xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1275 (Cy. 74)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

2 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 76(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 2 Ebrill 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid yw'n effeithiol mewn perthynas â chais am grant cymorth trwsio cartref a wneir cyn y dyddiad y daw i rym.

Diwygio'r Gorchymyn

2.  Mae Gorchymyn Grantiau Cyfleusteru i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996(2) yn cael ei ddiwygio yn unol a'r erthyglau canlynol.

Cymorth trwsio cartrefi ; uchafswm ar gyfer un cais

3.  Yn erthygl 4—

(a)Dilëwch “Subject to article 5”;

(b)mharagraffau (a) a (b) (ii), yn lle “£2,000” rhowch “£5,000”.

Cymorth trwsio cartrefi: uchafswm mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd

4.  Mae Erthygl 5 yn cael ei ddiddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 (“Gorchymyn 1996”) i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.

Mae Gorchymyn 1996, ymhlith pethau eraill, yn rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi y caiff awdurdod tai lleol ei roi o dan Bennod III o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae Erthygl 4 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi ar gyfer un cais, yn cael ei ddiwygio i godi'r uchafswm hwnnw o £2,000 i £5,000.

Mae Erthygl 5 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi sy'n daladwy mewn perthynas â'r un annedd, yr un cwch preswyl neu'r un cartref symudol mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd, yn cael ei diddymu.

(1)

1996 p. 53. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 76(2), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, Erthygl 2 ac Atodlen 1.