xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi cynllun ar gyfer lleihau atebolrwydd unigolion penodol yng Nghymru i dalu'r dreth gyngor am y flwyddyn ariannol yn dechrau 1 Ebrill 2000. Maent yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer cynnwys, ar hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor am yr un cyfnod, wybodaeth ynghylch effaith y cynllun gostyngiadau (lle bo'n gymwys) am y flwyddyn

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penderfynu'r gostyngiad yn atebolrwydd person drwy gyfeirio at y gostyngiad priodol, os oes un, am yr ardal gymunedol a'r band prisio perthnasol am yr annedd daladwy

Mae rheoliadau 5 i 7 yn darparu ar gyfer apelau ynghylch sut mae'r awdurdodau bilio yn cymhwyso neu'n gweithredu'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn darparu i ddiwygiadau i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 bennu pa wybodaeth sydd i'w chynnwys yn hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor yn y flwyddyn 2000/2001

Mae'r Atodlen yn nodi'r ardaloedd cymunedol y rhagnodir gostyngiad mewn perthynas â hwy, ynghyd â'r gostyngiad priodol am bob un o fandiau prisio'r dreth gyngor.