Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgyfnerthu ac yn disodli Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar gyfer amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'u diwygiwyd. Nodir pwnc y darpariaethau Cymunedol yn fyr yng ngholofn 3 o Atodlen 1. Cafodd Rheoliad y Comisiwn ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999 sy'n caniatáu defnyddio'r dynodiad “brandy butter”, “sherry butter” neu “rum butter” am gynnyrch alcoholig wedi'i felysu sy'n cynnwys o leiaf 20% o fraster-llaeth.

Yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad EEC 2991/94, mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gofynion o ran cynnwys fitaminau mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad (rheoliad 3(2)).

Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn pennu'r awdurdodau sydd i orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 (rheoliad 5);

(b)yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 6) ac yn cynnwys esemptiad cyfyngedig mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac a ddygir i Gymru o un o Wladwriaethau'r EEA heblaw Aelod-wladwriaeth naill ai'n uniongyrchol neu drwy ran arall o'r Deyrnas Unedig (rheoliad 3(1));

(c)yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y'u darllenir ynghyd â'r nawfed cronicliad yn y Gyfarwyddeb honno (rheoliad 7);

(ch)yn cynnwys darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 8); a

(d)yn diddymu'r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 o ran Cymru (rheoliad 9).

Mae defnyddio'r dynodiad “butter” hefyd wedi'i gyfyngu gan Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 (OJ Rhif L182, 3.7.87, t. 36), a orfodir yng Nghymru gan Reoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Amddiffyn Dynodiadau) 1990 (O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486).