Search Legislation

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau) a (Darpariaethau Trosiannol Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2000

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rhan IICynllun Gostyngiadau

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn

  • ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994;

  • ystyr “Deddf 1994”(“the 1994 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac ystyr “adran 10” (“section 10”), “adran 11” (“section 11”) ac “adran 12” (“section 12”) yw adran 10 o'r Ddeddf, adran 11 o'r Ddeddf ac adran 12 o'r Ddeddf, yn eu tro;

  • ystyr “y Rheoliadau Anableddau” (“the Disabilities Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau ar gyfer Anableddau 1992(2);

  • ystyr “y Rheoliadau Budd-dâl” (“the Benefit Regulations”) yw Rheoliadau Budd-dâl y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992(3); ac

  • ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru a sefydlwyd o dan Ddeddf 1994.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ardal gymunedol” (“community area”) yw ardal sy'n gyfled ag ardal cymuned ar 1 Ionawr 2000; ac mae ardal gymunedol a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn wrth enw cymuned mewn sir neu fwrdeistref sirol yn golygu'r ardal sy'n gyfled ag ardal y gymuned honno ar 1 Ionawr 2000.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â swm y mae person yn atebol am ei dalu mewn perthynas â'r dreth gyngor –

  • Yn ddarostyngedig i reoliad 3(2) isod, mae'r “gostyngiad priodol” (“the appropriate reduction”) yn golygu'r swm (os oes swm) a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r ardal gymunedol berthnasol a'r band prisio perthnasol;

  • ystyr “yr ardal gymunedol berthnasol” (“the relevant community area”) yw'r ardal gymunedol y mae'r annedd daladwy berthnasol ynddi;

  • ystyr “yr annedd daladwy berthnasol” (“the relevant chargeable dwelling”) yw'r annedd daladwy y mae'r person yn atebol am dalu'r swm mewn perthynas â hi; ac

  • yn ddarostyngedig i reoliad 3(3) isod a heblaw lle mae reoliad 3(2) isod yn gymwys, ystyr “y band prisio perthnasol” (“the relevant valuation band”) yw'r band prisio a ddangosir fel yr un sy'n gymwys ar gyfer yr annedd daladwy berthnasol yn rhestr brisio yr awdurdod bilio.

(4Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at berson sy'n atebol am dalu i awdurdod bilio, mewn perthynas ag annedd daladwy berthnasol, swm mewn perthynas â'r dreth gyngor (p'un a yw atebolrwydd y person hwnnw yn unig, neu'n gyd ac unigol), yn cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, gyfeiriad at berson a fydd ym marn yr awdurdod yn atebol fel hyn; a dehonglir cyfeiriadau at y swm y mae person yn atebol am ei dalu yn unol â hyn.

Gostyngiadau at ddibenion y Rheoliadau Anableddau

3.—(1Ym mharagraffau (2) a (3) ystyr person cymwys yw person sy'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau Anableddau.

(2Yn y Rheoliadau hyn lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir ym mand prisio A, y gostyngiad priodol fydd y swm a ddangosir yn y golofn o dan y pennawd A* yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(3Lle mae person sy'n berson cymwys yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd a restrir mewn band prisio heblaw band prisio A, dehonglir unrhyw gyfeiriad at y band prisio perthnasol fel pe bai'n gyfeiriad at y band prisio amgen a fyddai'n gymwys yn achos y person hwnnw at ddibenion rheoliad 4 o'r Rheoliadau Anableddau.

Cyfrifo'r swm sy'n daladwy

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod –

(a)os yw person yn atebol am dalu swm (“y swm”) i awdurdod bilio mewn perthynas â'r dreth cyngor am ddiwrnod yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2000,

(b)os yw'r swm yn cael ei benderfynu o dan adran 10, ac

(c)os yw'r annedd daladwy berthnasol mewn ardal gymunedol y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn,

caiff y swm ei ostwng drwy dynnu oddi wrtho swm a gyfrifir yn unol â'r fformwla –

ac

  • R yw'r gostyngiad priodol.

(2Os yw'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) uchod yn cael ei benderfynu o dan adran 10 wedi'i darllen ag adran 11 neu adran 12, tynnir y didyniad sy'n angenrheidiol o dan baragraff (1) uchod o'r swm gwreiddiol.

(3Ym mharagraff (2) uchod y swm a fyddai'n cael ei benderfynu o dan adran 10 o'i darllen heb adran 11 ac adran 12 yw'r “swm gwreiddiol” (“the original amount”).

(4Os oes penderfyniad yn dyfarnu budd-dâl y dreth gyngor o dan y Rheoliadau Budd-dâl yn effeithiol ynglŷn â'r annedd daladwy ar gyfer diwrnod y mae person yn atebol am dalu'r swm a grybwyllir yn is-baragraff 1(a) uchod mewn perthynas â'r annedd honno, y swm y mae'r person hwnnw'n atebol am ei dalu fydd –

(a)y swm a geir yn unol â pharagraff (1) uchod, neu baragraffau (1) a (2) uchod, yn ôl fel y digwydd, am y diwrnod hwnnw, llai

(b)budd-dâl treth cyngor y person hwnnw am y diwrnod hwnnw.

Apelau

5.—(1Pan fydd awdurdod bilio yn gwneud penderfyniad ynghylch sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu mewn perthynas ag unigolyn, os bydd y person yr effeithir arno yn gofyn yn ysgrifenedig, rhaid i'r awdurdod roi datganiad ysgrifenedig i'r person hwnnw o'i benderfyniad a'r rheswm drosto; a rhaid anfon unrhyw ddatganiad o'r fath o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y gofynnir amdano neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.

(2Ni ellir gwneud apêl i dribiwnlys prisio mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod bilio sy'n cyfeirio at sut mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu cymhwyso neu eu gweithredu yn unig; ond fe all person a dramgwyddir gan benderfyniad o'r fath apelio at fwrdd adolygu a benodir gan yr awdurdod bilio ac a gyfansoddir fel y'i crybwyllir yn rheoliad 70(3) o'r Reoliadau Budd-dâl.

Hysbysu apêl

6.  Rhaid i apelydd hysbysu apêl o dan y Rheoliadau hyn yn ysgrifenedig i'r awdurdod bilio o fewn 4 wythnos o'r dyddiad y mae'r awdurdod bilio yn anfon y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 5(1) uchod at yr apelydd.

Gweithdrefn apelau

7.—(1Bydd rheoliadau 71(2) i (9) a 72(4) a (5) o'r Rheoliadau Budd-dâl yn gymwys gyda'r newidiadau angenrheidiol at ddibenion apêl o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adolygiad pellach.

(2Rhaid i awdurdod bilio gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad gan ei fwrdd adolygu.

(2)

O.S. 1992/1814; y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1992/554; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1993/195 ac O.S. 1999/1004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources