- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;
ystyr “Darpariaeth gymunedol” (“Community Provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(1) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(2) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;
ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrthlechog;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;
ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97(3) sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97(4)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97(5), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98(6)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98(7), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98(8) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999(9);
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94(10)) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.
OJ No. L87, 2.4.97, t.3.
OJ No. L175, 3.7.97, t.6.
OJ No. L299, 4.11.97, t.1.
OJ No.L85, 20.3.98, t.3.
OJ No. L180, 24.6.98, t.5.
OJ No. L315, 25.11.98, t.12.
OJ No. L70, 17.3.1999, t.11.
OJ No. L316, 9.12.94, t.2.
OJ No. L1, 3.1.94, t.1.
OJ No. L1, 3.1.94, t.571.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: