Search Legislation

Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2001 Rhif 140 (Cy. 6 )

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

23 Ionawr 2001

Yn dod i rym

28 Chwefror 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(3) o Ddeddf Plant 1989(1) ac sy'n arferadwy ganddo bellach mewn perthynas â Chymru(2).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 1989.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 1991(3) drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A—

Exemption from registration as a children’s home

3B.(1) Subject to section 63(12) and Schedule 7 to the Act (Foster parents: limits on number of foster children), any home in which a child is cared for and accommodated by a person who—

(a)is a local authority foster parent in relation to the child; or

(b)is a foster parent with whom the child has been placed by a voluntary organisation; or

(c)fosters the child privately,

is so far as the provision of care and accommodation for that child is concerned, exempt from the definition of a “children’s home” in section 63(3) of the Act.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i ddwyn i rym, hefyd ar 28 Chwefror 2001, adran 40 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14). Mae adran 40 yn diwygio adran 63(3)(a) o Ddeddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu rhedeg yn breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant i gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal yn yr un modd â chartrefi mwy i blant. Effaith y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau presennol ar berson sy'n maethu mwy na thri o blant, yw esemptio cartrefi y caiff plant eu lletya ynddynt fel plant maeth o'r gofyniad i gofrestru fel cartref plant.

(2)

Yn gyffredin â holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y pŵ er hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mewn perthynas â Lloegr mae'r pŵ er yn arferadwy o hyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3)

O.S. 1991 Rhif 1506. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993 Rhif 3069.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once