- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a)i awdurdod lleol(1) y mae darpar fabwysiadydd wedi cyflwyno cais iddo am gael ei asesu yn unol â rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001; a
(b)i gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd(2)) sydd wedi cytuno i asesu darpar fabwysiadydd sydd wedi cyflwyno cais iddi yn unol â'r rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu(3) asesu darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliadau 8 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd(4) ac 8A (collfarnau troseddol darpar fabwysiadydd)(5) o Reoliadau 1983.
(3) Rhaid i banel mabwysiadu y cyfeirir achos darpar fabwysiadydd ato ystyried yr achos a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cyfeirio'r achos ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, yn unol â rheoliad 10 (swyddogaethau panel mabwysiadu)(6) o Reoliadau 1983.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a)gwneud penderfyniad ynghylch addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu a hysbysu'r darpar fabwysiadydd am y penderfyniad, yn unol â rheoliad 11A (penderfyniadau a hysbysiadau asiantaethau mabwysiadu - darpar fabwysiadwyr)(7) o Reoliadau 1983; a
(b)pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo —
(i)yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a
(ii)unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.
Mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag i “local authority” yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.
Mae i “cymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd” yr un ystyr ag i “approved adoption society” yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.
Mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr un ystyr ag i “adoption agency” yn adran 1(4) o Ddeddf 1976, sef awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd.
Diwygiwyd rheoliad 8 gan O.S. 1997/2308.
Mewnosodwyd rheoliad 8A gan O.S. 1997/2308.
Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 1997/649.
Mewnosodwyd rheoliad 11A gan O.S. 1997/649 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2308.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: