xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Gall Cynulliad Cenedaethol Cymru trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.