xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Mawrth 2001
Yn dod i rym
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28BB(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (pŵ er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol )—
(a)swyddogaethau darparu, neu gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaethau—
(i)o dan adrannau 2 a 3(1) o'r Ddeddf, gan gynnwys yn benodol wasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a
(ii)o dan adran 5(1), (1A) ac (1B) o'r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi(2); a
(b)unrhyw swyddogaeth o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(3).
(2) Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod—
(a)darparu llawfeddygaeth, radiotherapi, erthylu, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4(4) a thriniaethau trychiadol eraill;
(b)gwasanaethau ambiwlans argyfwng;
(c)darparu cyffuriau a sylweddau eraill sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(5)) neu sydd wedi'u rhestru yng ngholofn 1 o Atodlen 11 i'r Rheoliadau hynny, fel y mae'r Atodlenni hynny'n gymwys yng Nghymru ac, o ran Atodlen 11, o dan amgylchiadau lle nad yw'r amodau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno wedi'u bodloni; ac
(ch)darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r datganiad a elwir “the Drug Tariff” a gyhoeddir ac a ddiwygir o dro i dro o dan reoliad 18(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(6) fel y mae'r datganiad yn gymwys yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis Thomas
29 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rhai o swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, at ddibenion adran 28BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i wneud taliadau i Awdurdodau Iechyd tuag at wariant a dynnir ganddynt mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau sydd wedi'u rhagnodi fel hyn.
1977 p.49; mewnosodwyd adran 28BB gan adran 30 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”). Cychwynnwyd adran 30 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000, O.S. 2000/2991 (Cy. 191) (C.92), ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol. Gweler adran 28BB(2) i gael diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28BB a 126(4), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf 1999.
Diwygiwyd adran 5(1), a mewnosodwyd adrannau 5(1A) ac (1B), gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1998 (p.49), adran 10(1); diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13, Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, Rhan I, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 7.
Gweler BS EN 60825-1: 1994 Safety of Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (“BSI”) ac y gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LE.
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.
O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1995/644 a 1999/696.