- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
8 Chwefror 2000
Yn dod i rym
9 Chwefror 2000
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, diddymir drwy hyn Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) 1992(3), Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1993(4), Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio)1995(5), a Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1998(6).
3. Mae'r cyrff canlynol yn rhai penodedig at ddibenion adran 76(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, sef:–
(a)Bwrdd Arholi'r Gwasanaethau Tân;
(b)Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus Oedolion;
(c)Biwro Cydwladol Llywodraeth Leol;
(d)Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach;
(e)Public Private Partnerships Programme Limited;
(f)Syniad;
(g)yr Asiantaeth dros Welliant a Datblygiad Llywodraeth Leol;
(h)Corff Cyflogwyr Llywodraeth Leol; ac
(i)Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Chwefror 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cyrff i'r diben hwn. Diddymir a disodlir y Rheoliadau blaenorol gan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny. Daw Syniad (yr Asiantaeth dros Welliant, Datblygiad a Chyflogwyr yng Nghymru) yn gorff penodedig i ddibenion adran 78.
1988 p.41. Diwygiwyd adran 76 gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.19). Atodlen 10, paragraff 8.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: