xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1409 (Cy. 95)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

4 Ebrill 2001

Yn dod i rym

at ddiben Rheoliad 2(6)

12 Ebrill 2001

at bob diben arall

9 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym at ddibenion Rheoliad 2(6) ar 12 Ebrill 2001 ac at bob diben arall ar 9 Ebrill 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau

2.—(1Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosodir ar ôl y diffiniad o “partner”, y diffiniad canlynol—

“permanent resident” means a resident who is not a temporary resident..

(3Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur “£16,000” rhoddir y ffigur “£18,500”.

(4Yn rheoliad 28 (1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur “£10,000”, lle mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur “£11,500” ac yn lle'r ffigur “£16,000” rhoddir y ffigur “£18,500”.

(5Yn Atodlen 4 i'r prif Reoliadau, ar ôl paragraff 1, mewnosodir y paragraff canlynol—

1A.(1) In the case of a resident who becomes a permanent resident on or after 9 April 2001 (“a qualifying resident”) in respect of the first period of permanent residence the value of any dwelling which he would otherwise normally occupy as his only or main residence (“his home”) for a period of 12 weeks beginning with the day on which the first period of residence begins.

(2) In the case of a qualifying resident

(a)who ceases to be a permanent resident, and

(b)who subsequently becomes a permanent resident again at any time within the period of 52 weeks from the end of the first period of permanent residence,

the value of his home for such period (if any) which when added to the period disregarded under sub-paragraph (1) in respect of his first period of permanent residence does not exceed 12 weeks in total.

(3) In the case of a qualifying resident

(a)who ceases to be a permanent resident and is not a person to whom sub-paragraph (2) has applied, and

(b)who subsequently becomes a permanent resident again at any time after a period of more than 52 weeks from the end of the first period of residence,

the value of his home for a period of 12 weeks beginning with the day on which the second period of permanent residence begins.

(4) In this paragraph “the first period of permanent residence” means the period of permanent residence beginning on or after 9th April 2001 and “the second period of permanent residence” means the period of permanent residence beginning at anytime after the period of 52 weeks referred to in subparagraph (3)(b).

(6Yn yr Atodlen 4 a enwyd, ar ôl paragraff 20, mewnosodir y paragraff canlynol—

21.  Any payment which would be disregarded under paragraph 64 of Schedule 10 to the Income Support Regulations (payments under a trust established out of funds provided by the Secretary of State in respect of persons who suffered or are suffering from variant Creutzfeld-Jacob disease)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf o £16,000 i £18,500. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sy'n cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio terfynau uchaf ac isaf cyfalaf o'r fath fel bod pob £250 cyflawn rhyngddynt, neu unrhyw ran ohono nad yw'n £250 cyflawn, yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno categorïau pellach o gyfalaf hefyd sydd i'w hanwybyddu wrth asesu adnoddau preswylydd. Mae gwerth unrhyw annedd a fyddai fel arall yn cael ei feddiannu gan y preswylydd fel ei unig neu brif breswylfa i'w anwybyddu am gyfnod o 12 wythnos o dan yr amgylchiadau a bennir yn y Rheoliadau. Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer anwybyddu taliadau sy'n cael eu gwneud o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd â chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â phersonau a ddioddefodd neu sy'n dioddef gan glefyd amrywiadol Creutzfeldt-Jakob.

(1)

1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/964, 1993/2230, 1994/825, 1994/2386, 1995/858, 1995/3054, 1996/602, 1997/485, 1998/497, 1998/1730, 2001/276 (Cy.12), ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, gan O.S. 2001/58.