Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

Darpariaeth drosiannol

8.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd o dan sylw wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 13 Medi 2001, a

(b)na fyddai'r materion a oedd yn creu'r tramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978(1) petai'r Rheoliadau hynny wedi bod ar waith pan gafodd y bwyd ei farcio neu ei labelu.