2001 Rhif 1110 (Cy.54)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

3

Mae Rheoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) 19993 wedi'u diddymu.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith ym mhob blwyddyn o dan adran 42(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfarfod blynyddol i'r rhieni” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 43 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19964;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y materion i ymdrin â hwy mewn adroddiad llywodraethwyr3

Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.

Gofynion ynghylch adroddiad llywodraethwyr

4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.

2

Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.

5

Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—

a

bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person a gyflogir yn yr ysgol yn cael copi o adroddiad y llywodraethwyr (yn rhad ac am ddim);

b

bod copïau o'r adroddiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol; ac

c

os oes rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, fod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

6

1

Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys—

a

os yw'r corff llywodraethu'n cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael copi o'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1 i 3, 5 i 7 a 10 o'r Atodlen (yn rhad ac am ddim) ac ar yr un pryd yn hysbysu'r rhieni hynny am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 7; a

b

pan fydd rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, os yw'r wybodaeth honno a'r hysbysiad hwnnw'n cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

7

Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR

Rheoliad 3

1

Os oes ar y corff llywodraethu rwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni,—

a

manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod blynyddol nesaf i'r rhieni a'i agenda;

b

mynegiad mai trafod adroddiad y llywodraethwyr a hefyd y dull y cyflawnodd y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol eu swyddogaethau fydd diben y cyfarfod hwnnw; ac

c

adroddiad ar yr ystyriaeth a roddwyd i unrhyw benderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod blynyddol blaenorol i'r rhieni (os oedd ar y corff llywodraethu rwymedigaeth i gynnal cyfarfod o'r fath).

2

Y manylion canlynol am aelodau'r corff llywodraethu a'u clerc—

a

enw pob llywodraethwr gan enwi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn Rhan I o Atodlen 9 i Ddeddf 1998) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo ac, os yw'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, mai llywodraethwr o'r fath yw ef neu hi;

b

yn achos llywodraethwr wedi'i benodi, y person a'i benododd;

c

mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad y daw cyfnod ei swydd i ben; ac

ch

enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'u clerc.

3

Pa wybodaeth bynnag sydd ar gael i'r corff llywodraethu am y trefniadau ar gyfer etholiad nesaf y llywodraethwyr-rieni.

4

Datganiad ariannol—

a

sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y mae copi ohono wedi'i roi i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;

b

sy'n dangos, yn gyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y darparwyd ei fod ar gael i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef;

c

sy'n rhoi manylion sut y defnyddiwyd unrhyw roddion a gafodd yr ysgol yn y cyfnod hwnnw; ac

ch

sy'n datgan cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.

5

Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 408 o Ddeddf 19966.

6

Yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol—

a

disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau cyhoeddus a chyraeddiadau'r disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus;

b

y cymwysterau galwedigaethol a enillwyd gan y disgyblion; ac

c

cofnodion presenoldeb y disgyblion;

a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 19967.

7

1

Yr wybodaeth a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau 8 a wnaed o dan is-adran (7) o adran 5379 o Ddeddf 1996, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (6) o'r adran honno.

2

Os yw'r wybodaeth a gyhoeddir gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 537(6) o Ddeddf 1996 yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf lawn ac ar ffurf gryno, rhaid cynnwys yr wybodaeth lawn yn adroddiad y llywodraethwyr.

8

Yr wybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol, a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau10 a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.

9

Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).

10

Pa wybodaeth bynnag ynghylch unrhyw dargedau—

a

ar gyfer gwelliannau a osodwyd gan y corff llywodraethu ynghylch perfformiad disgyblion yn yr ysgol y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 199711); a

b

ar gyfer gostwng lefel absenoldebau diawdurdod ar ran disgyblion dyddiol perthnasol yn yr ysgol a osodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 199812.

11

Mynegiad o'r canlynol mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr—

a

i ba raddau y cafodd nodau'r corff llywodraethu ynghylch chwaraeon yn yr ysgol eu cyrraedd; a

b

unrhyw lwyddiannau nodedig mewn chwaraeon gan dimau'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

12

Crynodeb o unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt yn dilyn adolygiad o'r fath.

13

Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol, a dyddiadau'r gwyliau hanner tymor, am y flwyddyn ysgol nesaf.

14

1

Crynodeb o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys (yn unol â rheoliadau13 a wnaed o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) yn llawlyfr yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei baratoi.

2

Pan fydd y Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn llawlyfrau gwahanol, rhaid cymryd bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob llawlyfr o'r fath.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ail-ddeddfu gyda rhai mân newidiadau Reoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.

Yn debyg i'r Rheoliadau 1999 hynny (a darpariaethau blaenorol yn Neddf Addysg 1996), mae'r Rheoliadau presennol yn nodi—

a

yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiadau llywodraethwyr o dan adran 42 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) (rheoliad 3 a'r Atodlen);

b

gofynion ynghylch yr iaith neu'r ieithoedd y mae'n rhaid i'r adroddiadau hynny gael eu cynhyrchu ynddi neu ynddynt (rheoliad 4); ac

c

gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w harchwilio yn yr ysgol (rheoliadau 5 i 7).

Dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol—

a

ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu roi copïau o'u hadroddiad llawn i rieni os cafodd crynodeb ei roi i'r rhieni a bod y rhieni wedi cael gwybod y gallant ofyn am gopi llawn o'r adroddiad os ydynt yn dymuno;

b

ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch yr ysgol yn eu hadroddiad;

c

rhaid bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw adolygiadau ar bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol a'r camau a gymerwyd yn dilyn yr adolygiadau hynny.