Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 23 Mawrth 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diffiniadau

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd y termau a ddefnyddir fel y maent wedi'u diffinio yn Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(1) “y prif Reoliadau”.

(2Ystyr “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) yw tir sydd wedi'i gofnodi fel arwynebedd porthiant mewn cais cymorth arwynebedd ar gyfer y flwyddyn 2000.

Daliadau Trawsffiniol

3.  Bydd y prif Reoliadau yn gymwys i ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru ac yn rhannol yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu fel arall ar eu cyfer a hynny fel y maent wedi'u haddasu gan y Rheoliadau hyn.

Diffiniad o awdurdod cymwys

4.—(1Yn y rheoliadau hyn ystyr “awdurdod cymwys” mewn perthynas â daliad yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am benderfynu'r cais am gymorth arwynebedd a gyflwynwyd mewn perthynas â'r daliad.

(2Yr awdurdodau cymwys yw—

(a)yng Nghymru, y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn yr Alban, Gweinidogion yr Alban;

(c)yn Lloegr, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd; ac

(ch)yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

Trefniadau asiantaeth

5.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, gyda chytundeb unrhyw awdurdod cymwys arall, drefnu bod unrhyw rai o'i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw geisiadau yn cael eu harfer gan yr awdurdod cymwys hwnnw ar ei ran.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gytuno hefyd i arfer swyddogaethau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliadau hyn neu'r prif reoliadau ar ran awdurdod cymwys arall

(3Rhaid i unrhyw drefniant o'r fath fod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr awdurdodau cymwys perthnasol a gall trefniant o'r fath fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau (gan gynnwys amodau yn ymwneud â'r costau a chodi tâl am gostau) y cytunir arnynt.

Gwrth-gyfrifiad

6.  Heb ragfarnu cyfanswm unrhyw swm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol i unrhyw awdurdod cymwys arall, gellir gosod unrhyw swm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, p'un ai fel penadur neu fel asiant, fel taliad penodedig yn erbyn cyfanswm unrhyw swm y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill, naill ai fel penadur neu fel asiant.

Dyrannu unedau da byw sy'n pori ar ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru

7.  Pan fydd unrhyw ddaliad y gwnaed cais ar ei gyfer wedi'i leoli yn rhannol y tu allan i Gymru, rhaid cyfrifo nifer yr unedau da byw sy'n pori ar y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru fel a ganlyn:

N = U × X ÷ Y

ac

  • N” yw nifer yr unedau da byw sy'n pori ar y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru;

  • U” yw cyfanswm yr unedau da byw sy'n pori ar y daliad hwnnw;

  • X” yw arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru mewn hectarau; ac

  • Y” yw cyfanswm arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y daliad hwnnw mewn hectarau.

Dyrannu swmp cyfeiriol unigol o laeth ar ddaliadau a leolir yn rhannol y tu allan i Gymru

8.  Pan fydd unrhyw ddaliad y mae cais wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wedi'i leoli yn rhannol y tu allan i Gymru, rhaid cyfrifo'r swmp cyfeiriol unigol o laeth a ystyrir fel pe bai ar gael i geisydd mewn perthynas â'r tir yng Nghymru fel a ganlyn:—

A = B × X ÷ Y

ac

  • X” yw arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru mewn hectarau;

  • Y” yw cyfanswm arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano y daliad hwnnw mewn hectarau;

  • B” yw cyfanswm swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd mewn perthynas â'r daliad hwnnw; ac

  • A” yw'r swmp cyfeiriol unigol o laeth a ystyrir fel pe bai ar gael i'r ceisydd mewn perthynas â'r rhan honno o'r daliad a leolir yng Nghymru.

Y dyddiad cau terfynol

9.  Yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:—

(4) Os oes cais wedi'i wneud am un neu ragor o daliadau chwyddo o dan Elfen 2 o'r Cynllun am 2001, ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael gwybodaeth ategol i gadarnhau'r cais er ei foddhad erbyn 31 Mawrth 2001, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cais a dosbarthu cyllideb Elfen 2 ymhlith ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cadarnhau erbyn y dyddiad hwnnw.

(5) Ni chaiff ceisiadau am daliadau chwyddo Elfen 2 eu gwneud wedi 31 Mawrth 2001.

Ceisiadau HLCA yn unig

10.  Yn rheoliad 3 o'r prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:—

(9) Er gwaethaf darpariaethau paragraff 3(1)(c) o'r rheoliad hwn, bydd ceisydd yn gymwys i gael taliadau o dan y cynllun Tir Mynydd hyd yn oed os nad oes cais o'r fath am gymorth da byw wedi'i gyflwyno:

(a)os gwnaeth y ceisydd gais am Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 a chael taliadau; a

(b)os yw wedi gwneud cais am daliadau o dan y cynllun Tir Mynydd am unrhyw flynyddoedd wedyn yn y cyfamser ac wedi cael taliadau ar eu cyfer.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mawrth 2001