1A) ac (1B), gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1998 (p.49), adran 10(1); diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13, Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, Rhan I, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 7.
Gweler BS EN 60825-1: 1994 Safety of Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (“BSI”) ac y gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LE.
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.
O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1995/644 a 1999/696.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: