xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Mawrth 2001
Yn dod i rym-
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 17(2) a 26(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001; byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1141/97” (“Commission Regulation 1141/97”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1141/97(2) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1825/2000” (“Commission Regulation 1825/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000(3) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;
ystyr “Rheoliad 1760/2000” (“Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4)) sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
3. Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Teitl II o Reoliad 1760/2000, Rheoliad y Comisiwn 1141/97 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000.
4.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio—
(a)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000; neu
(b)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000, â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97,
yn euog o dramgwydd.
(2) Os oes cig eidion wedi'i labelu a'i farchnata mewn modd nad yw'n cydymffurfio—
(a)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, â'r gofynion labelu gorfodol neu wirfoddol sy'n gymwysadwy o dan Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000; neu
(b)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000, â'r gofynion labelu gwirfoddol sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97,
gall un o swyddogion awdurdod gorfodi o fewn ystyr paragraff (1) o reoliad 5 neu berson a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â meddiant y cig eidion yn ei gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i'w gynnig ar werth nes i'r cig eidion gael ei ail-labelu yn unol â'r gofynion hyn.
(3) Mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, gall hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod awdurdodi anfon y cig eidion yn uniongyrchol i'w brosesu yn gynhyrchion heblaw'r rhai a nodwyd yn indentiad cyntaf Erthygl 12 o Reoliad 1760/2000.
(4) Bydd unrhyw berson na fydd yn cydymffurfio â darpariaethau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod yn euog o dramgwydd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol fydd yr awdurdodau gorfodi mewn perthynas â phob sir a bwrdeistref sirol.
(2) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi mewn perthynas â lladd-dai, safleoedd torri a chyfanwerthwyr gan yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn a chan y Cynulliad Cenedlaethol.
6. Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, o'i gollfarnu'n ddiannod, yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
7.—(1) Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid i unrhyw gyfeiriad at y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno gael eu dehongli fel cyfeiriad i'r darpariaethau hynny fel y cymhwysir hwy at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)adran 2 (yn estyn ystyr “sale” etc.);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(ch)adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
(dd)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Bydd adrannau 32 a 33 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (pwerau mynediad, rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf honno; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adrannau hynny at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad—
(a)at Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000 mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000; a
(b)Rheoliad y Comisiwn 1141/97 mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000.
8. Diddymir Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) 1998(5) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi'r canlynol yng Nghymru—
(a)Teitl II o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion (OJ Rhif L204, 11.8.00, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion (OJ Rhif L216, 26.8.00, t. 8) (“Rheoliad y Comisiwn”), mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000; a
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1141/97 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion, mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000.
Mae'r Rheoliadau hyn—
yn peri mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);
yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 os yw'r methiant hwnnw yn fethiant mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000 (rheoliad 4(1)(a));
yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97 os yw'r methiant hwnnw yn fethiant mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000 (rheoliad 4(1)(b);
yn darparu pŵ er i'r awdurdodau gorfodi roi hysbysiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau roi'r gorau i gynnig gwerthu unrhyw gig eidion sydd wedi'i labelu mewn modd nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 neu Reoliad y Comisiwn 1141/97 (rheoliad 4(2));
yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan reoliad 4(2) (rheoliad 4(4));
yn enwi'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 5);
yn pennu cosb am unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau (rheoliad 6);
yn cymhwyso amryw byd o ddarpariaethau gorfodi Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 7);
yn diddymu Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) 1998 mewn perthynas â Chymru.
1990 p.16; mae swyddogaethau y dywedir eu bod yn arferadwy gan “the Secretary of State” yn arferadwy bellach mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Ychwanegwyd adran 48(4A) gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5, paragraff 21.
OJ Rhif L165, 24.6.97. t.7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 824/98 (OJ Rhif L117, 21.4.98, t. 4).
OJ Rhif L216, 26.8.00, t.8.
OJ Rhif L204, 11.8.00, t.1.