- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 29 Tachwedd 2000, yn diwygio ymhellach Reoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Mae'r prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn—
(a)yn ymestyn y diffiniad o “cynllun iawndal Cymunedol” i gynnwys yr un a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98 sy'n darparu bod iawndal yn cael ei gynnig i gynhyrchwyr penodol llaeth a chynhyrchion llaeth sydd wedi'u cyfyngu dros dro rhag cyflawni eu masnach (OJ Rhif L291, 30.10.98, t.4) (rheoliad 3(a));
(b)yn dileu Islay o'r trefniadau cwota llaeth penodol sy'n gymwys i Ynysoedd yr Alban (rheoliad 3(b)) ac yn egluro i ba raddau ac ym mha ffordd y mae'r trefniadau hynny'n gymwys (rheoliad 4);
(c)yn ymestyn y cyfnod (o 28 i 56 o ddiwrnodau, yn ddarostyngedig i ddyddiad terfynol o 14 Mai yn y flwyddyn gwota nesaf sy'n dilyn) y bydd rhaid i brynwyr hysbysu'r Bwrdd Ymyrraeth o unrhyw gynhyrchydd sydd newydd gofrestru gyda hwy o'i fewn (rheoliad 5(a)(ii));
(ch)drwy reoliad 6(4A) newydd o'r prif Reoliadau, yn egluro pwy sy'n cael caniatâd, ai prynwr gwreiddiol ynteu prynwr newydd llaeth cynhyrchydd, i wneud cais i'w gwota gael ei addasu o ganlyniad i newidiadau dilynol yn lefel nodweddiadol y braster a geir yn llaeth y cynhyrchydd hwnnw (rheoliad 5(c));
(d)yn dileu'r gofyniad (gynt yn rheoliad 11(5) o'r prif Reoliadau), a oedd yn gymwys yn achos trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir hefyd, ar ôl i'r trosglwyddiad gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Ymyrraeth, i'r trosglwyddai ddarparu datganiad i'r Bwrdd ynghylch y cwota a ddefnyddid a'r cwota nas defnyddid a oedd ar gael iddo ef ac i'r trosglwyddwr ar ddyddiad y trosglwyddiad (rheoliad 6(c));
(dd)drwy reoliad 11(7) diwygiedig yn y prif Reoliadau, yn ymestyn gallu'r Bwrdd Ymyrraeth i ryddhau trosglwyddai o'i ymrywmiad, fel bod y pŵ er yn gymwys nid yn unig lle mae amgylchiadau eithriadol yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu, ond hefyd lle maent yn arwain at fethiant sylweddol â sicrhau cynnydd a gynlluniwyd yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu (rheoliad 6(d));
(e)yn egluro'r sail y gellir ail-ddyranu cwota dros ben dros dro arni (rheoliad 7(a)) ac yn dileu o gategori'r cynhyrchwyr sy'n gymwys i gael ailddyraniadau dros dro o'r fath y cynhyrchwyr y mae cydnabyddiaeth ffurfiol bod yna gamgymeriad wrth gyfrifo eu hardoll yn effeithio arnynt (rheoliad 7(b));
(f)yn galluogi'r Bwrdd Ymyrraeth, yng nghyd-destun penderfyniad i drosi cwota cynhyrchydd yn barhaol ac os bydd amgylchiadau eithriadol wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu neu fethiant arwyddocaol â sicrhau cynnydd a gynlluniwyd yn y llaeth sy'n cael ei gynhyrchu, i ryddhau'r cynhyrchydd hwnnw o'r cyfyngiad a fyddai fel arall yn ei atal rhag trosglwyddo allan gwota o'r math y mae wedi trosi iddo yn yr un flwyddyn gwota â'r un y digwyddodd y trosi hwnnw ynddi (rheoliad 8);
(ff)yn caniatáu i'r Bwrdd Ymyrraeth ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw bersonau a ddiffinir fel “relevant persons” yn rheoliad 30(6) o'r prif Reoliadau gynnal a chadw cofnodion (rheoliad 11);
(g)yn ymestyn y tramgwydd a ddisgrifir yn rheoliad 31(1)(b) o'r prif Reoliadau i gynnwys achosi elfennau o'r tramgwydd hwnnw (rheoliad 12).
Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: