xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau i gyfyngu ar symudiadau

11.—(1Os yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri, yn unol ag ail baragraff Erthygl 22.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, gall un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i geidwad gwartheg y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy ac sydd ar ddaliad, yn cyfyngu ar symud y gwartheg i'r daliad neu oddi arno os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn gorfodi'r ail indentiad o Erthygl 7.1 o'r Rheoliad hwnnw yn iawn.

(2Os yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri, y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch defnyddio'r isafswm sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol)(1).

(1)

OJ Rhif L60, 28.2.98, t.78.