ATODLENDIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Å HWY
7
a
Hyfforddiant i benaethiaid, athrawon ac athrawesau a chynorthwywyr anghenion arbennig mewn ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig nad ydynt yn ysgolion a gynhelir ac i'r aelodau hynny o staff yr ysgolion hynny neu yng ngwasanaethau cynnal awdurdod addysg ac iddynt gyfrifoldeb am blant ag anghenion addysgol arbennig;
b
Annog partneriaethau rhwng rhieni, awdurdodau addysg, ysgolion a chyrff gwirfoddol er mwyn sicrhau addysg well i blant ag anghenion addysgol arbennig, drwy ddefnyddio deunyddiau, technoleg gwybodaeth ac amser ychwanegol y staff i gryfhau mewnbwn yr awdurdod addysg i'r cyfarfodydd adolygu blynyddol;
c
Mesurau i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i fynychu ysgolion prif-ffrwd;
ch
Cefnogaeth i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd;
d
Cefnogaeth i blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu sydd mewn perygl o ddatblgyu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol;
dd
Cefnogaeth i hyrwyddo cydweithio, at ddibenion addysgol, rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill, gan gynnwys cefnogaeth i brojectau peilot dethol i ymchwilio i drefniadau cynllunio rhanbarthol i wella gwasanaethau i blant ag anghenion addysgol arbennig a'u datblygu.