Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cyrff i'r diben hwn. Diddymir a disodlir y Rheoliadau blaenorol gan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny. Daw Syniad (yr Asiantaeth dros Welliant, Datblygiad a Chyflogwyr yng Nghymru) yn gorff penodedig i ddibenion adran 78.