Search Legislation

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1110 (Cy.54)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3Mae Rheoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) 1999(3) wedi'u diddymu.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith ym mhob blwyddyn o dan adran 42(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfarfod blynyddol i'r rhieni” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 43 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y materion i ymdrin â hwy mewn adroddiad llywodraethwyr

3.  Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.

Gofynion ynghylch adroddiad llywodraethwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.

5.  Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—

(a)bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person a gyflogir yn yr ysgol yn cael copi o adroddiad y llywodraethwyr (yn rhad ac am ddim);

(b)bod copïau o'r adroddiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol; ac

(c)os oes rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, fod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

6.—(1Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys—

(a)os yw'r corff llywodraethu'n cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael copi o'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1 i 3, 5 i 7 a 10 o'r Atodlen (yn rhad ac am ddim) ac ar yr un pryd yn hysbysu'r rhieni hynny am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 7; a

(b)pan fydd rhwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni, os yw'r wybodaeth honno a'r hysbysiad hwnnw'n cael eu rhoi i'r rhieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

7.  Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2001

Rheoliad 3

ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR

1.  Os oes ar y corff llywodraethu rwymedigaeth (yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 1998) i gynnal cyfarfod blynyddol i'r rhieni,—

(a)manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod blynyddol nesaf i'r rhieni a'i agenda;

(b)mynegiad mai trafod adroddiad y llywodraethwyr a hefyd y dull y cyflawnodd y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol eu swyddogaethau fydd diben y cyfarfod hwnnw; ac

(c)adroddiad ar yr ystyriaeth a roddwyd i unrhyw benderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod blynyddol blaenorol i'r rhieni (os oedd ar y corff llywodraethu rwymedigaeth i gynnal cyfarfod o'r fath).

2.  Y manylion canlynol am aelodau'r corff llywodraethu a'u clerc—

(a)enw pob llywodraethwr gan enwi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn Rhan I o Atodlen 9 i Ddeddf 1998) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo ac, os yw'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, mai llywodraethwr o'r fath yw ef neu hi;

(b)yn achos llywodraethwr wedi'i benodi, y person a'i benododd;

(c)mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad y daw cyfnod ei swydd i ben; ac

(ch)enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'u clerc.

3.  Pa wybodaeth bynnag sydd ar gael i'r corff llywodraethu am y trefniadau ar gyfer etholiad nesaf y llywodraethwyr-rieni.

4.  Datganiad ariannol—

(a)sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y mae copi ohono wedi'i roi i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;

(b)sy'n dangos, yn gyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y darparwyd ei fod ar gael i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(c)sy'n rhoi manylion sut y defnyddiwyd unrhyw roddion a gafodd yr ysgol yn y cyfnod hwnnw; ac

(ch)sy'n datgan cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.

5.  Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 408 o Ddeddf 1996(6).

6.  Yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau cyhoeddus a chyraeddiadau'r disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus;

(b)y cymwysterau galwedigaethol a enillwyd gan y disgyblion; ac

(c)cofnodion presenoldeb y disgyblion;

a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996(7).

7.—(1Yr wybodaeth a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau (8) a wnaed o dan is-adran (7) o adran 537(9) o Ddeddf 1996, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (6) o'r adran honno.

(2Os yw'r wybodaeth a gyhoeddir gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 537(6) o Ddeddf 1996 yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf lawn ac ar ffurf gryno, rhaid cynnwys yr wybodaeth lawn yn adroddiad y llywodraethwyr.

8.  Yr wybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol, a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau(10) a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.

9.  Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).

10.  Pa wybodaeth bynnag ynghylch unrhyw dargedau—

(a)ar gyfer gwelliannau a osodwyd gan y corff llywodraethu ynghylch perfformiad disgyblion yn yr ysgol y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997(11)); a

(b)ar gyfer gostwng lefel absenoldebau diawdurdod ar ran disgyblion dyddiol perthnasol yn yr ysgol a osodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998(12).

11.  Mynegiad o'r canlynol mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr—

(a)i ba raddau y cafodd nodau'r corff llywodraethu ynghylch chwaraeon yn yr ysgol eu cyrraedd; a

(b)unrhyw lwyddiannau nodedig mewn chwaraeon gan dimau'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

12.  Crynodeb o unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt yn dilyn adolygiad o'r fath.

13.  Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol, a dyddiadau'r gwyliau hanner tymor, am y flwyddyn ysgol nesaf.

14.—(1Crynodeb o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys (yn unol â rheoliadau(13) a wnaed o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) yn llawlyfr yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei baratoi.

(2Pan fydd y Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn llawlyfrau gwahanol, rhaid cymryd bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob llawlyfr o'r fath.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ail-ddeddfu gyda rhai mân newidiadau Reoliadau Addysg (Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.

Yn debyg i'r Rheoliadau 1999 hynny (a darpariaethau blaenorol yn Neddf Addysg 1996), mae'r Rheoliadau presennol yn nodi—

(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiadau llywodraethwyr o dan adran 42 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) (rheoliad 3 a'r Atodlen);

(b)gofynion ynghylch yr iaith neu'r ieithoedd y mae'n rhaid i'r adroddiadau hynny gael eu cynhyrchu ynddi neu ynddynt (rheoliad 4); ac

(c)gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w harchwilio yn yr ysgol (rheoliadau 5 i 7).

Dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol—

(a)ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu roi copïau o'u hadroddiad llawn i rieni os cafodd crynodeb ei roi i'r rhieni a bod y rhieni wedi cael gwybod y gallant ofyn am gopi llawn o'r adroddiad os ydynt yn dymuno;

(b)ni fydd angen bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch yr ysgol yn eu hadroddiad;

(c)rhaid bellach i gyrff llywodraethu gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw adolygiadau ar bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol a'r camau a gymerwyd yn dilyn yr adolygiadau hynny.

(1)

1998 p.31. Ar gyfer y diffiniad o “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

Diwygiwyd is-adran (1) (a) o adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44); diwygir is-adran (4)(f) yn rhagolygol gan baragraff 30(b) o'r Atodlen honno; diwygiwyd is-adran (2) (d) gan baragraff 106(b) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998; diddymwyd is-adrannau (1)(b), (3) a (4)(b) ac (c) gan baragraff 106(a), (c) a (d)(i) o'r Atodlen honno ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno; a diwygiwyd is-adran (4)(d) gan baragraff 106(d)(ii) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812); gweler paragraffau 18—20 o Atodlen 2.

(7)

Amnewidir adran 537(1) newydd gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1867 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1470). Gweler rheoliad 9 ac Atodlenni 1, 2 a 4 i'r Rheoliadau hynny.

(8)

Gweler rheoliad 10 o O.S. 1998/1867.

(9)

Diwygiwyd is-adran (7) o adran 537 gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.

(10)

Gweler O.S. 1999/1812, Atodlen 2, paragraffau 23 a 24.

(11)

1997 p.44. Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1811).

(12)

Gweler O.S. 1999/1811.

(13)

Y rheoliadau cyfredol sy'n nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn llawlyfrau ysgolion yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources