- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni all neb sy'n athro neu athrawes gymwysedig gael ei gyflogi neu ei chyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol yng Nghymru onid yw wedi'i gofrestru neu ei chofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol os yw'r person hwnnw wedi'i gyflogi dim ond i ddarparu—
(a)addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu
(b)addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu
(c)addysg ran-amser ac addysg amser-llawn o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn —
(a)mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2);
(b)mae cyfeiriadau at berson a gyflogir fel athro neu athrawes yn cynnwys cyfeiriadau at berson y cytunwyd ei fod i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac
(c)mae cyfeiriadau at ysgol yn gyfeiriadau:
(i)at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3); neu
(ii)at ysgol arbennig o fewn ystyr adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996(4) nad yw'n cael ei chynnal felly.
Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)); adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).
1996 p.56; mae adran 337(1) wedi'i diwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: