Pwerau arolygwyr
5.—(1) Os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir neu adeilad (heblaw adeilad domestig nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) er mwyn darganfod a yw rheoliad 2(1) yn cael neu wedi cael ei dorri.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “arolygydd” yw person a benodir yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, neu awdurdod lleol.
(3) Ym mharagraffau (2) (4) ac yn rheoliad 8, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(4) Bernir bod unrhyw berson a benodir yn arolygydd at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) gan—
(a)awdurdod lleol; neu
(b)Cynulliad Cenedlaethol Cymru (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu beidio), neu
(c)y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu beidio)
wedi'i benodi yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod hwnnw neu yn ôl fel y digwydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn ôl fel y digwydd gan y Gweinidog hwnnw.